Pump i’r Penwythnos – 09 Tachwedd 2018

Gig: 3 Hwr Doeth, Papur Wal, Pasta Hull – Clwb Ifor Bach – 9/11/18

Swp bach da o gigs yn digwydd dros y penwythnos, a nifer ohonyn nhw’n ran o gyfres o gigs  neu deithiau digwydd bod. Dyma grynhoi…

Mae’n benwythnos prysur i’r brenin Geraint Jarman, wrth iddo berfformio mewn dau gig arwyddocaol dros y penwythnos. Mae’r cyntaf yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth heno, a’r ail yng nghanolfan Pontio ym Mangor nos fory. Bydd hoff fand pawb ar hyn o bryd, Mellt, yn cefnogi ar y ddwy noson.

Mae Estrons yn dal i deithio i hyrwyddo eu halbwm ar hyn o bryd, gyda gig ym Mryste neithiwr yn cael ei ddilyn gan berfformiad yn The Bodega yn Nottingham heno.

Un arall sy’n teithio’n gyson ar hyn o bryd ydy Gruff Rhys – roedd yn Southsea neithiwr, mae yn Brighton heno, bydd yn Foulkestone nos fory, ac yna yn Rhydychen nos Sul.

Band prysur arall ar hyn o bryd ydy Gogs, ac maen nhw’n gigio eto penwythnos yma – NosDa yng Nghaerdydd ydy’r lleoliad.

Mae ein prif ddewis ni o gig y penwythnos yma yng Nghaerdydd hefyd, ac yng Nghlwb Ifor Bach heno. Cyfle prin i weld y grŵp hip-hop anhygoel, 3 Hwr Doeth, yn perfformio’n fyw gyda chefnogaeth gan Papur Wal a Pasta Hull. Paratowch am nyts o gig.

 

Cân: ‘Haf Olaf’ – Mellt

Nos Fercher cynhaliwyd seremoni wobrwyo y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yng Nghaerdydd, a llongyfarchiadau mawr i Boy Azooga am gipio’r teitl eleni gyda’r albwm gwych 1, 2 Kung Fu.

Dim ond un record Gymraeg gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer y wobr eleni, ond chwarae teg i Mellt am gario’r gannwyll gyda balchder.

Ers rhyddhau albwm cyntaf y grŵp o Aberystwyth, Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc, mae’r casgliad wedi ei ganmol i’r cymylau o sawl cyfeiriad, ac mae’n llawn haeddu’r ganmoliaeth. Efallai mai unig wendid yr albwm ydy mai dim ond yn ddigidol mae wedi’i ryddhau hyd yn hyn – be fydden ni’n gwneud am fersiwn feinyl!

Mae’n debyg mai ‘Rebel’ ydy’r trac sydd wedi cael y mwyaf o sylw yn gyffredinol, ac mae’n adlewyrchiad teg o’r casgliad llawn. Trac sy’n cynnig rhywbeth bach yn wahanol, yn rhannol diolch i gyfraniad Garmon [Pydew] ydy ‘Haf Olaf’. Dyma fideo Ochr 1 ar gyfer y trac:

 

Record: Pasta Hull Presents…3 Hwr Doeth

Gan eu bod nhw’n perfformio’n fyw ar lwyfan y penwythnos yma, a hynny’n beth prin eithriadol gwaetha’r modd, byddai’n bechod peidio manteisio ar y cyfle i’ch hatgoffa am unig albwm gwych 3 Hwr Doeth.

Creadigaeth cysyniadol Pasta Hull ydy 3 Hwr Doeth, ond o ystyried mai prosiect ymylol ydyn nhw, ew mae’r gerddoriaeth yn dda.

Rhyddhawyd yr albwm yn ddisymwth iawn ar safle Bandcamp Pasta Hull ar ddydd Nadolig 2017 ac mae’n cynnwys 16 o draciau sy’n gymysgedd o hip hop, jazz a ffync o’r radd flaenaf. Ymysg yr uchafbwyntiau mae’r traciau ‘Cob’, ‘Scot Kinel’ a’r anhygoel ‘Smocio, hyslo, dwyn o Tesco’ sy’n cloi y casgliad.

