Gigs: Gwilym Bowen Rhys, Iestyn Tyne, Osian Morris, Alaw Fflur Jones, Nicolas Davalan a cherddorion o Wlad y Basg
Nid yn aml y cawn glywed cerddorion o Wlad y Basg yn ein gigs wythnosol yng Nghymru. Dyma pam mae’n bwysig eich bod chi’n cymryd mantais o’r cyfle yma ac yn brysio i’r Llew Gwyn yn Nhal-y-bont heno a’r Dovey Arms, Glantwymyn nos fory, 13 Ionawr.
Bydd Gwilym Bowen Rhys a llawer o gerddorion poblogaidd, traddodiadol Cymru’n chwarae yno gan gynnwys enwau o Wlad y Basg sef Mixel Ducau, Urko Arazeka, Izar Garwendia ac Arrate IIlaro.
Os am rywbeth ‘chydig trymach – cofiwch bod Chroma’n perfformio gyda chefnogaeth yn Jac’s Aberdâr nos Sadwrn 13 Ionawr, mae’n bownd o fod yn bangar o gig fel arfer gyda’r triawd o’r Cymoedd!
Cân: Cosmic – Pys Melyn
Fel rhan o gyfres senglau Sain, mae ‘Cosmic’ gan Pys Melyn yn cael ei ryddhau’n swyddogol heddiw, ynghyd â fideo i gyd-fynd â’r trac. Dyma’r ail sengl i’w rhyddhau yn y gyfres a lansiwyd fis Rhagfyr. Y gyntaf oedd ‘Gad i Mi Gribo Dy Wallt’ gan Bitw.
Cafodd ‘Cosmic’ ei recordio yn Stiwdio Sain fis Tachwedd, ac ar y trac yma mae Sion Adams (aelod o Ffracas) yn ymuno â Pys Melyn (offerynnau taro a geiriau) a Jac Williams (aelod arall o Ffracas) hefyd yn cyfrannu ei lais.
Aled Hughes a Pys Melyn sydd wedi cynhyrchu’r trac, a Billy Bagilhole sydd wedi cyfarwyddo’r fideo ar gyfer Ochr 1.
Mewn datganiad gan Sain, dywedodd Pys Melyn am ‘Cosmic’ mai “Trac am yncl ffrind i ni ydi hon. ‘Cosmic’ oedd ei ‘catchphrase’ o a’r Cosmicmobile oedd ei gar o. Mi oedd hynny’n mynd gyda theimlad y trac. Mi es i fewn i Stiwdio Sain heb syniad o beth oedd am ddigwydd – felly mi ddechreuais i o ‘scratch’ a neud o i fyny fel o’n i yn mynd ymlaen. Mi oedd o yn hollol fyrfyfyr – just defnyddio lot o hen synths Oberheim a DX7”
Mae ‘Cosmic’ ar gael yn swyddogol o heddiw (12 Ionawr) ymlaen, yn ddigidol ar Apton, iTunes, Apple Music a Spotify.
Artist: Welsh Whisperer
Ma hi’n amhosib osgoi y boi yma’n tydi. Ar wahân i Gwilym Bowen Rhys a’i 100 o gigs mewn blwyddyn, does bosib mai WW oedd artist prysura Cymru yn ystod 2017.
Boed chi’n ffan o’i gerddoriaeth a hiwmor neu beidio, ma’n rhaid cyfaddef ei fod wedi creu niche bach llwyddiannus iawn i’w hun gyda llwythi’n heidio i’w gigs. Os oedd angen cadarnhad o hynny, wel ei gyhoeddiad ar Twitter bod ei gig cyntaf o 2018, yn y Brunant Arms, Caio, wedi gwerthu allan ydy hwnnw.
Ni’n Beilo Nawr bois bach…
Record: Caneuon Heather Jones – Heather Jones
Nos Fercher, fe wnaeth Y Selar gyhoeddi mai Heather Jones fydd yn derbyn gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar eleni.
Fel llynedd, byddwn ni’n cynnal gig arbennig i ddathlu a thalu teyrnged i enillydd y wobr, a bydd Heather yn perfformio yn Aberystwyth ar nos Wener Gwobrau’r Selar, gyda chefnogaeth gan Alys Williams.
Go brin bod angen cyfiawnhau pam bod Heather yn haeddu’r wobr – mae wedi bod yn perfformio ar lwyfannau Cymru ers dechrau’r 1960au, ac mae rhai o’i chaneuon gyda’r mwyaf adnabyddus yn y Gymraeg. Ni ellir disgrifio ‘Pan Ddaw’r Dydd’, ‘Cwm Hiraeth’ ac wrth gwrs ‘Colli Iaith’ fel dim ond clasuron.
Rheswm arall dros roi’r wobr iddi eleni ydy ein bod yn nodi hanner can mlynedd ers cyhoeddi ei chynnyrch unigol cyntaf, sef yr EP Caneuon Heather Jones.
Dyma’r hyfryd ‘Gweld yr Haul’ o’r record fer honno:
Ac un peth arall..: Cyhoeddi rhestrau byr cyntaf Gwobrau’r Selar
Yn ogystal â chyhoeddi mai Heather Jones fydd yn derbyn y wobr Cyfraniad Arbennig, rydan ni hefyd wedi cyhoeddi’r ddwy restr fer gyntaf ar gyfer Gwobrau’r Selar.
Y tri sydd wedi cyrraedd rhestr fer categori ‘Cân Orau’ ydy ‘Aros o Gwmpas’ gan Omaloma; ‘Dihoeni’ gan Sŵnami; a ‘Drwy Dy Lygaid Di’ gan Yws Gwynedd.
Yr ail gategori i’w gyhoeddi ydy ‘Digwyddiad Byw Gorau’ gyda Gig y Pafiliwn yn Eisteddfod Môn, Maes B, a Sesiwn Fawr Dolgellau yn dod i’r brig.
Dydan ni ddim isho dangos ffafriaeth at yr un o’r uchod…felly dyma fanteisio ar y cyfle i rannu fideo gwych y gân oedd yn bedwerydd yn y bleidlais ‘Cân Orau’ eleni, ‘Bang Bang’ gan Cadno!
(*RHYBUDD – FIDEO ANADDAS I’R GWANGALON A PHLANT*)