Pump i’r Penwythnos 04/05/18

Gig: Twrw Trwy’r Dydd, Clwb Ifor Bach a llawer mwy

Ambell gig bach da i edrych mlaen iddyn nhw ar benwythnos gŵyl y banc. Dyma grynhoi…

Nos Wener 4 Mai

  1. Alys Williams a’r Band + Gwestai Arbennig – Theatr Clwyd, Wyddgrug. 19:30
  2. Kizzy Crawford (Taith Cân Yr Adar) + Eadyth – Y Parrot, Caerfyrddin. 20:00
  3. Gwenno – The Old Bakery, Truro (Cernyw)

Nos Sadwrn 5 Mai

  1. Calfari, Dai Jones – The Bull Inn, Llanerchymedd
  2. Candelas a llawer mwy – The Garage Whitez, Abertawe. 19:00

Dydd Sul 6 Mai

  1. Twrw Trwy’r Dydd: Omaloma, 3 Hwr Doeth, Ser0l Ser0l, Marged, Papur Wal, Lastigband, Y Sybs, Dj Dilys, Dj Pydew – Clwb Ifor Bach. 16:00

Cân: ‘Catalunya’ – Gwilym

Mae sengl ddiweddaraf y grŵp o Fôn/Caernarfon, Gwilym, allan yn swyddogol heddiw a’i henw ydy ‘Catalunya’.

Ar label Recordiau Côsh y mae’n cael ei rhyddhau, label gweithgar iawn ar y funud.

Cafodd sengl newydd Gwilym ei chwarae am y tro cyntaf i gefnogwyr Clwb Pêl-Droed Wrecsam yr wythnos diwethaf, oedd yn brofiad arbennig i prif ganwr Gwilym, sef Ifan Pritchard, sy’n gefnogwr brwd o’r tîm.

“Dwi’m yn gwbod yn iawn sut nath Côsh allu cael y sengl wedi’i chwarae ar y Cae Ras” meddai Ifan.

“Ond ma’r ffaith bod Catalunya wedi cael ei darlledu am y tro cynta yn stadiwm gorau’r byd yn golygu cymaint i mi fel cefnogwr!”

Chwaraewyd ‘Catalunya’ ar y radio am y tro cyntaf ar raglen Lisa Gwilym ar Radio Cymru nos Fercher, 2 Mai.

Gallwch ei ffrydio nawr ar Spotify.

 

Artist: Iwan Huws

Bydd albwm unigol cyntaf Iwan Huws allan wythnos nesa’ 11 Mai ar label Sbrigyn Ymborth, label ei frawd Aled Hughes.

Pan Fydda Ni’n Symud yw enw’r albwm newydd, a neithiwr, fe ryddhawyd fideo newydd i un o ganeuon yr albwm, ‘Lluniau’, a gyfarwyddwyd gan frawd arall Iwan, sef Dafydd Hughes – a mae’r tri’n gyfarwydd iawn i ni fel Cowbois Rhos Botwnnog wrth gwrs.

Bydd yr albwm yn cael ei ryddhau ar CD ac yn ddigidol.

Rhyddhaodd Iwan y teitl-drac ar gyfer yr albwm, ‘Pan Fydda Ni’n Symud’, fel sengl, law yn llaw â fideo ar HANSH nôl ar ddechrau mis Ebrill.

Os ydach chi isho gwybod mwy am Iwan a’r albwm newydd yna bachwch gopi o rifyn nesaf Y Selar sydd allan ddiwedd mis Mai i ddarllen ein cyfweliad gyda’r cerddor.

Dyma fideo ‘Lluniau’:

 

Record: Serol Serol

Mae Y Selar yn genfigennus iawn o’r cannoedd fydd yn mynychu Twrw Trwy’r Dydd, yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ddydd Sul yma.

Ac mae’r lein-yp eleni’n edrych cystal, os nad gwell, na’r lein-yp’s blaenorol gan Twrw.

Un band ar y lein-yp ‘da ni’n gytud i’w colli ydy Serol Serol.

Fe ryddhawyd ei halbwm cyntaf nôl ym mis Mawrth ar label Recordiau I KA CHING, ac mae’n gasgliad arbennig o dda o ganeuon hefyd. Mae modd i chi wrando arno ar Spotify.

Dyma’r sengl a gyflwynodd ddyfodiad pop-gofodol Serol Serol i’r byd rhyw flwyddyn yn ôl, ‘Cadwyni’:

Un peth arall..: Ffilm ddogfen am Papur Wal

Nid yn aml  y dyddiau yma ydan ni’n cael ffilm ddogfen am gyfnod band mewn stiwdio.

Ond, uwch-lwythwyd fideo gan Ochr 1 a HANSH heddiw o gyfnod Papur Wal yn y stiwdio yn recordio eu sengl gyntaf ‘Siegfried Sassoon’ sydd allan heddiw yn swyddogol ar label Libertino.

Bu Papur Wal yn recordio hon gyda chriw Mellt yng Nghaerdydd.

Bydd EP y band yn dilyn yn ddiweddarach yn haf 2018, casgliad byr sydd wedi ei recordio gyda Kris Jenkins, sef Sir Doufous Styles.

‘Steddwch nôl a mwynhewch y ddogfen fer yma gan Griff Lynch: