Gig: Gŵyl Gaeafgysgu – Hwlffordd – 15/12/18
Gyda llai na phythefnos nes y diwrnod mawr (!!) does dim syndod bod teimlad digon Nadoligaidd i gigs y penwythnos yma.
Mae sioe Cabarela wedi dechrau ar ei thaith gyda thri dyddiad dros y penwythnos. Sioe gan y grŵp lleisiol Sorela ydy hon, gyda gwesteion arbennig yn ymddangos ar y gwahanol nosweithiau. Roedden nhw’n perfformio yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd neithiwr, ac maen nhw’n ymweld â’r Egin yng Nghaerfyrddin heno. Byddan nhw’n cloi eu penwythnos yng Nghlwb COBRA, Meifod nos Sadwrn yng nghwmni Divas & Diceds a Hywel Pitts.
Un arall sydd bob amser yn joio’r Nadolig ydy Bing Crosby Cymru, Al Lewis wrth gwrs. Mae’n cynnal ei sioe Nadolig flynyddol yn Eglwys Sant Ioan, Pontcanna am y chweched flwyddyn eleni, gyda dwy noson dros y penwythnos, y gyntaf heno gyda DnA a Marged ac yna nos Sadwrn hefyd gyda Matthew Frederick a Marged.
Roedd cwpl o gigs i fod yng Ngheredigion heno – bydd Owen Shiers yn perfformio ei Sioe Gadael Tir yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ond mae gig Nadolig Pwerdy Iaith Aberaeron yn Neuadd Goffa y dref gyda Patrobas ac Eleri Llwyd wedi’i ohirio.
Bydd cyfleoedd i ddal dau styd mwyaf y sin ar lwyfan heno hefyd – mae Bryn Fôn yn Saith Seren, Wrecsam, a’r Welsh Whisperer yn Nhŷ Newydd Sarn.
Ein prif argymhelliad ni ar gyfer y penwythnos ydy Gŵyl Gaeafgysgu yn Hwlffordd fory. Dyma chi ŵyl fach ddigon diddorol yr olwg sy’n cynnwys cerddoriaeth fyw gan Plu, R. Seiliog, Accü, Carw, Papur Wal, Gwilym Bowen Rhys a’r grŵp gwerin Three Legg’d Mare. Eclectig, a diddorol mae’n deg dweud!
Cân: ‘Melin’ – Dan Amor
Grêt i weld cwpl o ganeuon dan Dan Amor yn dod i’r wyneb wythnos yma. Fe chwaraeodd Lisa Gwilym y traciau ar ei rhaglen radio nos Fercher, ac mae hefyd wedi llwytho ‘Addo Glaw’ a ‘Melin’ i’w safle Soundcloud.
Y newyddion da pellach ydy y gallwn ni ddisgwyl albwm newydd gan y cerddor o Benmachno yn fuan iawn yn y flwyddyn newydd.
Mae Dan wedi bod mor brysur yn rhyddhau cynnyrch artistiaid eraill ar ei label Recordiau Cae Gwyn dros y blynyddoedd diwethaf, mae o wedi hepgor rhyddhau cerddoriaeth ei hun. Yn wir, dyma fydd ei gynnyrch cyntaf ers y sengl ‘Penwythnos Heulog’ yn 2015, a’i record hir gyntaf ers yr albwm Rainhill Trials yn 2014.
Enw’r albwm newydd ydy Afonydd a drysau, a bydd allan yn swyddogol ar 28 Ionawr. Er hynny, mae modd prynu a gwrando ar y fersiwn digidol ar ei safle Bandcamp nawr.
Mae ‘Addo Glaw’ yn weddol driw i’r sŵn rydan ni wedi arfer ei glywed gan Dan, ond mae ‘Melin’ yn cynnig rhywbeth bach yn wahanol, gydag awgrym o seicadelia fyddai bandiau ei frawd bach, George, yn falch ohono.
Hoffi hon Dan.
Record: Megadoze – R. Seiliog
Sylw arbennig i albwm sydd allan ers cwpl o wythnosau heddiw, sef Magadoze gan R. Seiliog.
Rhyddhawyd yr albwm ar label Recordiau Turnstile bythefnos yn ôl, a dyma albwm diweddaraf prosiect y cerddor Robin Edwards yn dilyn Doppler (2013) ac In HZ (2016).
Mae’r ymateb i’r casgliad diweddaraf gan yr artist electroneg wedi bod yn arbennig o dda – gallwn ddarllen adolygiad golygydd Y Selar, Gwilym Dwyfor, yn rhifyn diweddaraf y cylchgrawn fel man cychwyn.
Wythnos yma mae’r Wales Arts Review wedi cynnwys Megadoze yn eu rhestr o 12 albwm gorau o 2018. Mae mewn cwmni da iawn hefyd, gydag albyms Adwaith, Lleuwen, Gwenno a Mr ymysg yr enwau sydd ar y rhestr.
