Gig: Gŵyl Oktober-fest – CellB, Blaenau Ffestiniog – 13/10/18
Ambell gig bach mewn lleoliadau gwahanol penwythnos yma, er bod y tywydd cythreulig mae’n addo wedi amharu ar rai trefniadau.
Mae dau o’n sêr rhyngwladol, Gruff Rhys a Gwenno, yn brysur yn teithio. Mae Gruff Rhys yn Washington heno, a Gwenno ym Mryste. Mae Gwenno yn symud ymlaen i chwarae ym Manceinion nos fory, ac mae Adwaith yn cefnogi yn y ddau gig.
Ym Mlaenau Ffestiniog ddydd Sadwrn mae Gŵyl Oktober-fest, gyda chyfle i ddal y ffidlwr ardderchog, Billy Thompson, ynghyd â Gwibdaith Hen Frân. Yn ôl y sôn mae digon o fwyd Almaenaidd a chwrw Cymreig i’ch cadw’n hapus ac yn llon hefyd – swnio’n blwmin grêt i ni!
Nos Sadwrn mae gig gwerinol iawn ei naws yn Neuadd Llanystumdwy, gyda’r ddau gyfaill Elidyr Glyn a Gwilym Bowen Rhys yn perfformio.
Yn anffodus, mae’r gigs Sŵn ar y Silffoedd sy’n cael eu trefnu ar y cyd gan Y Selar a Gorwelion fel rhan o Wythnos Llyfrgelloedd wedi cael eu gohirio am y tro. Y bwriad oedd bod Seazoo ac Eadyth yn chwarae yn llyfrgell Llandudno am 17:00 pnawn ma, ac yna Eadyth yn perfformio eto pnawn fory am 16:00 yn Llyfrgell Glowyr De Cymru yn Sketty ger Abertawe, gyda I See Rivers yn chwarae hefyd. Gyda rhai o’r artistiaid yn teithio cryn bellter a’r ffyrdd yn beryglus, gwnaed y penderfyniad anodd i ohirio, ond mae bwriad i ail-drefnu’n fuan iawn felly cadwch olwg am y manylion.
Cân: ‘Y Pwysau’ – Mr
Dyna beth oedd sypreis bach neis, wrth weld cyfrif Twitter newydd sbon yn ymddangos dan yr enw @Mrcyrff, ac yna’n trydar yn fuan iawn bod Mark Roberts, gitarydd a phrif ganwr Y Cyrff, yn bwriadu rhyddhau albwm unigol cyntaf ar 26 Hydref.
Efallai na fydd pawb yn llawn ymwybodol o bwy ydy Mark Roberts…gadewch i ni egluro. Dechreuodd Mark ei yrfa cerddorol gyda’r Cyrff, a ddaeth yn un o grwpiau mwyaf Cymru cyn iddyn nhw chwalu yn 1992. Yn fuan wedi hynny, aeth ati i ffurfio band bach o’r enw Catatonia…aeth ymlaen i goncro’r byd, ac ef oedd yn gyfrifol am gyfansoddi rhai o hits mwyaf y band, gan gynnwys ‘Mulder and Scully’ a ‘Road Rage’.
Dros y blynyddoedd ers Catatonia, mae wedi gweithio ar brosiectau cerddorol amrywiol gan gynnwys Sherbert Antlers gyda Paul Jones (Y Cyrff/Catatonia) a Llwybr Llaethog, The Earth (gyda Daf Ieuan, Super Furrys a Dionne Bennett) a hefyd Y Ffyrc (gyda Paul Jones eto).
Bydd ffans y grwpiau yma’n gyffrous iawn i glywed am brosiect unigol Mark, ac mae’r trac sydd eisoes wedi’i lwytho i Soundcloud, ‘Y Pwysau’ yn siŵr o gynyddu’r cyffro cryn dipyn!
Record: Melyn – Adwaith
Mae’n benwythnos prysur o ran cynnyrch newydd, ac albyms yn arbennig gydag Al Lewis a Carw yn rhyddhau albyms heddiw.
Ond os nad oeddech chi’n gwybod fod albwm newydd Adwaith allan heddiw hefyd, mae’n rhaid eich bod chi wedi bod yn cuddio mewn ogof ers mis neu ddau gan bod sylw i record newydd y triawd o Gaerfyrddin wedi bod yn drwch.
Roedd y grŵp yn fyw ar raglen Lisa Gwilym ar Radio Cymru nos Fercher yn trafod yr albwm newydd, ac mae cyfweliad gyda Gwenllian Anthony o’r band yn rhifyn diweddaraf Y Selar wrth gwrs.
