Bydd Ani Glass yn rhyddhau ei sengl newydd ‘Peirianwaith Perffaith’ ar label Recordiau Neb fis nesaf.
26 Hydref ydy’r dyddiad rhyddhau swyddogol, ac y sengl newydd fydd cynnyrch cyntaf Ani eleni yn dilyn blwyddyn brysur yn 2017.
Rhyddhawyd EP cyntaf Ani, Ffrwydrad Tawel, nôl ym mis Ebrill 2017 cyn rhyddhau fersiwn newydd ac amgen o’r EP, yn cynnwys fersiynau o’r caneuon wedi’i hail-gymysgu gan artistiaid eraill gan gynnwys Carcharorion, Cotton Wolf, Plyci ac R. Seiliog, ychydig fisoedd yn ddiweddarach ym mis Awst.
Yn ôl y label mae Ani Glass nôl gyda’i sengl newydd sy’n ‘frodwaith o synau synth gofodol, samplau a churiadau diwydiannol. Mae pob nodyn o’i llais yn arnofio’n swynol uwchben sain peirianyddol y ddinas.’
Chwilio am hunaniaeth
Yn ôl Ani, mae’r gân yn trafod yr ysfa i “chwilio am hunaniaeth yng nghanol dryswch y ddinas a ffeindio cysur a llonyddwch yng nghysgodion gobaith”.
Ani Glass ydy prosiect cerddorol pop electronig y cerddor, artist, ffotograffydd a chynhyrchwraig Ani Saunders. Mae Ani, fel ei chwaer Gwenno, yn adnabyddus am ganu yn ei hieithoedd brodorol sef y Gymraeg a’r Gernyweg ac mae’n hynod falch o’i hetifeddiaeth. Rhyddhaodd ei gwaith cyntaf fel artist unigol yn ystod 2016.
Cyn dechrau ar ei gyrfa fel artist unigol, bu Ani yn aelod o The Pipettes, gan ymuno yn 2008 a recordio’r albwm Earth Vs. The Pipettes gyda’r cynhyrchydd Martin Rushent. Cyn hyn roedd Glass yn aelod o Genie Queen a oedd yn cael eu rheoli gan Andy McCluskey o’r grŵp OMD.
Mae Ani allan yng Nghanada ar hyn o bryd yn paratoi i berfformio yng Ngŵyl Pop Montréal ar 28 a 29 Medi fel rhan o ddirprwyaeth Gŵyl Focus Wales yn yr ŵyl honno.
Mae’r trac newydd eisoes wedi’i lwytho i safle Soundcloud Ani Glass.
Gwrandewch, a mwynhewch: