Pump i’r Penwythnos – 07 Medi 2018

Gig: Gŵyl Rhif 6, Portmeirion – 06-09/09/18

Mae’r arwyddion i gyd yn pwyntio i gyfeiriad Portmeirion y penwythnos yma, a’r hyn fydd yn ŵyl olaf Gŵyl Rhif 6 am y tro, wrth iddyn nhw gymryd egwyl am y flwyddyn nesaf o leiaf. Er mai cwmni o Loegr sy’n trefnu, ac mai denu cynulleidfa ddosbarth canol o Loegr ydy eu blaenoriaeth yn y bôn, mae ‘na naws Gymreig i’r ŵyl a digon o artistiaid Cymraeg yn perfformio dros y penwythnos.

Mae’n debyg mai Geraint Jarman ydy’r artist Cymraeg sydd â’r slot amlycaf, a hynny ar y prif lwyfan yn cefnogi enwau fel The The a Jessie Ware ddydd Sadwrn. Mae Gwenno yn cael slot da yn y Prif Bafiliwn ar y dydd Sul ac mae cyfle i ddal Yucatan ar lwyfan Tim Peaks ddydd Sul hefyd.

Heblaw am hynny, y Bandstand ydy’r lle i weld cerddoriaeth Gymraeg trwy’r penwythnos. Mae Gorwelion yn curadu’r llwyfan nos Wener gydag Adwaith, Alffa, Chroma, Eadyth a Gwilym ymysg yr enwau sy’n perfformio. Bach llai o iaith y nefoedd ar y llwyfan ddydd Sadwrn, er bod Beth Celyn a Sera ar y lein-yp. Yna ddydd Sul, mae Nyth a Gŵyl Gwydir wedi curadu lein-yp ardderchog sy’n cynnwys Ffracas, Pasta Hull, Cadno, Estella, Meic Stevens ac Anweledig.

Mae’r lein-yp llawn ar wefan Gŵyl Rhif 6 i chi gael pori a chynllunio.

Os am rywbeth bach llai o ran sgêl, mae The Gentle Good ac Elan Catrin Parry yn Saith Seren, Wrecsam ac Elis Derby yn Tŷ Glyndwr, Caernarfon heno (nos Wener).

Ddydd Sadwrn mae Y Cyffro yn perfformio yn nhafarn y Newborough Arms, Bontnewydd a chyfle hefyd i weld Gogs yn NosDa, Caerdydd.

Yna, ddydd Sul, mae’r ardderchog The Gentle Good wrthi eto, gyda gig yn Acapela, Pentyrch.

Am restr lawn, gyfredol o gigs Cymraeg, cadwch olwg ar Galendr Gigs gwefan Y Selar.

Cân: ‘Chwartol’ – A.W. Hughes

Pwy ydy A.W. Hughes medde chi? Wel neb llai na basydd Cowbois Rhos Botwnnog, Alys Williams ac Eryr a’r cynhyrchydd amlwg sydd hefyd yn rheoli label Sbrigyn-Ymborth, Aled Hughes.

Ag yntau’n gynhyrchydd uchel ei barch ac yn gerddor dawnus ei hun, nid yw’n syndod ei fod hefyd yn gweithio ar gerddoriaeth unigol hefyd. Ond wrth iddo greu enw i’w hun fel cynhyrchydd gwerin yn bennaf, y syndod o bosib ydy mai cerddoriaeth electroneg ydy ei waith unigol!

Mae wedi rhoi sawl trac newydd ar ei safle Soundcloud dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae cwpl o rai newydd wedi ymddangos dros y bythefnos ddiweddaraf, sef ‘Ogwmpas’ a hon, ‘Chwartol’:

 

Record: Get a Car – Cpt Smith

Mae EP newydd Cpt Smith allan wythnos i heddiw ar ddydd Gwener 14 Medi.

‘Get A Car’ fydd enw ail EP Cpt Smith sy’n dilyn eu EP cyntaf, Propeller, a ryddhawyd ar label Recordiau I KA CHING yn 2016.

Mae’r band wedi datblygu i fod yn un fandiau amlycaf y sin yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, ac ers rhyddhau Propeller, meant wedi rhyddhau’r senglau ‘I Hate Nights Out’ a ‘Smaller Pieces’ yn 2017.

Er mwyn rhoi blas, maent eisoes wedi rhyddhau’r sengl ‘Get a Car’ ar 3 Awst, ond rydan ni’n edrych mlaen yn fawr iawn i glywed gweddill y record fer.

Dyma nhw’n perfformi ‘Blas Drwg’ yng Ngwobrau’r Selar ddwy flynedd yn ôl:

 

Artist: HMS Morris

Hwrê! Dim ond pythefnos i fynd nes bydd albwm newydd HMS Morris allan!

Hir yw pob ymaros, yn enwedig pan fyddwch chi’n disgwyl am rywbeth hynod gyffrous, ac mae’n teimlo fel oes ers i ni glywed bod albwm nesaf HMS Morris, Inspirational Talks, yn cael ei ryddhau ar 21 Medi.

Chwarae teg, maen nhw wedi bod yn garedig, ac wedi rhoi ambell damaid i aros pryd i ni, gan gynnwys y sengl ddwbl ‘Phenomenal Impossible’ a ‘Cyrff’ ym mis Gorffennaf.

Ddiwedd mis Awst fe wnaethon nhw ryddhau sengl ddwbl arall, sef ‘Mother’ a ‘Corff’.

Y newyddion da pellach ydy bod ganddyn nhw gyfres o gigs i gyd-fynd â rhyddhau’r albwm, gyda nosweithiau yng Nghaernarfon, Bryste, Caerdydd a Chaerfyrddin:

Gigs mis Medi HMS Morris:

13 Medi: Galeri Caernarfon

16 Medi: HY Brazil – Bryste

21 Medi – Clwb Ifor Bach, Caerdydd (Lansio’r albwm newydd)

22 Medi – Y Parrot, Caerfyrddin

Dyma ‘Corff’:

 

 

Un peth arall…: Cân Tlws Sbardun am ddim

Fel rydan ni gyd yn ymwybodol erbyn hyn debyg, boi prysur ydy Gwilym Bowen Rhys! Does ‘na ddim wythnos yn mynd heibio heb fod y boi yma’n gigio, rhyddhau cynnyrch neu wneud rhywbeth nodedig arall mae’n ymddangos!

Un pwt o newyddion allech chi fod wedi colli yng nghanol holl firi wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, oedd bod Gwilym wedi ennill Tlws Coffa Sbardun yn y Steddfod gyda’r diwn ‘Clychau’r Gog’.

Wythnos yn ôl, roedd Gwilym yn rhyddhau ei albwm diweddaraf, Detholiad o Hen Faledi, ynghyd â fideo ar gyfer y gân ‘Hogyn Gyrru’r Wedd’. Gan mai casgliad o’i ddehongliad o hen alawon o’r archif sydd ar yr albwm newydd, does dim lle ar gyfer ‘Clychau’r Gog’. Ond na phoener, mae Gwilym a’i label Sbrigyn-Ymborth / Recordiau Erwydd wedi penderfynu cynnig y trac i chi lawr lwytho’n rhad ac am ddim ar safle Bandcamp Gwilym.