Mae’r blogiwr cerddoriaeth Simon Tucker wedi cynnwys y record ar ei restr o albyms gorau’r flwyddyn ar flog uchel ei barch Hiapop. Gallwch ddarllen ei adolygiad o’r casgliad ar wefan amlwg Louder than War hefyd.
Rydan ni’n disgwyl gweld yr albwm yn glanio ar ambell restr arall cyn diwedd y flwyddyn, ac mae’n sicr wedi creu llawer o argraff mewn amser byr.
Mae cyfle da i ddal R. Seiliog yn fyw yng ngŵyl Gaeafgysgu fory – ein prif ddewis o gig y penwythnos uchod wrth gwrs!
Dyma fideo hyfryd y trac ‘Obsidian’ a gyfarwyddwyd gan Andy Pritchard ar gyfer Ochr 1 o rai wythnosau nôl:
Artist: Betsan
Dyma chi enw anghyfarwydd ar yr olwg gyntaf, ond artist sy’n siŵr o fod yn gyfarwydd iawn i ddarllenwyr Y Selar unwaith y crafwch chi ychydig o dan yr wyneb.
Enw llawn Betsan ydy Betsan Haf Evans, a hi sy’n gyfrifol am gwmni ffotograffiaeth Celf Calon a phrif ffotograffydd Y Selar dros y blynyddoedd diwethaf. Anaml iawn mae rhifyn o’r Selar wedi’i gyhoeddi heb gynnwys lluniau ganddi yn ddiweddar, a bydd llawer ohonoch wedi dod ar ei thraws yn ‘papo’ yng Ngwobrau’r Selar mae’n siŵr.
‘Be mae ffotograffydd yn ei wneud yn rhyddhau cerddoriaeth?’ dwi’n clywed chi’n dweud. Wel, mae Bets yn artist amryddawn iawn, ac yn wyneb cyfarwydd ar lwyfannau Cymru hefyd.
Dechreuodd ei gyrfa gerddorol yn drymio i’r grwpiau Alcatraz (grŵp cyntaf Cate Le Bon) ac Y Panics (gyda Fflur Dafydd a Nia Medi) a dros y blynyddoedd mae Betsan wedi bod yn aelod o Dan Lloyd a Mr Pinc, Genod Droog a Freshold. Mae ar hyn o bryd hefyd yn perfformio gyda’r grŵp ffync Kookamunga, yn ogystal â’r band parti ardderchog, Y Gwdihws.
Nawr, mae’n mentro fel perfformiwr unigol ac yn rhyddhau ei sengl gyntaf ar ffurf y gân Nadolig, ‘Cofia’, sydd allan heddiw.
Disgrifir y trac fel y sengl Nadolig berffaith, yn llawn nostalgia, cysur a chynhesrwydd yr ŵyl. Mae Betsan yn paentio llun hiraethus a pherffaith o ddiwrnodau Nadolig ei phlentyndod trwy’r offeryniaeth llawn a chyfoethog.
Ffaith ddiddorol arall i chi am Betsan – ei thad ydy’r cerddor Jazz Cenfyn Evans, fydd yn gyfarwydd i rai o gîcs y sin (os ydach chi’n darllen hwn Dyl Mei, Huw Stephens…) fel aelod o’r grŵp Cymraeg boncyrs o’r 1960au Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog.
Gan nad ydy ‘Cofia’ ar Soundcloud Bets (er bod traciau rhai o’i phrosiectau amrywiol – gwerth golwg), rydan ni am ddefnyddio’r ffaith uchod fel esgus i chwarae trac gan y Dyniadon. Dyma’r hyfryd ‘Dicsi’r Clustie’ sy’n defnyddio alaw ‘Mack the Knife’…jyst gwrandwch ar gracyl y feinyl ar hon, blwmin lyfli:
Un peth arall…: Golwg nôl ar gigs Llyfrgelloedd
Bydd rhai ohonoch chi’n cofio’r gigs llyfrgelloedd a gynhaliwyd ar y cyd rhwng Y Selar a Gorwelion fis Tachwedd.
Bu i ni gynnal gig yn Llandudno gyda Campfire Social ac Eadyth, cyn i Eadyth deithio lawr i Abertawe i berfformio’r diwrnod canlynol gyda I See Rivers.
Wythnos yma mae Gorwelion wedi rhyddhau ffilm fer yn dogfennu’r gigs, ac mae’n dal naws y digwyddiadau i’r dim! Mwy o hyn yn y dyfodol gobeithio….
📚 Horizons 2018 📚
This year we got loud in libraries as Eädyth, @campfire_social and @ISEERIVERS took to the shelves in Llandudno & Swansea!
Gigs mewn llyfrgell – pam lai – adeiladau a awyrgylch unigryw i Eädyth CAMPFIRE SOCIAL a I See Rivers@BBCWales @Arts_Wales_ pic.twitter.com/3M5mldBlu4
— Horizons / Gorwelion (@HorizonsCymru) December 8, 2018