Pump i’r Penwythnos – 15 Mehefin 2018

Gig: Gŵyl Fach y Fro, Ynys Y Barri – Sadwrn 16/06/18

Nifer o gigs bach da yn digwydd penwythnos yma eto, gyda noson epig yng Nghaerdydd heno ar ffurf cyngerdd Epilog. Mae’r cyngerdd yn ran o arlwy Gŵyl y Llais, ac yn aduno nifer o sêr Operau Roc Cymraeg y 1970au gan gynnwys Ac Eraill, Sidan, Meic Stevens, Heather Jones, Gillian Elisa, Cleif Harpwood, Tecwyn Ifan, Hywel Gwynfryn, Gruff ab Arwel, Delwyn Sion a mwy.

Hefyd heno mae’r cyntaf o bâr o gigs Lleuwen sy’n digwydd dros y penwythnos yn y Galeri Caernarfon. Mae’r ail gig yn cael ei hyrwyddo gan Y Selar, ac yn digwydd yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth bnawn Sul, gyda chefnogaeth gan brosiect cerddorol chwaer Lleuwen, Manon Steffan Ros, sef Blodau Gwylltion.

Nos Sadwrn yng Nghlwb Ifor Bach gallwch chi ddal Ani Glass yn perfformio gydag Alex Dingley a Farm Hand. Nos Sadwrn hefyd mae Y Trwbz yn Plas Coch, Y Bala, a Bryn Fôn yn perfformio yn Neuadd Fictoria, Llanbedr Pont Steffan, gyda chefnogaeth gan Beth Celyn.

Ond ein dewis ni o uchafbwynt yr wythnos hon ydy Gŵyl Fach y Fro sy’n cael eu chynnal ar Ynys y Barri ddydd Sadwrn. Dyma chi ŵyl fach sydd wedi bod yn mynd o nerth i nerth, a sy’n cynnwys lein-yp gerddorol ardderchog eleni gan gynnwys Candelas, Geraint Lovgreen a’r Enw Da, Alys Williams, Al Lewis, Mabli Tudur,  Fleur de Lys, DJ’s Bethan Elfyn a Gareth Potter.

 

Cân: ‘Ffordd y Mynydd’ – Mei Gwynedd

Rhag ofn i chi golli hyn ddoe, mae Y Selar wedi bod yn ddigon ffodus o allu cyhoeddi ‘ecsgliwsif byd eang’ wrth i ni roi cyfle i’n dilynwr glywed y gân ‘Ffordd y Mynydd’ gan Mei Gwynedd am y tro cyntaf ar ein gwefan.

Bydd y trac ar albwm newydd Mei, Glas, sy’n cael ei ryddhau ar 29 Mehefin gyda lansiad yn y Galeri, Caernarfon ar ddydd Gwener 6 Gorffennaf.

Os nad ydy hynny ddigon, rydym hefyd yn rhedeg cystadleuaeth gyda chyfle i chi ennill copi wedi’i lofnodi o’r albwm newydd, ynghyd â phâr o docynnau i’r gig lansio yn y Galeri. Y cyfan sydd angen i chi wneud i gael eich enw yn yr het ydy naill ai rhannu ein post Facebook am y gân neu ein neges Twitter amdani.

Dyma ‘Ffordd y Mynydd’:

 

Record: Be Sy’n Wir – I Fight Lions

Da ni wedi cymryd at I Fight Lions dros y misoedd diwethaf, ac yn hoff iawn o’r caneuon rydan ni wedi clywed hyd yma o’u halbwm newydd, Be Sy’n Wir.

Wel, mae albwm newydd grŵp Hywel Pitts allan heddiw, a bydd y rhai ohonoch chi sydd wedi rhag archebu’n debygol o’i weld yn glanio ar fat y drws ffrynt dros y penwythnos gyda lwc.

Os ydy gweddill yr albwm unrhyw beth yn agos at safon ‘Calon Dan Glo’, yna mae’n addo bod yn un o albyms gorau’r flwyddyn.

Hoffi hon….

 

Artist: Yr Ods

Bach o syndod ddoe wrth weld trydar o gyfrif Yr Ods yn cyhoeddi bod sengl newydd allan ganddyn nhw.

Ac fe fyddwn ni’n dysgu mwy am y sengl yn fuan iawn, gan ei bod hi allan ddydd Gwener nesaf, 22 Mehefin! Dim whare glei!

Dyma fydd cynnyrch cyntaf y grŵp ers y sengl ddwbl ‘Ble’r Aeth yr Haul / Hiroes i’r Drefn’ reit nôl yn Hydref 2015 wrth i aelodau’r grŵp fod yn brysur yn gweithio ar eu prosiectau cerddorol eraill.

Â’r grŵp wedi bod yn weddol segur ers cwpl o flynyddoedd, roedd gweld y cyhoeddiad eu bod yn hedleinio un o nosweithiau Maes B eleni’n dipyn o syndod. Ond gyda’r cyhoeddiad am y sengl newydd, ac awgrym slei am fwy ar y gweill dros yr haf, efallai bod y slot Maes B yn gwneud mwy o synnwyr bellach.

I godi’r hwyliau, ac i’n hatgoffa o ba mor dda ydy Yr Ods, dyma’r ardderchog ‘Ble’r Aeth yr Haul’:

 

Ac un peth arall….: Adwaith a thîm pêl-droed merched Cymru

Yn dilyn dwy fuddugoliaeth wych tîm pêl-droed Cymru yn erbyn Bosnia-Herzegovina  a Rwsia dros yr wythnos ddiwethaf, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi rhyddhau fideo gwych i ddathlu eu campau.

Mae’r tîm yn haeddu clod aruthrol ac mae’r canlyniadau’n eu gadael ar frig eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd yn Ffrainc y flwyddyn nesaf, gyda gêm enfawr i ddod yn erbyn Lloegr ar 31 Awst.

Mae hyn ar ben ei hun yn ddigon o gyfiawnhad i ni rannu’r fideo gyda chi, ond yr hyn sy’n gwneud y fideo hyd yn oed yn fwy arwyddocaol a hyfryd i ni ydy’r ffaith bod y Gymdeithas Bêl-droed wedi defnyddio’r trac ‘Fel i Fod’ gan Adwaith fel cerddoriaeth gefndir. Allwn ni ddim meddwl am gân fwy addas – Bravo eto Mr Gwyn Hughes! #GorauChwaraeCydChwarae