Gig: Gŵyl Focus Wales – lleoliadau amrywiol, Wrecsam
Mae’n benwythnos Gŵyl Focus Wales, sy’n golygu bod llwyth ar y gweill yn Wrecsam. Ond, mae ‘na ambell opsiwn fach dda mewn rhannau eraill o’r wlad hefyd fel y gwelwch…
Nos Wener 11 Mai
Mae cryn edrych mlaen wedi bod at ryddhau albwm cyntaf Iwan Huws, ac mae’r lansiad yn digwydd heno yn y Fic, Llithfaen am 20:30.
Mae Gŵyl Focus Wales wedi cicio ffwrdd ers ddoe, ac mae Candelas, The Gentle Good, Meilir, CaStLeS, Euros Childs a Radio Rhydd yn ddim ond rhai o’r enwau sy’n chwarae mewn amryw o leoliadau yn Wrecsam heno.
Nos Sadwrn 12 Mai
Nos Fory, mae Gŵyl Focus Wales yn parhau efo HMS Morris, Phalcons, Adwaith, Names, Allfa a llawer mwy o berfformiadau a sgyrsiau difyr yn digwydd.
Mae Gŵyl Fwyd Caernarfon yn digwydd nos fory efo SERA, Beth Celyn, Geraint Lovgreen a’r Enw Da, Band Pres Llareggub ac Y Brodyr Magee yn chwarae, yn ogystal â llwyth o adloniant a bwyd arbennig wrth gwrs.
Bydd Pasta Hull, Piwb a mwy yng Nghlwb Snwcer Bangor nos fory am 19:00, ac mae cyfle i ddal I Fight Lions a mwy yn chwarae yn Prom Xtra ym Mae Colwyn b’nawn Sadwrn
Yn y De Orllewin bydd Twmffat a DJ Inigo y Sesiwn Selar (nid ein sesiwn ni, Y Selar, i osgoi dryswch!) ym Mar y Selar, Aberteifi am 20:00.
Nos Fawrth 15 Mai
Gan symud ymlaen i ddechrau’r wythnos, mae Elidyr Glyn a Daoiri Farell yn chwarae’n y Galeri Caernarfon, am 19:30 nos Fawrth. Neis iawn wir.
Cân: ‘Gan Bo Fi’n Gallu’ – Candelas
Cafodd sengl newydd Candelas ei chwarae am y tro cyntaf ar rhaglen Huw Stephens neithiwr ar BBC Radio Cymru. ‘Gan Bo Fi’n Gallu’ yw ei henw, ac mae allan heddiw yn swyddogol ar label I KA CHING.
Ffilmiwyd fideo byw o’r gân yn Stiwdio Drwm, sy’n cael ei redeg gan Osian ac Ifan o’r band, ar gyfer Dydd Miwsig Cymru yn gynharach yn y flwyddyn.
Mae modd gwrando ar y gân ar Spotify rŵan, a dyma’r fideo byw:
Record: Pan Fydda Ni’n Symud – Iwan Huws
Mae albwm unigol cyntaf Iwan Huws allan yn swyddogol HEDDIW!
Fe ryddhawyd fideos i ddwy o ganeuon yr albwm yn ddiweddar, sef ‘Lluniau’, a ‘Pan Fydda Ni’n Symud’, wedi’u cyfarwyddo gan un o frodyr Iwan, sef Dafydd Hughes.
Mae’r albwm ar gael ar CD mewn siopau ac yn ddigidol, ac mae Iwan yn lansio’r albwm yn y Fic, Llithfaen heno (gweler uchod).
Bydd cyfweliad gydag Iwan yn trafod yr albwm yn rhifyn nesaf Y Selar sydd allan ddiwedd mis Mai, a ‘da ni methu aros i chi gael ei ddarllen.
Dyma’r fideo ar gyfer teitl-drac yr albwm a gyhoeddwyd gan HANSH ac Ochr 1 yn ddiweddar:
Artist: PENDEVIG
Mae siwpyrgrŵp newydd wedi’i greu ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ‘leni, a heddiw yw’r diwrnod cawn wybod pwy yn union ydy’r holl aelodau.
Disgrifir aelodau’r band gan yr Eisteddfod fel rhai o gerddorion blaenllaw a mwyaf dawnus y sin, gan gynnwys holl aelodau Calan – sef Angharad Jenkins ar y ffidil, Bethan Rhiannon ar yr acordion a llais, Sam Humphreys ar y gitâr, Alice French ar y delyn, a Patrick Rimes ar y ffidil, pibgorn, chwiban, synths a phiano.
Aelodau eraill Pendevig ydy Gwilym Bowen Rhys (Plu / Bendith), Iestyn Tyne (Patrobas), Jordan Price Williams (Elfen / Vrï, Aneurin Jones (Vrï), a Jamie Smith ac Iolo Wheelan (Jamie Smith’s Mabon). Yn ychwanegu elfennau ffync a jazz i’r gerddoriaeth mae Greg Sterland ar y sacsoffon, Jake Durham ar y trombôn, Teddy Smith ar y trwmped ac Aeddan Llywelyn ar y bas dwbl a’r bas trydan.
Os hoffech chi wybod mwy..gwyliwch hwn gan Ochr 1 a HANSH:
Un Peth Arall..: Adwaith yn croesi’r 100K
Cyhoeddwyd wythnos yma bod ‘Fel i Fod’ gan Adwaith wedi’i ffrydio dros 100,000 o weithiau ar Spotify, efo’r rhif yn tyfu’n ddyddiol ers y cyhoeddiad hwnnw. Rhyddhawyd y gân ar label Libertino fel un rhan o sengl ddwbwl ‘Fel i Fod/Newid’.
Mae tipyn o buzz wedi tyfu ynglŷn â’r grŵp dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae eu henwau ar draws llawer o’r lein-yps gwyliau Cymraeg yr haf sydd wedi’u cyhoeddi’n barod, ynghyd ag ambell ŵyl fawr fel Gŵyl y Dyn Gwyrdd.
Dyma’r fideo swyddogol i ‘Fel i Fod’, a gyfarwyddwyd gan Adwaith, ac fe’i cynhyrchwyd, ffilmiwyd a’i golygwyd gan The Shoot, hefo Mary Gyles yn actio.