Pump i’r penwythnos 16/03/18

Gig: Lansiad albwm Y Cledrau – Neuadd Buddug, Y Bala – 17/03/18

Penwythnos llawn digwyddiadau’r penwythnos yma, gan gychwyn hefo un o rowndiau rhagbrofol Brwydr y Bandiau yng Nghlwb Canol Dre, Caernarfon heno gyda Ffracas yn gwneud set i gloi.

Hefyd yng Nghaernarfon heno bydd Beth Celyn yn chwarae yn Nhŷ Glyndŵr am 21:00.

Mae Gwilym Bowen Rhys yn wynebu penwythnos prysur iawn unwaith yn rhagor gan ei fod yn chwarae’n Ngwesty’r Montpellier, Llandrindod am 19:30 heno, yna yn Paddys, Bangor am 13:00 pnawn fory (Sadwrn 17 Mawrth) ac eto am 19:30 nos fory yng Nghlwb Hwylio Caernarfon gydag Iestyn Tyne.

Ddydd Sadwrn 17 Mawrth bydd Blodau Gwylltion yn gwneud taith fer o gwmpas ‘chydig o drefi canolbarth a gogledd Cymru i hyrwyddo eu halbwm cyntaf, Llifo Fel Oed, sydd allan heddiw. Byddan nhw’n Siop y Pethe, Aberystwyth am 10:00, yna Awen Meirion, Y Bala am 13:00 gan orffen yn Palas Print, Caernarfon am 16:00.

Mae lansiad swyddogol albwm Y Cledrau ‘Peiriant Ateb’, a gafodd ei ryddhau fis Rhagfyr ar label Recordiau I KA CHING yn digwydd nos fory’n Neuadd Buddug, Y Bala, efo Gwilym a Mellt yn cefnogi. Mae Mellt hefyd wrth gwrs newydd ryddhau sengl newydd ddydd Llun diwethaf, ‘Rebel’, sef y gyntaf o’u halbwm fydd yn dod allan 20 Ebrill ar label JigCal.

Ac i orffen o ran y gigs wythnos yma, bydd ‘Sesiwn Selar Aberteifi’ nos Sadwrn gyda Los Blancos, Rifleros a DJ’s yn y Castle Cellar Bar, Aberteifi am 20:00.

 

Cân: ‘Y Parlwr Lliw’ – Al Lewis

Mae Al Lewis yn ôl gyda sengl newydd sbon danlli sydd allan heddiw yn swyddogol, sef ‘Y Parlwr Lliw’.

Cân yp-bit sy’n sôn am barlwr tatŵ ydy hon, mae’n sengl ‘chydig gwahanol i’r sŵn rydan ni wedi arfer lywed ganddo. Gwrandewch arni i weld drostoch eich hun:

https://songwhip.com/song/al-lewis-band/y-parlwr-lliw

 

Record: Peiriant Ateb – Y Cledrau

Mae’n benwythnos mawr i’r Cledrau wythnos yma gan eu bod nhw’n lansio eu halbwm cyntaf yn swyddogol nos Sadwrn yn eu sinema lleol! Roedd penwythnos diwetha’n un mawr iddyn nhw hefyd, gan eu bod nhw wedi hed-leinio gig yr Eisteddfod Ryng-golegol, oedd yn digwydd yn Llanbed, am y tro cyntaf.

Mae’n argoeli i fod yn flwyddyn brysur dros ben i’r band o Feirionnydd a Môn, ac wedi sawl blwyddyn o fygwth, maen nhw wir yn dechrau sefydlu eu hunain fel un i brif fandiau’r sin.

Dyma fideo ‘Peiriant Ateb’, sef fideo byw y gwnaethon nhw gyda SSP Media, Stiwdio DRWM ag I KA CHING ar gyfer dathliadau Dydd Miwsig Cymru:

Artist: Breichiau Hir

Artist sydd wedi cael dipyn o sylw yr wythnos hon yw Breichiau Hir, sef y band roc o  Gaerdydd, ac rydan ni’n falch i glywed bod mwy o stwff ar y ffordd ganddynt.

Bydd Breichiau Hir yn rhyddhau sengl ddwbl newydd ar 6 Ebrill sef ‘Mewn Darnau / Halen’ – dwy gân fydd yn diffinio’r band yn ôl eu label newydd. “Label newydd?” dwi’n clywed chi’n gofyn… wel, daeth y newyddion cyffrous hefyd bod Breichiau Hir wedi ymuno â label Recordiau Libertino, label sydd wedi datblygu i fod yn un o’r labeli mwyaf gweithgar yn y sin gerddoriaeth Gymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Breichiau Hir yn adnabyddus am eu “sioeau pync chwedlonol, sain melodig, a geiriau caneuon deallus sy’n delio â themâu dwys drwy hiwmor dychanol” yn ôl Libertino.

Ond yr addewid ydy bod y sengl ddwbl newydd yn dangos egni, cyfeiriad a phwrpas newydd. Edrych mlaen i glywed mwy.

Dyma ‘Toddi’ ganddynt, oddi ar eu EP ardderchog, Mae’r Angerdd Yma Yn Troi’n Gas:


Un peth arall..: Cyhoeddi noson arbennig yng Nghastell Aberteifi

Mae Huw Stephens yn cyflwyno noson arbennig yng Nghastell hudolus Aberteifi ar 21 Gorffennaf, sy’n cynnwys rhai o enwau amlycaf y sin ar hyn o bryd, gan gynnwys Serol Serol, Omaloma ag Gwenno. Bydd Huw hefyd yn cyfweld â’r eicon lleol Malcolm Neon am 18:00 yn y pafiliwn cyn y prif ddigwyddiad.

Be well na ‘chydig o bop electroneg yn yr haul, mewn castell, wrth y môr fis Gorffennaf? Gellir prynu’r tocynnau o wefan Mwldan, ewch amdani rhag cael eich siomi.

Dyma ‘Tir Ha Mor’ sydd ar albwm Gernyweg Gwenno a ryddhawyd wythnos diwetha’: