Gig: Gŵyl Gwrw Dolgellau: Y Cledrau, Glain Rhys, Gwilym a mwy
Mae’r calendr gigs yn prysur lenwi pob penwythnos wrth i ni groesawu’r gwanwyn a’r tymor gigs go iawn. Dyma danteithion sydd gennym ar eich cyfer wythnos yma:
Nos Wener 13 Ebrill:
- Bendith, Colorama, Plu – Theatr Ddarlitho Reardon Smith, Amgueddfa Caerdydd
- Breichiau Hir, Port Erin, Estuary Blacks – Y Parrot, Caerfyrddin
- CaStLeS, Meilir – Pie Records, Rhôs
- Meic Stevens – Galeri, Caernarfon
Nos Sadwrn 14 Ebrill
- Bendith, Colorama, Plu – Pontio, Bangor
- Bronwen Lewis – Clwb Rygbi Seven Sisters, Blaendulais
- Gŵyl Gwrw Dolgellau: lansio lein-yp Sesiwn Fawr Dolgellau 2018 gydag Y Cledrau, Glain Rhys, Gwilym, Dave Bradley, Alun Cadwaladr, Naomi Redman – Tŷ Siamas, Dolgellau.
Dydd Mercher 18 Ebrill
- FFUG – Gig am ddim yng Ngholeg Sir Benfro
Nos Iau 19 Ebrill:
- Lansiad albwm newydd y Mellt, gyda Los Blancos, Papur Wal a DJ Garmon – Clwb Ifor Bach, Caerdydd
Cân: Yn Fy Mhen – Lewys
Daeth fideo cynta’ Lewys, yr artist ifanc cyffrous allan yr wythnos diwetha’, sef ei sengl gyntaf ‘Yn Fy Mhen’ a ryddhawyd gan Recordiau Côsh.
Rhyddhawyd y fideo gan Ochr 1 a HANSH ddydd Gwener diwethaf, fideo a gyfarwyddwyd gan Izak Zjalic.
Mae’n amlwg bod llawer i ddod gan yr artist 17 oed yma o Ddolgellau. Gwerth bwrw golwg…
Artist: Iwan Huws
Mae sengl newydd Iwan Huws, ‘Pan Fydda Ni’n Symud’ allan yn swyddogol heddiw ar label Sbrigyn Ymborth gyda fideo gan gwmni Amcan sy’n cael ei ryddhau gan Ochr 1 a HANSH.
Sengl oddi ar albwm unigol cyntaf Iwan ydy hon, sy’n dwyn yr un teitl, Pan Fydda Ni’n Symud. Mae Iwan Huws yn gyfarwydd i ni fel un o Gowbois Rhos Botwnnog, y band mae’n ei rannu â’i ddau frawd Dafydd ac Aled.
Yn ymuno ag Iwan ar yr albwm newydd mae Gavin Fitzjohn (sacsoffon, trwmped, cornet), Gwion Llewelyn (drymiau, bâs, cornet, llais ) a Georgia Ruth (recorder, llais, synth). Fe’i recordiwyd dros gyfnod byr o bum diwrnod yn Sir Benfro â Marta Salogni (Björk, The Orielles).
“Dyma albwm am deithio a’r holl bethau ddaw yn sgil hynny – y teithiwr talog yn chwilio’r haul, a’r ceir sy’n malu cloddiau, y dyn sydd wedi tynnu pob llun yn barod, a’r rhai sy’n paratoi i fynd” meddai y datganiad gan PYST.
Bydd modd cael eich bysedd blewog ar yr albwm ar 11 Mai ac ymuno â’r parti lansiad yn Y Fic, Llithfaen ar yr un diwrnod. Bydd y record ar gael ar CD, i’w lawrlwytho ac i’w ffrydio – ond tan hynny gwrandewch ar hon a mwynhewch:
Record: Deg – Calan
‘Leni mae Calan, y grŵp gwerin yn dathlu deng mlynedd ers rhyddhau eu cryno-ddisg cyntaf, Bling, ac i ddathlu’r garreg filltir mae’r band ar daith ac yn rhyddhau casgliad o’u hoff draciau gydag ambell i recordiad newydd sbon. Bu’r albwm yn ‘Albwm yr Wythnos’ ar BBC Radio Cymru’r wythnos hon.
Yn ôl datganiad gan Sain – arbrofi yw’r gêm i Calan – “y nod yw rhoi bywyd newydd i gerddoriaeth draddodiadol o Gymru, maent yn llwyddo i roi sŵn ffres a bywiog i’n halawon traddodiadol a’u cyflwyno i gynulleidfaoedd newydd ar draws y byd – ymysg yr hen alawon mae cyfansoddiadau newydd gan aelodau’r band hefyd – sy’n siŵr o blesio!”
Dechreuodd Calan eu taith gerddorol wrth bysgio ar strydoedd Caerdydd, ac ers hynny maent wedi perfformio i 25,000 o bobl yng Ngŵyl Cropredy, rhannu llwyfan gyda Sting a Bryn Terfel yn Neuadd Frenhinol Albert, Llundain a dawnsio a pherfformio yng nglaw mawr y Borneo Rainforest Festival.
Maent newydd gychwyn taith hir, gyda manylion y dyddiadau llawn ar eu gwefan.
Bydd casgliad 10 Calan allan ar Sain ddechrau mis Mai.
Un peth arall..: Cyhoeddi lein-yp anhygoel Sesiwn Fawr Dolgellau
Daeth y cyhoeddiad wythnos yma gan un o drefnwyr Sesiwn Fawr Dolgellau ar raglen Al Hughes ar BBC Radio Cymru ynglŷn â phwy fydd y bandie fydd yn perfformio yn yr ŵyl fis Gorffennaf yma.
Cyhoeddodd bod un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru ar droad y mileniwm yn hedleinio, sef Anweledig wrth iddyn nhw ddod ynghyd i ddathlu 25 mlynedd ers ffurfio’r grŵp eleni. Mae’r rhestr hirfaith fydd yno i’w cefnogi yn cynnwys Al Inedita, Ail Symudiad, Sam Kelly And The Lost Boys, Geraint Lovegreen a’r Enw Da, Ye Vegabonds, Omaloma, Patrobas, Ortzadr Taldea, Gwyneth Glyn a Twm Morys, Mr Phormula, Siddi, DnA, Bwncath, Himyrs a’r Band, Y Cledrau, Gwilym, Nantgarw, Daniel Glyn, Hywel Pitts, Esyllt Sears, Jams Thomas, Caset, Arian Mân, Gwilym Bowen Rhys, Dawnswyr Bro Cefni a llawer mwy.
Bydd yr ŵyl yn Digwydd yn Nolgellau yng nghefn Tafarn y Ship ar 20-22 Gorffennaf, ac i goroni’r cyfan maent yn cynnal parti i ddathlu lansiad y lein-yp yn Nolgellau fory o 12:00 ymlaen â Gŵyl Gwrw yn Nhy Siamas (wele uchod).