Maen nhw hefyd wedi cael tipyn o sylw gan gyfryngau di-Gymraeg dros yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys cylchgrawn Urbanista a blog From the Margins. Roedd y sengl ddiweddaraf, gyda’r enw priodol iawn ‘Y Diweddaraf’ allan ddydd Gwener diwethaf ac fe gafodd ei henwi’n drac y dydd gan gylchgrawn enwog Clash, a chael sylw da ar wefan gerddoriaeth boblogaidd Stereoboard hefyd. Roedd y trac hefyd ar restr chwarae dylanwadol ‘New Music Friday’ wythnos diwethaf.
Oes ‘na unrhyw beth all stopio’r merched yma?
O, ac mae’r albwm allan ar feinyl coch….mmmm, feilyl.
Artist: Al Lewis
Does dim angen llawer o gyflwyniad ar Al Lewis – mae’n un o artistiaid mwyaf gweithgar a poblogaidd Cymru ers sawl blwyddyn bellach.
Mae hefyd wedi bod yn gerddor toreithiog, gan ryddhau tri albwm Cymraeg a dau Saesneg hyd yma…ac mae ei bedwerydd albwm Cymraeg allan heddiw.
Pethe Bach Aur ydy enw’r record hir newydd, ac rydym eisoes wedi cael sawl tamaid bach i aros ar ffurf y senglau ‘Parlwr Lliw’, ‘Pan Fyddai yn Simbabwe’ a ‘Dianc o’r Diafol’. Mae’r albwm wedi’i recordio yn Stiwdio’r Bont, sef stiwdio newydd Al yng Nghaerdydd, ac am y tro cyntaf, Al ei hun sydd wedi cymryd cyfrifoldeb am y gwaith cynhyrchu.
Bydd yr albwm newydd yn siŵr o werthu fel slecs diolch i boblogrwydd Al, ac mae’r bachgen o Abergele heb os yn un o artistiaid mwyaf hoffus Cymru. Os nad oeddech chi’n hoff iawn o’r hogyn yn barod, wel mae’r ffaith ei fod wedi rhedeg Hanner Marathon Caerdydd wythnos diwethaf i godi arian i’r Gymdeithas MS yn siŵr o godi ei stoc ymhellach – a 1:58:08 yn amser parchus iawn hefyd, da iawn Al. Mae dal modd i chi gyfrannu at yr achos.
Mae sŵn Al wedi esblygu tipyn dros y blynyddoedd, ac mae Pethe Bach Aur efallai’n dangos y shifft mwyaf hyd yma yn ei gerddoriaeth. Gwrandewch ar ‘Parlwr Lliw’ isod i brofi’r pwynt.
Bydd modd i chi brynu copïau caled o’r albwm heddiw, ac mae’n cael ei ryddhau’n ddigidol ar 26 Hydref. Ac mae cyfle i chi ddal Al yn perfformio yn Aberystwyth, Y Bala a Chaernarfon wythnos nesaf, ar 20 Hydref, wrth iddo wneud gwibdaith o siopau llyfrau Cymraeg – Siop y Pethe, Awen Meirion a Palas Print. Gobeithio bod y sgidiau rhedeg ‘na dal ganddo fo’n handi, achos mi fydd ar ras!
Un peth arall…: Bocs set Brân
Difyr iawn oedd gweld bod bocs-set yn cynnwys casgliad llawn o gynnyrch stiwdio y grŵp Cymraeg, Brân i’w ryddhau ddydd Gwener, 19 Hydref.
Bydd y casgliad newydd yn cael ei ryddhau ar label Rise Above Relics, sy’n un o is-labeli y cyhoeddwr amlwg, Rough Trade, o’r hyn rydym yn gallu dehongli.
Mae Brân yn un o grwpiau mwyaf chwedlonol, a dylanwadau cerddoriaeth Gymraeg gyda’i sŵn yn torri tir newydd yn iaith y nefoedd yn ystod y 1970au.
Fe wnaethon nhw ryddhau tri albwm ar Recordiau Sain yn 1970au sef Ail Ddechra ym 1975, Hedfan ym 1976 a Gwrach y Nos ym 1978. Tair record wych ydyn nhw hefyd!
O ia, ac roedd mam Elin Fflur yn canu iddyn nhw!
Mae’r bocs-set yn gasgliad o 3 CD, ac mae modd rhag archebu nawr, ond mae hefyd modd archebu ail-gyhoeddiad feinyl o’r albwm cyntaf, Ail Ddechra hefyd. Mmmm….feinyl.
Dyma un o draciau gorau Ail Ddechra, ‘Y Gwylwyr’ oedd wedi ei chynnwys ar gasgliad Welsh Rate Beat a gyhoeddwyd gan y DJ gwych, Andy Votel a Gruff Rhys yn 2007: