Gig: Gwenno – Tŷ Pawb, Wrecsam
Mae’n benwythnos yr Ŵyl Ban Geltaidd, a thoreth o Gymry’n heidio i Iwerddon ar gyfer yr ŵyl flynyddol sy’n cael ei chynnal yn Letterkenny ‘leni. Ond i’r rhai sydd ddim am deithio dros y môr, bydd cyngerdd Celtaidd gyda Calan, a llawer mwy yn digwydd yn y Galeri, Caernarfon heno.
Bydd cyfle i ddal Bronwen Lewis yn y New Dovers, Llanelli am 20:00 heno ac yn y Purple Badger, Llanrhidian nos fory, 7 Ebrill am 21:00. Ac mae’n perfformio nos Sul hefyd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd fel rhan o daith Max Boyce.
Hefyd heno yn Nhafarn y Snowdonia Parc, Waunfawr ger Caernarfon mae’r Welsh Whisperer yn perfformio am 19:30, a bydd wrthi eto yn y Llwyngwair Manor, Trefdraeth nos Sadwrn yn ogystal.
Nos fory, Sadwrn 7 Ebrill bydd Gwenno’n chwarae yn Nhŷ Pawb, Wrecsam gyda llawer o artistiaid eraill, y digwyddiad yn cychwyn am 16:30.
Cân: ‘Mewn Darnau’ – Breichiau Hir
Mae sengl ddwbwl newydd Breichiau Hir allan heddiw yn swyddogol ar label Libertino. Cyhoeddwyd yn ddiweddar mai Breichiau Hir oedd y band diweddara’ i ymuno â’r label bywiog o Orllewin Cymru.
Mae’r grŵp roc trwm o Gaerdydd hefyd yn dathlu 10 mlynedd ers ffurfio ‘leni, ac mae’n ymddangos eu bod yn gigio mwy na’r arfer ar hyn o bryd gyda’r cyfle diweddaraf i’w dal yn fyw yn Y Parrot gyda Port Erin ac Estuary Blacks nos Wener nesa’.
‘Mewn Darnau’ isod ydy un o draciau’r sengl ddwbl, ynghyd â‘ Halen’.
Artist: Kizzy Crawford
Bydd albwm newydd allan ar CD gan y gantores-gyfansoddwraig Kizzy Crawford, y pianydd jazz Gwilym Simcock a cherddorfa siambr arobryn Sinfonia Cymru ar 13 Ebrill. Cân yr Adar ydy enw’r casgliad sy’n cyfuno cerddoriaeth jazz, clasurol a chanu’r enaid/canu gwerin.
Casgliad o ganeuon dwyieithog sydd wedi ei seilio ar goedwig Geltaidd hynafol Carngafallt ym Mhowys yw’r albwm. Mae Cân yr Adar yn defnyddio cerddoriaeth i “adrodd stori RSPB Carngafallt, sy’n gartref i ecosystem gymhleth o blanhigion ac anifeiliaid.”
Cawn ei gwahodd ar daith “drwy natur a’r tymhorau”, sy’n cynnwys tafluniadau ffilm gan yr artist gweledol, Ruby Fox. Bydd y campwaith hefyd yn mynd ar daith fis Mai.
Dyma’r trac ‘Cân yr Adar’ sy’n awgrym o’r hyn y gallwn ddisgwyl ar yr albwm.
Record: Endaf Gremlin
Daeth y newyddion cyffrous wythnos yma bod albwm unigol gyntaf Mei Gwynedd ar y ffordd, gyda’r lansiad yn digwydd yn y Galeri, Caernarfon ar 6 Gorffennaf. Mae Mei’n adnabyddus fel un o gerddorion mwyaf talentog ac amlycaf y sin, ac wedi bod yn aelod o rai o fandiau mwyaf dylanwadol Cymru gan gynnwys Big Leaves, Beganifs, Sibrydion ac Endaf Gremlin.
Dyma ‘Belen Aur’ oddi ar record hir y ‘siwpyr grŵp’ Endaf Gremlin:
Un peth arall..: sengl ar y ffordd gan Miskin
Mewn sgwrs â’r Selar yn ddiweddar, datgelodd Miskin bod sengl newydd sbon danlli ar y ffordd ganddynt, ac y byddent yn ei ryddhau fis Mai ar Soundcloud.
Mae Miskin wedi cael bywyd newydd yn 2018, wrth i’r grŵp ffurfio o ludw Pyroclastig, a ddaeth i ben yn swyddogol ddiwedd 2017. Llwythwyd trac ar Soundcloud ganddynt fis Ionawr sef ‘Unwaith yn Ormod’.
Gellir dal Miskin yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau, rhagbrawf Aberystwyth, ar 20 Ebrill, gyda Mellt hefyd yn lansio ei halbwm newydd ar y noson. Bydd Mari Mathias a Cyffion yn cystadlu yn eu herbyn ar y noson a gynhelir yn y Bandstand yn Aber.