Pump i’r penwythnos 23/02/18

Gig: Cpt. Smith, Chroma, Y Sybs – Y Parrot, Caerfyrddin

Mae llawer iawn o bethau wedi’u trefnu dros yr wythnos nesaf, gan gychwyn hefo Beth Celyn yn y Galeri, yng Nghaernarfon y prynhawn yma. Bydd Bronwen Lewis yn chwarae’n Siop Tŷ Tawe, Abertawe, a bydd y Welsh Whisperer yn chwarae’n Neuadd Llanerfyl – oll yn digwydd heno!

Nos fory, 24 Chwefror, bydd Cpt. Smith, Chroma ac Y Sybs yn dod a ‘chydig o roc trwm i’r Parrot, Caerfyrddin.

Os am ganu gwlad, bydd Dafydd Iwan ym Mhontio, Bangor a’r Welsh Whisperer yn Neuadd Glantwymyn nos fory.

Wythnos nesa, a hithau’n Ddydd Gŵyl Dewi, mae gwledd o gerddoriaeth wedi’i drefnu ar eich cyfer, gan gychwyn yng Nghlwb Ifor Bach nos Fawrth 27 Chwefror, sef Gig PlasTaf: hefo’r Mellt, Y Sybs, Wigwam a DJ Garmon yn chwarae yno.

Ar ddiwrnod cenedlaethol y Cymry, nos Iau 1 Mawrth mae llawer o gigs wedi’u trefnu gan gynnwys y cyfle i weld y Cân i Gymru yn fyw, wrth iddo gael ei ddarlledu o Bontio, Bangor. Ar yr un noson mae’r Selar a Gorwelion yn trefnu gig yn y Cynulliad efo Adwaith, Hannah Grace, Mellt, Reuel Elijah & Mace, Roughion (set DJ) yn chwarae yno.

Band yn bendant greodd argraff yng Ngwobrau’r Selar ‘leni, a sydd hefyd ar glawr rhifyn newydd Y Selar ydy Pasta Hull. Byddan nhw’n chwarae yn Rascals, Bangor nos Iau gyda Piwb, a Lolfa Binc.

Ac yn olaf, yn sicr yn werth yr aros, bydd Lleuwen yn perfformio’n y Galeri, Caernarfon nos Iau gyda Gwilym Bowen Rhys yn cefnogi, fel rhan o daith fer Lleuwen yng Nghymru.

Cân: Drwy Dy Lygid Di – Yws Gwynedd

Dyma gân sy’ ‘di bod yn chwyrlio o gwmpas ein pennau dros yr wythnosau, os nad misoedd diwetha’ a hon gipiodd deitl ‘Cân Orau’ Gwobrau’r Selar ‘leni!

Drwy Dy Lygid Di ydy un o’r traciau poblogaidd sydd ar ail albwm poblogaidd Yws, ‘Anrheoli’, a ryddhawyd fis Ebrill 2017. Yr albwm enillodd y categori ‘Record Hir Orau’ nos Sadwrn diwethaf yng Ngwobrau’r Selar hefyd. Llongyfarchiadau mawr Yws! Dyma fideo i’r gân…sef y fideo ddaeth i’r brig yn y bleidlais am y ‘Fideo Gorau’ – bron i ni anghofio sôn!

Record: Cadno – Cadno

Band a siglodd y dorf yng Ngwobrau’r Selar ‘leni oedd Cadno, gyda presenoldeb Rebecca, y prif leisydd, yn cydio yn y gynulleidfa gerfydd eu gwar wrth iddi daflu pob math o siapiau ar y llwyfan, gan hyd yn oed ddisgyn i’r llawr wrth chwarae ei gitâr ar un pryd…mynnwch docyn i lle bynnag y gwelwch chi nhw’n chwarae nesa’.

Cadno hefyd aeth a’r wobr am y ‘Record Fer Orau’ gyda’r EP sy’n rhannu enw’r grŵp, eu record gyntaf. Mae’r debyg mai ‘Bang Bang’ oedd trac amlycaf y record, trac a gyrhaeddodd restr fer ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’.

Ar ôl blwyddyn gyffrous iawn i’r band ifanc yma, does dim dwywaith y byddwn yn clywed ac yn gweld llawer mwy ganddynt yn y dyfodol, dyma ‘Bang Bang’, fideo a ryddhawyd ganddynt ar gyfer Ochr 1 yn ddiweddar:

Artist: Yws Gwynedd

Anodd oedd meddwl am artist arall i’w gynnwys yn y slot yma’r wythnos hon, gan fod Yws wedi bachu pedair gwobr nos Sadwrn mewn noson enfawr arall i’r sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Does dim amheuaeth mai blwyddyn Yws Gwynedd oedd 2017.

Cipiodd y cerddor a ddaw yn wreiddiol o Flaenau Ffestiniog, bedair gwobr sef Record Hir Orau: Anrheoli, Fideo Gorau: ‘Drwy Dy Lygid Di’; Cân Orau: ‘Drwy Dy Lygid Di’ a Band Gorau.

Mae Yws wedi cael digon o lwyddiant yn y Gwobrau yn y gorffennol, gan ennill categori Artist Unigol Gorau deirgwaith, ynghyd â nifer o wobrau eraill dros y dair blynedd ddiwethaf. Er hynny, mae wedi pwysleisio’n rheolaidd mai prosiect y band cyfan ydy’r albwm diweddaraf ac roedd yr aelodau i gyd yn Aberystwyth i ymuno yn y dathlu.

Mae’r gwobrau’r coroni blwyddyn ardderchog i Yws Gwynedd, a oedd yn hed-leinio Gig y Pafiliwn yn Eisteddfod Môn, cyn llwyddo i ddenu’r dorf fwyaf erioed i Maes B ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod. Erbyn yr hydref fe benderfynodd ei fod am gymryd hoe o berfformio er mwyn canolbwyntio ar waith ei label, Recordiau Côsh.

Gobeithio mai egwyl fer fydd hon, ac y byddwn ni’n gweld Yws yn curo llawer mwy o wobrau yn y blynyddoedd i ddod!

Un peth arall..: Sôn am artistiaid newydd

Roedd yn noson arbennig i ddathlu artistiaid newydd ac addawol y sin hefyd nos Sadwrn – y grŵp o Fôn a Gwynedd, Gwilym, gipiodd y teitl am y Band neu Artist Newydd Gorau, gydag un arall o’r grwpiau oedd ar restr fer y categori hwnnw, Pasta Hull yn ennill y wobr am y Gwaith Celf Gorau am glawr eu halbwm cyntaf, Achw Met.

Braf oedd gweld cymaint o enwau newydd ar y rhestr hir o yng nghategori’r bandiau/artistiaid newydd ‘leni – daeth yn amlwg bod dyfodol disglair iawn o’n blaen, gyda genres newydd, gwahanol, ffresh yn cael ei clywed yn y Gymraeg. Hoffwn longyfarch Gwilym, unwaith yn rhagor am guro fel Band Newydd Gorau’r flwyddyn, a dyma Llechan Lân oddi ar sianel YouTube Ochr 1 o’r noson isod. Mae modd gwylio rhaglen Ochr 1: Gwobrau’r Selar yn ôl hefyd ar hyn o bryd.