Er bod ambell un wedi tynnu sylw at ragoriaeth a phwysigrwydd y casgliad yma, mae dyn yn teimlo fod yr albwm dal heb gael y clod haeddiannol hyd yma.

Wrth iddo gyhoeddi ei restr 10 uchaf o ganeuon 2017 lai nag wythnos ar ôl i’r albwm ymddangos gyntaf, roedd Uwch Olygydd Y Selar wedi’i blesio ddigon i gynnwys ‘Cob’ yn rhif 5 ar y rhestr. Dyma pam:

 

Artist: Alys Williams

Y gantores hynod o Gaernarfon sy’n cael ein sylw yr wythnos hon, gan bod Tachwedd eleni’n fis pwysig i Alys.

Yn gyntaf oll, mae wedi rhyddhau ei sengl gyntaf ar label Recordiau Côsh ddydd Gwener diwethaf.

‘Dim Ond’ ydy enw’r sengl newydd, ac er bod Alys wedi creu fersiynau arbennig ei hun o sawl clasur, mae ‘Dim Ond’ yn arwyddocaol fel ei chyfansoddiad unigol cyntaf i gael ei rhyddhau i’r byd.

“Tydi’r gair ‘unigryw’ ddim yn ddigonol i gyfleu pa mor wahanol ydi’r trac yma i unrhyw beth mae Alys wedi ei ganu’n y gorffennol” meddai’r datganiad am y sengl gan Recordiau Côsh.

Mae mis Tachwedd hefyd yn fis pwysig iddi gan ei bod yn perfformio mewn gig reit arbennig yng nghanolfan Pontio, Bangor ddiwedd y mis.

Ar 24 Tachwedd fe fydd Alys yn perfformio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, gyda chyfle i glywed dehongliadau o ‘Dim Ond’, ynghyd â rhai o’r chaneuon eraill amlycaf.

Mae’r cyfansoddiadau ar gyfer y gerddorfa wedi eu hysgrifennu gan Gruff Ab Arwel.

Roedd Alys wedi dechrau gwneud enw i’w hun yng Nghymru cyn hynny, ond daeth y gantores i amlygrwydd rhyngwladol ar raglen The Voice ar BBC 1 yn 2013. Ers hynny mae wedi bod yn brysur iawn yn perfformio a chyd-ysgrifennu gyda rhai o artistiaid amlycaf y sin yng Nghymru, ac mae’n siŵr o fynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd nesaf – am lais!

Mae Alys wedi perfformio gyda Cherddorfa’r BBC o’r blaen, wrth ddathlu pen-blwydd Radio Cymru yn 40 oed. Dyma fideo o’i pherfformiad o ‘Pan Fo’r Nos yn Hir’ gan Ryan a Ronnie bryd hynny:

 

Un peth arall…: Sesiwn Ochr 1 Elis Derby

Ers i’w grŵp blaenorol, Chwalfa, chwalu yn 2017, rydan ni wedi bod yn cadw golwg fanwl ar ddatblygiad gyrfa unigol y ffryntman Elis Derby

Yn ddiweddar ar ddechrau mis Hydref, rhyddhaodd y cerddor sengl ddwbl sef y caneuon ‘Sut Allai Gadw Ffwrdd’ a ‘Myfyrio’, a cafodd beth llwyddiant yng Nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B a Radio Cymru yn gynharach eleni gan gyrraedd y rownd derfynol yng Nghaerdydd.

Mae ei yrfa’n ymddangos i fod yn datblygu’n daclus, a braf felly gweld Ochr 1 yn cyhoeddi fideo o berfformiad o ‘ Sut Allai Gadw Ffwrdd’ fel sesiwn ar gyfer y rhaglen gerddoriaeth.