Pump i’r Penwythnos – 14 Medi 2018

Gig: Chefwyl – Y Parrot, Caerfyrddin – 15/09/18

Er bod gwyliau’r haf yn dechrau dirwyn i ben, mae ‘na dipyn o gigs ar y gweill dros y penwythnos gan gynnwys ambell ŵyl fach wahanol!

Mae dau gyfle i ddal Candelas yn fyw dros y penwythnos, nos Wener yn Saith Seren, Wrecsam ac yna yn Fic Llithfaen nos Sadwrn.

Bydd Candelas yn perfformio yn Llithfaen fel rhan o ŵyl Ha’ Bach y Fic sy’n digwydd nos Wener a nos Sadwrn. Nos Sadwrn ydy’r prif noson gerddorol, ac yn ogystal â Candelas mae Glain Rhys, Welsh Whisperer ac y bytholwyrdd John ac Alun yn perfformio.

Mae cwpl o gyfleoedd i weld Gogs yn perfformio’n fyw dros y penwythnos hefyd, yn gyntaf heno (Gwener) yn y Queens Head, Cae Mawr, ac yna nos fory yn Llew Du, Rhosllannerchrugog.

Gŵyl arall dros y penwythnos ydy Caeffest, a gynhelir mewn cae (sypreis, sypreis) ger Neuadd Goffa Llanllyfni. Lein-yp bach amrywiol sydd yna gyda Synwyr Cyffredin, Papur Wal, Pasta Hull, Phil Gas a’r Band, Y Cyffro a mwy.

Mae HMS Morris yn parhau a’r daith i hyrwyddo eu halbwm newydd dros y penwythnos, gyda gig yn y Galeri Caernarfon neithiwr (Iau), perfformiad yn Atomic, Wrecsam nos fory ac yna gig yng nghlwb cerddoriaeth HY-Brasil ym Mryste nos Sul.

Ond ein prif ddewis ni ar gyfer y penwythnos ydy Chefwyl yn Y Parrot yng Nghaerfyrddin. Gŵyl i ddathlu bywyd y diweddar Gareth ‘Chef’ Williams oedd yn aelod o’r grŵp Tystion. Lein-yp ardderchog yma sy’n cynnwys Alex Dingley, Euros Childs, Los Blancos a llawer mwy.

 

Cân: ‘Portread o Ddyn yn Bwyta ei Hun’ – Breichau Hir

Nid yw’r gyfrinach bod parch mawr at Breichiau Hir yn Selar towyrs, ac rydan ni’n hoff iawn o’u steil nhw.

Newyddion penigamp yn gynharach yn yr wythnos felly bod sengl newydd ar y gweill ganddyn nhw, a bod hwn allan ar label Libertino ar 12 Hydref.

Er nad yw allan yn swyddogol eto, mae cwpl o gyfleoedd i wrando ar y diwn newydd sydd â’r enw byr a bachog ‘Portread o Ddyn yn Bwyta ei Hun’.

Yn gyntaf, mae Ochr 1 wedi cyhoeddi fideo o’r trac sydd wedi’i gyfarwyddo gan Nico Dafydd.

Ac yn ail, mae modd ffrydio ar safle Soundcloud Recordiau Libertino…neu jyst cliciwch y botwm chwarae isod!

 

 

Record: She’s Got Spies

Er mai albwm cyntaf ydy ein dewis o record yr wythnos hon, mae’n albwm sydd wedi bod ar y gweill ers peth amser!

Prosiect Laura Nunez ydy She’s Got Spies ac mae’n wyneb cyfarwydd i nifer sydd wedi bod yn dilyn cerddoriaeth gyfoes Gymraeg ers canol y dim-dimau (00s). Os ydan ni’n cofio’n iawn, roedd ganddi flog cerddoriaeth ar un pryd, ac fe ddysgodd y ferch o Lundain Gymraeg oherwydd ei hoffter o grwpiau fel Super Furry Animals a Gorkys Zygotig Mynci.

Enw’r albwm newydd ydy Wedi, ac er bod caneuon yr albwm wedi eu cyfansoddi a recordio rhwng 2006 a 2009, dim ond heddiw maen nhw’n gweld golau dydd diolch i label Recordiau Rheidol.

Mae sŵn y gerddoriaeth bach yn wahanol i’r hyn sy’n gyffredin y dyddiau yma, ac yn sicr does dim merched yn gwneud y math yma o beth yn y Gymraeg ar hyn o bryd. Mae’n debyg y gellid dwyn cymariaethau i raddau rhwng cerddoriaeth She’s Got Spies â sŵn low-fi Mr Huw, ond barnwch dros eich hunain.

Heb os, dyma ychwanegiad sydd i’w groesawu i gatalog albyms 2018. Dyma ‘Dechrau Haf’, sydd ar safle Soundcloud She’s Got Spies ers cwta 7 mlynedd!

 

Artist: Bwca

Mae Bwca wedi cyhoeddi dau drac newydd ar ei safle Soundcloud penwythnos diwethaf.

‘Hoffi Coffi’ a ‘Cno dy Dafod’ ydy’r traciau diweddaraf i ymddangos gan yr artist newydd o Geredigion, ac maent yn dilyn y sengl ‘Pawb di Mynd i Gaerdydd’ a ryddhawyd ym mis Gorffennaf.

Bwca ydy prosiect cerddorol Steff Rees o Aberystwyth, sy’n bennaf gyfrifol hefyd a fudiad Gigs Cantre’r Gwaelod sydd newydd gloi cyfres o gigs llwyddiannus iawn yn y Bandstand yn Aber.

Yn ymuno gyda Steff ar y recordiadau mae Iwan Hughes o Abergwaun ar y dryms, Ffion Evans o Bow Street ar y trwmped a Lee Mason o Drefdraeth ar y gitâr fas. Lee oedd hefyd yn gyfrifol am y broses recordio, cymysgu a mastro.

Mae’n debyg bod ‘Hoffi Coffi’ wedi’i ysgrifennu wrth hiraethu ar un noson fwll yn y dref ger y lli am y 2 for 1 Sex on the Beach yn nhafarn Salt Aberystwyth a gaeodd er mwyn troi’n gaffi. Mewn tref oedd yn enwog ar un adeg am ei nifer uchel o dafarndai roedd “Saltgate” yn symboleiddio shifft mawr yn y dref o danco peints tuag at sipian, trafod ac Instagramio coffi posh.

Mae ‘Cno dy Dafod’ yn diwn arafach gyda diweddglo mawr. Mae’r gân yn trafod y bobl broffesiynol hynny sy’n ysu i gael dweud eu dweud ar gyfryngau cymdeithasol ond sy’n methu gwneud oherwydd eu swyddi.

Dyma ‘Hoffi Coffi’:

Un peth arall…: Tîwn Alffa ar fideo pêl-droed Cymru

Bydd rhai ohonoch yn cofio i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ddefnyddio tiwn Adwaith, ‘Fel i Fod’, ar fideo i ddathlu campau tîm pêl-droed merched Cymru nôl ym mis Mehefin.

Wel, yr wythnos hon mae un arall o fandiau Gorwelion eleni, Alffa, wedi cael y fraint o weld y Gymdeithas yn defnyddio eu sengl ‘Gwenwyn’ ar gyfer eu pecyn fideo bach yn crynhoi gemau tîm dynion Cymru yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a Denmarc.

Byddwch yn cofio bod Y Selar wedi cael y fraint o chwarae ‘Gwenwyn’ ar yr wefan am y tro cyntaf nôl ym mis Gorffennaf. Dal i swnio’n blwmin grêt hefyd!