Gig: Gwenno – Ucheldre, Caergybi 20 Ionawr
Awydd rhywbeth bach gwahanol i wneud heno? Wel, mae noson o ddathlu menywod yn y Parrot, Caerfyrddin sef FEMME-Art. Mae cymysgedd o farddoniaeth, celf, cerddoriaeth a chomedi’n cael ei ddathlu – y cyfan yn cael ei ddangos gan fenywod yno o 19:00 ymlaen. Bydd Adwaith a Glove yn chwarae yno, yn ogystal â DJ Patblygu yn chwarae tiwns a DJs Adwaith.
Nid yn aml cawn y cyfle i glywed Gwenno Saunders yn chwarae yng Nghaergybi, a dyma’r cyfle perffaith i glywed ei chaneuon newydd oddi ar ei halbwm newydd sy’n gyfan gwbl yn y Gernyweg, a sy’n cael ei ryddhau gan Heavenly Records ar 2 Mawrth. Bydd Gwenno’n chwarae’n Nghanolfan Ucheldre nos Sadwrn yma 20 Ionawr am 19:30. Mae modd prynu tocynnau i weld Gwenno’n hudo Môn yn fan hyn.
Mae Lansiad CUSP zine yn digwydd yn Inkspot Venue, Caerdydd heno. Digwyddiad sydd wedi cael ei drefnu gan “fofentwm o bobl ifanc” yw CUSP zine, gyda Cpt. Smith yn chwarae, yn ogystal â The Fussed, Al Mosses a DJ Garmon. Nid does modd prynu tocynnau ar y drws, felly brysiwch i’w prynu nhw’n fan hyn.
Cân: Llygad Ebrill – Alys Williams
Rhyddhawyd fideo byw i un o ganeuon hyfryd, newydd Alys Williams ar ddydd Mawrth 16 Ionawr gan Recordiau I KA CHING. Yn ogystal â’r fideo, daeth y newyddion bod Alys yn brysur yn y stiwdio efo’r band ar hyn o bryd yn gweithio ar yr albwm newydd.
Dyma’r ail fideo byw mewn cyfres o bump i I KA CHING ei ryddhau, mewn partneriaeth â Dydd Miwsig Cymru sydd ar 9 Chwefror.
‘Peiriant Ateb’ gan Y Cledrau oedd y cyntaf i’w ryddhau, a bydd traciau byw gan Candelas, Yr Eira a Ffracas yn cael eu rhyddhau wrth i Ddydd Miwsig Cymru nesáu. Ffilmiwyd y fideos gan SSP Media yn Stiwdio Drwm, Llanllyfni, sef stiwdio Ifan Jones ac Osian Williams.
Artist: Gwilym
Mae’n wythnos gyffrous i Gwilym, y band o Fôn a Chaernarfon, rhwng ei gwneud hi i rhestr fer y categori ‘Band neu artist newydd gorau’, a bod yn ran o lein-yp Gwobrau’r Selar am y tro cyntaf. Ac os nad oedd hynny’n ddigon, mae Recordiau Côsh wedi cyhoeddi bod sengl yn cael ei rhyddhau ganddynt ar 9 Chwefror – sef Dydd Miwsig Cymru.
‘Cwîn’ fydd y sengl newydd, yr ail sengl i’w rhyddhau ganddynt yn swyddogol ar Recordiau Côsh.
Dyma fersiwn wreiddiol y gân ddaeth â Gwilym i amlygrwydd gyntaf, ‘Llechan Lân’:
Record: Peiriant Ateb – Y Cledrau
Anodd yw pori trwy Twitter heb weld rhywun yn canmol albwm newydd Y Cledrau sef ‘Peiriant Ateb’. Mae eu halbwm cyntaf nhw ‘di bod yn lwyddiannus dros ben, hefo sawl un wedi gwirioni â’r trac olaf ar yr albwm sef ‘Cyfarfod o’r blaen’, yn ogystal â thraciau eraill yr albwm.
Fe ryddhawyd yr albwm ar 1 Rhagfyr 2017 gan label Recordiau I KA CHING, ac fe’i recordiwyd yn Stiwdio Drwm gydag Ifan Jones ac Osian Williams o Candelas.
Cyhoeddwyd yr wythnos yma hefyd, bod Y Cledrau’n lansio’r albwm mewn noson yn y Neuadd Buddug yn y Bala, 17 Mawrth, gyda Mellt a Gwilym yn cefnogi.
Dyma’r gyntaf yng nghyfres fideos byw I KA CHING gan Y Cledrau – Peiriant Ateb:
Un peth arall..: Cyhoeddi lein-yp Gwobrau’r Selar
Fe gyhoeddwyd lein-yp llawn Gwobrau’r Selar ar rhaglen Lisa Gwilym nos Fercher, yn ogystal â chyhoeddi’r rhestrau byr ar gyfer dau gategori arall.
Cyhoeddwyd mai Yr Eira fydd yn hed-leinio am y tro cynta’ ‘leni, a bod yr lein-yp yn un cwbl wahanol i’r un oedd ganddom ni llynedd – arwydd o faint o gerddoriaeth gwych sy’n dod allan yn y Gymraeg ar hyn o bryd.
Hefyd yn chwarae bydd Yr Oria’n, Gwilym, Serol Serol, Pasta Hull, Mr Phormula, Adwaith, Omaloma, Cadno a Band Pres Llareggub.
Fe gyhoeddwyd y rhestr fer ar gyfer ‘Band neu artist newydd gorau’ hefyd, sef Pasta Hull, Serol Serol a Gwilym. Yr ail restr i’w chyhoeddi nos Fercher oedd y ‘Gwaith Celf Gorau’ efo Toddi – Yr Eira, Anrheoli – Yws Gwynedd ac Achw Met – Pasta Hull yn cyrraedd y rhestr.
Mae tocynnau i’r noson wedi bod yn hedfan mynd dros y pythefnos diwethaf, ond mae dal rhai ar gael i’w prynu o nifer o siopau lleol ac ar-lein.
Ryda ni’n falch iawn efo’r lein-yp terfynol ag yn teimlo fel ei fod o’n adlewyrchu’r amrywiaeth wych o gerddoriaeth sydd wedi bod yn amlwg yn ystod 2017.