Pump i’r Penwythnos 03 Awst 2018

Gig: Gig Meithrin Grangetown a’r Bae – Tramshed, Caerdydd – Gwener 3 Awst

A hithau’n benwythnos agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd, fel y byddech chi’n disgwyl mae digon o ddewis o ran cerddoriaeth fyw i’ch cadw’n hapus yn y brifddinas dros y penwythnos.

Ymysg uchafbwyntiau maes yr Eisteddfod ddydd Sadwrn mae modd dal Plant Duw, Cadno ac atgyfodiad y grŵp chwedlonol o Gaerdydd, Crumblowers ar lwyfan y maes. Gallwch hefyd weld The Gentle Good, Wigwam a Mabli Tudur yng Nghaffi Maes B.

Ddydd Sul, mae arlwy Caffi Maes B yn cynnwys Eadyth, Casset a Rifleros ymysg eraill, tra bod Cerddorfa Ukelele Cymru a Kookamunga ar Lwyfan y Maes.

Mae wythnos gigs Cymdeithas yr Iaith yng Nghlwb Ifor Bach yn agor mewn steil nos Sadwrn gyda lein-yp gwallgof, ond hynod Bryn Fôn, Adwaith a Plant Duw. Mae’n gyfuniad mor rhyfedd o artistiaid, mae’n rhaid iddo fod yn dda!

Bydd gigs Cymdeithas yn parhau nos Sul gyda lein-yp sy’n gweiddi ‘CAERDYDD’ yn groch – Wigwam, Hyll, Cadno a’r anhygoel Breichiau Hir. Gwych.

Ond ein prif ddewis yr wythnos hon ydy gig bach gwahanol sy’n croesawu’r Steddfod i Gaerdydd yn y Tramshed, Grangetown bnawn Dydd Gwener. Cylch Meithrin Grangetown a’r Bae ydy hyrwyddwyr annisgwyl Bwgi Bach, ond mae clamp o lein-yp sy’n cynnwys Lleden, Reuel Elijah, DJ Ani Glass, Wigwam a DJs Tŷ Gwydr. Dyma fydd gig lansio ‘answyddogol’ albwm newydd Wigwam, Coelcerth, hefyd felly ewch draw os ydach chi lawr yn fuan ar gyfer y Steddfod – mae’n edrych fel corcar!

Cân: ‘Gwenwyn’ – Alffa

Nid yw’r gyfrinach ein bod ni’n dipyn o ffans o Alffa yma yn Selar Towyrs.

Rydan ni wedi bod yn cadw golwg fanwl ar y ddeuawd o Lanrug fyth ers eu darganfod nhw’n fuan y 2016, ac wedi bod yn falch iawn o’u llwyddiant ers hynny, yn enwedig dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ogystal â chipio teitl Brwydr y Bandiau Maes B a Radio Cymru yn Eisteddfod Môn flwyddyn nôl, mae Alffa wedi eu henwi fel un o artistiaid Gorwelion eleni yn ddiweddar.

Heddiw, maen nhw’n rhyddhau eu sengl ddiweddaraf, a’r cynnyrch cyntaf iddyn nhw gyhoeddi gyda Recordiau Côsh.

‘Gwenwyn’ ydy enw’r sengl newydd, ac roedd Y Selar yn falch iawn o’r cyfle i gyflwyno’r trac i’r byd am y tro cyntaf nos Lun. Ma hon yn bangar o drac gan Dion a Sion…

 

 

Record: Coelcerth – Wigwam

Band arall mae Y Selar wedi bod yn monitro’n ofalus ers eu darganfod yn Eisteddfod yr Urdd Penybont ar Ogwr llynedd ydy Wigwam.

Er gwaetha’r ffaith bod y rhan fwyaf o’r band wedi bod yn eistedd eu arholiadau lefel A eleni, maen nhw wedi cael blwyddyn brysur a digon llewyrchus. Ac mae’r prysurdeb yn cyrraedd penllanw yr wythnos hon i’r band ifanc o Gaerdydd, wrth i’r Eisteddfod Genedlaethol gyrraedd eu hardal leol.

Brynhawn Mercher, bydd Wigwam yn cystadlu am deitl Brwydr y Bandiau yn rownd derfynol y gystadleuaeth ar Lwyfan y Maes. Mae cyfle i ddysgu mwy amdanyn nhw, a’r grwpiau eraill sydd wedi cyrraedd y ffeinal yn rhifyn newydd Y Selar fydd allan ddydd Llun.

