3 Hwr Doeth ydy creadigaeth gysyniadol ddiweddaraf criw Pasta Hull, a Rhys Dafis sy’n mynegi ei farn yn ei adolygiad ar gyfer rhifyn diweddaraf Y Selar.
Do’n i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl o’r albwm hwn, gan fod hip-hop yn genre cymharol ddiarth i mi. Fodd bynnag, ches i ddim fy siomi.
Dyma, heb os, un o albyms Cymraeg mwyaf gwleidyddol yr unfed ganrif ar hugain. Mae dylanwad y Tystion a Datblygu yn amlwg ar y Tri Hwr Doeth (cyfeirir at y ddau ar yr albym), ond nid yw’r grŵp hip-hop o Gaernarfon yn ofn dilyn eu trywydd eu hun.
Dyw’r caneuon ddim yn rhai byrion – gyda’r mwyafrif yn rhyw 4 neu 5 munud – ond nid yw hyn o reidrwydd yn beth gwael, gan ei fod yn rhoi sgôp iddynt drafod pynciau dyrys.
Mae nifer o’r caneuon yn trafod materion gwleidyddol cenedlaethol neu fyd-eang. Ynghyd â chaneuon sy’n dadlau dros gyfreithloni mariwana, mae ‘I Moved on Her Like a Bitch’ yn feirniadaeth hallt o Donald Trump, a disgrifir Brexit fel “piso ar y bwrdd cinio wedyn disgwyl croeso i gael dod eto”.
Mae dicter hefyd at y genhedlaeth hŷn am y bleidlais, ac mae’r ymdeimlad o fod yn ddifreintiedig yn un sy’n rhedeg drwy’r casgliad. Mae ‘Diwadd y Dydd’ yn trafod pa mor anodd yw bywyd pobl ifanc i gymharu â’r genhedlaeth cynt, a herio’r ddelwedd o millennials fel cenhedlaeth ddiog.
Y peth gorau am yr albym, yn ogystal â’r geiriau coeglyd, yw’r ffaith ei fod yn bortread di-flewyn-ar-dafod o fywyd yng ngogledd orllewin Cymru. Mae Tri Hwr Doeth yn bendant yn chwa o awyr iach.
Pasta Hull sydd ar glawr rhifyn diweddaraf Y Selar, rhifyn Mawrth 2018.