Pump i’r Penwythnos 13 Gorffennaf 2018

Gig: Gŵyl Canol Dre, Caerfyrddin – Sadwrn 14/07/18

Mae tymor y gwyliau wedi cyrraedd go iawn erbyn hyn, a bron a bod gormod o ddewis i chi dros y penwythnos.

Fyny yn y gogs, mae Gŵyl Car Gwyllt yn digwydd ym Mlaenau Ffestiniog gyda lein-yp ardderchog sy’n cynnwys. Adwaith, Y Reu, Gwilym Bowen Rhys, Estella, Breichiau Hir, Jamie Bevan, Pasta Hull, Papur Wal, Piwb, Sate of Mind, Gwibdaith Hen Fran, Phil Gas a’r Band, I Fight Lions, Faux Felix, Gwilym ac Yr Oria. Ond yr uchafbwynt heb os fydd cym-bac Anweledig, wrth i’r band chwedlonol o Ffestiniog ddathlu chwarter canrif ers ffurfio.

Hefyd yn y gogledd mae Gŵyl Arall yn dathlu deng mlwyddiant yng Nghaernarfon. Nid gŵyl gerddorol ydy hon fel y cyfryw, gyda phwyslais ar lenyddiaeth a sgyrsiau amrywiol yn y gorffennol, ond mae’r lein-yp cerddorol wedi dod yn fwyfwy amlwg dros y blynyddoedd diwethaf. Mae The Gentle Good a Patrick Rimes yn perfformio yn y Galeri heno (Gwener) i agor yr arlwy gerddorol, gyda bandiau lleol yn cael y sylw yng Nghastell Caernarfon yn ystod y prynhawn fory – Miskin, Alffa, Anorac, Carma a Dienw.

Nos Sadwrn, yng Nghastell Caernarfon eto, mae cyfle i ddal Celt, Iwan Huws, Alun Gaffey a Rachel Newton. Mae sgwrs rhwng Gwenno a Lisa Gwilym bnawn Sul, cyn i’r gantores wneud set DJ arbennig yn Nhŷ Glyndwr, ac yna gig arall yn y Castell gyda bandiau Libertino – Argrph, Adwaith, Papur Wal a Los Blancos yn dechrau am 14:00. Ac yna mae arlwy gerddorol yr ŵyl yn cloi gyda Candelas, Y Reu, Band Arall a  Pasta Hull yn y Castell nos Sul. Ph

ew!

Os mai yn y de fyddwch chi dros y penwythnos, mae ‘na lein-yp ardderchog yn Mharti Ponty ym Mhontypridd. Ymysg yr artistiaid sy’n perfformio ddydd Sadwrn mae Yr Oria, Y Cledrau, Fleur de Lys, Alys Williams, Candelas, Patrobas, Mei Gwynedd, Kizzy Crawford, Mellt a Mei Emrys.

Ond gan bod Y Selar yn helpu trefnu gŵyl newydd sbon yng Nghaerfyrddin penwythnos yma, roedd rhaid i ni roi sylw arbennig i honno! Gŵyl Canol Dre ydy’r ŵyl dan sylw, ac fe’i cynhelir ar Barc Myrddin o 11:00 n

es 20:00. Llwyth o amrywiaeth ar y llwyfan perfformio, gyda Mari Mathias, Mellt, Y Gwdihŵs, Gwilym Bowen Rhys, Band Pres Llareggub a Huw Chiswell yn cloi.

Mae’n werth sôn bod gig nos yn Y Parrot i ddilyn Gŵyl Canol Dre, gyda Cpt Smith, Hyll ac Ifan Thomas yn perfformio – stoncar o ddiwrnod yn nhref hyna’ Cymru.

Cân: Sgoda – Siôn Teifi Rees

Ambell beth bach diddorol wedi popio fyny ar ein ffrwd Soundcloud wythnos yma, gan gynnwys y trac yma gan artist cymharol anghyfarwydd.  

Mae Siôn Teifi Rees yn lled gyfarwydd i’r Selar fel cerddor sydd wedi chwarae gyda Mari Mathias yn y gorffennol, ac yn benodol fel aelod o’r band gwerin Raffdam, gyda Mari a Dafydd Syfydrin.

Mae ei stwff unigol yn hollol wahanol i gerddoriaeth Raffdam. Mae’n cael ei ddisgrifio fel ‘roc amgen’, ond mae ‘na ddylanwadau electroneg, ambient amlwg ar y trac ‘Sgoda’.

Hoffi hon, ac yn edrych mlaen i glywed mwy gan Siôn.

 

Artist: Gwilym Bowen Rhys

Newyddion cyffrous o gyfeiriad label Sbrigyn Ymborth yr wythnos hon, sef eu bod nhw’n lansio label recordiau newydd sbon o’r enw Recordiau Erwydd.

Bydd y label newydd yn arbenigo mewn cerddoriaeth acwstig, werin, traddodiadol a gwreiddiol, ac i roi dechrau perffaith i Recordiau Erwydd, maen nhw’n bwriadu rhyddhau albwm gan un o artistiaid gwerin amlycaf Cymru ar hyn o bryd, Gwilym Bowen Rhys.

Detholiad o Hen Faledi ydy enw casgliad newydd y cerddor, ac mae’n ffrwyth ymchwil Gwilym ac yn record gyntaf mewn cyfres.

Wedi pori drwy archifau ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol, mae Gwilym wedi darganfod nifer o berlau, a’u cyflwyno yma yn ei arddull unigryw ei hun – rhai ohonynt erioed wedi’u recordio o’r blaen!

Mae modd gwrando ar y traciau, a rhag archebu’r albwm, ar safle Bandcamp Gwilym Bowen Rhys nawr.

Er mai ym mis Medi mae’r casgliad allan yn swyddogol, bydd nifer cyfyngedig o gopïau ar gael ym mherfformiadau byw Gwilym dros yr haf. Cofiwch bod gan Gwil benwythnos prysur ar y gweill, a’i fod yn gigio yng Ngŵyl Canol Dre, Caerfyrddin a Gŵyl Car Gwyllt ym Mlaenau Ffestiniog ddydd Sadwrn.  

Dyma ffefryn o albwm diwethaf Gwil, O Groth y Ddaear, sef ‘Owain Langoch’:

 Record: Lizarra – Estella

Cym-bac mawr Anweledig sydd wedi dwyn y prif sylw wrth i ni edrych ymlaen at Ŵyl Car Gwyllt yng Nghlwb Rygbi Blaenau Ffestiniog dros y penwythnos, ond mae band arall amlwg o’r gorffennol hefyd yn gwneud ymddangosiad prin yn yr ŵyl.

Estella ydy’r grŵp dan sylw – band oedd yn ddigon poblogaidd rhyw 15 mlynedd yn ôl, pan ryddhawyd eu halbwm Lizarra. Roedden nhw’n fand bywiog mewn gigs, bob amser yn llwyddo i ddenu pobl i ddawsio gyda’i sŵn unigryw oedd yn gymysgedd o ffync, jazz, reggae gydag adlais o gerddoriaeth Lladin-Ewropeaidd.   

Daw enw’r albwm o’r dref yng Ngwlad y Basg, Lizarra, sydd hefyd a’r enw Sbaeneg…Estella! Doedd gan y band ddim syniad o hynny pan ddewiswyd yr enw gyntaf nôl pan eu ffurfiwyd!

Mae’r albwm dal ar gael i’w archebu ar wefan Sain am bris rhesymol iawn o £5.99 ar hyn o bryd!

Dyma gân agoriadol, neis iawn, yr albwm ‘Dy Natur Di’:

Un peth arall: Pennod newydd Y Sôn

Mae ein hoff podlediad cerddoriaeth Gymraeg, Y Sôn, yn ôl, ac wedi cyhoeddi pennod rhif 7 dan y teitl ‘Plyg gwaetha ‘rioed…’ wythnos diwethaf.

Y plyg dan sylw da ni’n amau ydy hwnnw i Ŵyl Arall, lle mae Chris a Geth o Sôn am Sîn yn helpu trefnu’r arlwy gerddorol (wele uchod). Mae hwnnw reit ar ddechrau’r bennod, felly allwch chi sgipio’n weddol rhwydd os ydach chi wedi darllen ein crynodeb ‘Gig’ uchod (i tua 5:20).

Be mae Y Sôn yn wirioneddol dda am wneud ydy adolygu cynnyrch yn drylwyr iawn, ac unwaith eto mae hynny’n amlwg yn y pod diweddaraf wrth iddyn nhw ddadansoddi albyms Candelas ac I Fight Lions.

Mae’r ddeuawd hefyd yn cael sgwrs ddifyr am y ffordd mae rhestrau chwarae Spotify yn gweithio nes mlaen yn y pod.

Gwaith da eto hogia.