Ond cyn hynny, mae’r grŵp yn rhyddhau eu halbwm cyntaf, Coelcerth, heddiw. Fe gafwyd tamaid i aros pryd ar ffurf y sengl ‘Mynd a Dod’ a ryddhawyd gan label JigCal fis Gorffennaf.

Os nad ydy hynny’n ddigon, wel, mae sioe gerdd sy’n rhannu enw’r sengl ddiwethaf yn cael ei pherfformio yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd ar y 6 a 9 o Awst, yn dilyn comisiwn derbyniodd Wigwam gan yr Eisteddfod Genedlaethol, Cyngor Celfyddydau Cymru ac Ysgol Plasmawr i gyfansoddi’r gerddoriaeth ar gyfer sioe gerdd newydd. Mae’r sioe i gyd wedi ei seilio ar ganeuon yr albwm, fel yr eglurodd Elis o’r band wrth sgwrsio â’r Selar yn Steddfod yr Urdd eleni…

Grêt i weld Wigwam yn Steddfod yr Urdd ddydd Gwener – rili wedi dod mlaen yn dda fel band ers iddyn nhw chwarae yn Steddfod llynedd. Gallwch eu dal nhw’n Gig Nos Ffiliffest nos Sadwrn nesaf – mynd i fod yn un dda!

Posted by Y Selar on Sunday, 3 June 2018

 

Artist: Crumblowers

Uchod, mae cyfeiriad at ‘atgyfodiad y grŵp chwedlonol o Gaerdydd, Crumblowers’ wrth iddyn nhw berfformio ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Bae Caerdydd nos Sadwrn.

Ond pwy ydy Crumblowers?

Wel, band a ffurfiodd yn wreiddiol yn Ysgol Glantaf, Caerdydd tua diwedd y 1980au. Yr aelodau craidd oedd y brodyr Lloyd ac Owen Powell, ynghyd ag Owen Stickler. Roedden nhw’n un o glwstwr o fandiau ifanc o Gaerdydd a ffurfiodd yn ystod y cyfnod, oedd hefyd yn cynnwys U Thant, Hanner Pei, Cofion Ralgex ac Edrych am Jiwlia.

Mi wnaethon nhw  ryddhau cwpl o EPs, ond gellid dadlau bod traciau mwyaf adnabyddus y grŵp wedi ymddangos ar gasgliadau aml-gyfrannog –  ‘Gofyn i’r Dyn’ ar gasgliad O’r Gad a ryddhawyd gan Ankst ym 1991 a ‘Syth’ oedd ar gasgliad Hei Mr DJ a ryddhawyd y flwyddyn flaenorol.

Mae Owen Powell wrth gwrs yn enwog am fynd ymlaen i fod yn aelod o un o’r grwpiau mwyaf llwyddiannus i ddod o Gymru erioed, Catatonia.

O dipyn i beth, mae meibion cwpl o’r aelodau yn aelodau o’r band ifanc Y Sybs sydd hefyd yn chwarae ar y maes ddydd Sadwrn, yng Nghaffi Maes B.

Mae cyfle i chi ddal Crumblowers ar Lwyfan y Maes am 21:00.

Un peth arall: Calendr gigs newydd Y Selar

Newyddion a datblygiad pwysig o gyfeiriad Y Selar, sef lansiad ein calendr gigs newydd ar y wefan!

Mae’r calendr yn un sydd wedi ei ddatblygu’n arbennig er mwyn bwydo gwybodaeth o ddigwyddiadau Facebook – felly os ydach chi eisiau i’ch gig ymddangos ar y calendr, y peth hawsaf i chi wneud ydy creu digwyddiad Facebook, a phastio URL y digwyddiad ar y dudalen ‘Gigs Newydd’.

Mae’r calendr yn un eithaf handi am sawl rheswm, ac yn arbennig felly yr wythnos yma wrth i chi drio llunio eich amserlen gigs yn y Steddfod. Calendr Gigs Y Selar ydy’r unig le y gallwch chi ffeindio rhestr o holl gigs yr Eisteddfod, gan gynnwys y rhai ymylol a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith ac ati. Mae adnodd  ar y calendr sy’n caniatáu i chi lunio eich rhestr gigs personol (cliciwch y seren wrth ochr manylion y gig) a hefyd gysylltu â chalendr eich ffôn neu lechen a derbyn hysbysiad i’ch atgoffa am gigs penodol ymlaen llaw (cliciwch y botwm ‘atgoffa’).

Bydd y calendr y datblygu ymhellach dros yr wythnosau nesaf, ond yn y cyfamser rhowch dro arni.