‘Pawb di Mynd i Gaerdydd’ – sengl gyntaf Bwca

Pwy ydy Bwca medde chi? Wel, prosiect cerddorol Steff Rees o Aberystwyth ydyBwca, ac mae newydd ryddhau ei sengl gyntaf, ‘Pawb di Mynd i Gaerdydd’.

Rhyddhawyd y sengl ar label Fflach wythnos diwethaf. Mae’n cael ei disgrifio fel ‘cân brotest pync-aidd, cynhyrfus a reit fachog am yr allfudiad systemataidd a di-flino o bobl ifanc o’r Fro Gymraeg i Gaerdydd er mwyn dod o hyd i nirfana o swyddi da, datblygiad cymdeithasol a phleser – llawer ohonynt ddim am ddychwelyd’.

Di flewyn ar dafod i ddweud y lleia’!

Mwy am Bwca 

Steff, sydd hefyd yn hyrwyddwr gigs yn ardal Aberystwyth, sy’n arwain y prosiect, ac ef sydd y tu ôl i’r gerddoriaeth a’r geiriau.

Yn ymuno ag ef ar y sengl gyntaf mae’r cerddorion Iwan Hughes o Abergwaun a’r Dhogie

Band ar y drymiau, a Lee Mason (Lowri Evans, Ail Symudiad ac ati) o Drefdraeth yn chwarae’r bas ac ychydig o organ.

Recordiwyd y sengl yn Stiwdio Fflach, Aberteifi ac yn Stiwdio Lee Mason yn ei gartref yn Nhy’drath. Lee oedd yn gyfrifol am y broses recordio a chymysgu.

Roedd Bwca yn agor arlwy Gŵyl Nôl a Mla’n, Llangrannog nos Wener diwethaf, 6 Gorffennaf. Roedd Steff hefyd ar y llwyfan gyda Mei Gwynedd yn chwarae’r ukelele nos Sadwrn, ac hefyd yn aelod o bwyllgor trefnu’r ŵyl – roedd i’w weld yn rhedeg o’r naill lwyfan i’r llall yn cludo offer sain trwy gydol y dydd. Dyna beth ydy boi prysur!

Mae mwy ar y gweill gan Bwca dros y misoedd nesaf, gyda’r bwriad i rhyddhau sengl ddwbl tuag at diwedd yr haf, a mynd yn ôl i wneud mwy o waith caib a rhaw yn yr Hydref.