Gig: Y Ddawns Rhyng-gol – Undeb Myfyrwyr Aberystwyth – 17/11/18
Penwythnos arall o gigs amrywiol iawn i ddewis ohonynt wythnos yma unwaith eto…
Mae Gruff Rhys yn dal i deithio Prydain ac mae’n gigio yn Leeds heno, cyn symud ymlaen i’r Arts Club yn Lerpwl nos fory.
Band arall sy’n dal i deithio ydy Estrons gyda gigs yn Brighton heno, ac yna i Ogledd Cymru, ac i’r Galeri yng Nghaernarfon nos fory. Mae cefnogaeth gref iddyn nhw yng Nghaernarfon hefyd ar ffurf Mellt ac Alffa.
Ella’i fod o’n rwgnachlyd ac ychydig allan o gysylltiad efo’r hyn sy’n digwydd yn y byd cerddoriaeth Gymraeg gyfoes (neu Sin Roc fel fysa fo’n ei alw fo) ond mae bob amser yn werth manteisio ar unrhyw gyfle i ddal Meic Stevens yn fyw. Ac mae o’n chwarae yn Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug heno, felly ewch draw os ydach chi yn y Gogledd Ddwyrain.
Hefyd yn y Gogledd Ddwyrain mae un o fandiau prysura’ Cymru ar hyn o bryd, Gogs, yn perfformio yn The Parish yn Wrecsam heno – fydd rhaid fyth yn cael penwythnos i ffwrdd?!
Cwpl o gigs gwrthgyferbyniol nos Sadwrn, o ran sgêl ac o ran arlwy.
Yng Nghaerfyrddin mae ‘na lein-yp bach hyfryd mewn lleoliad agos-atoch-chi, sef Y Parrot, gyda’r anhygoel R. Seiliog a’i diwns electroneg, ac un o artistiaid mwyaf cyffrous y foment, Accü.
Yn Aberystwyth ar y llaw arall, mae un o gigs mwyaf yr hydref, sef Y Ddawns Rhyng-gol yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth. Mae tipyn o lein-yp i’r stiwdants fwynhau hefyd – Adwaith, I Fight Lions, Los Blancos, Gwilym a Candelas. Stoncar o gig.
Ac un gig bach olaf – mae Dan Lloyd a Mr Pinc yn y Marine yng Nghriccieth nos Sadwrn hefyd!
Cân: ‘Mwy Mewn Meddwl’ – Jaffro
Fydd enw Jaffro ddim yn gyfarwydd iawn i lawer sy’n darllen hwn mae’n siŵr, ond mae o wedi bod yn gigio o gwmpas ardal Caerfyrddin, a thu hwnt, ers peth amser.
Prosiect cerddorol Wil Pritchard ydy Jaffro, ac mae’n cynhyrchu cerddoriaeth amgen ac electroneg. Bydd rhai yn cofio efallai i drac gan Jaffro, ‘Rhyfin Di-Dda’, ymddangos ar gasgliad aml-gyfrannog Recordiau Libertino – I’r Gofod a Byth yn Ôl – a ryddhawyd llynedd.
Wythnos yma mae trac newydd gan Jaffro wedi ymddangos ar ffrwd Soundcloud Recordiau Libertino, ac mae’n debyg y bydd ‘Mwy Mewn Meddwl’ yn cael ei rhyddhau fel sengl ar 30 Tachwedd. Mae hi’n bach o diwn hefyd…
Record: Girls Talk / Nos Da Susanna – Chroma
Fel arfer byddwn ni’n tueddu i ganolbwyntio ar albyms, neu EPs o leiaf, yn yr adran hon…ond eithriad bach yr wythnos yma gan roi sylw i sengl ddwbl.
Er hynny, mae perffaith cyfiawnhad dros ddewis sengl newydd Chroma fel ein record o’r wythnos gan ei bod wedi ei rhyddhau ar record…record feinyl…a honno’n record feinyl lliw porffor. Mmmm feinyl.
Mae’r sengl ddwbl allan ers ddydd Gwener diwethaf ar label Popty Ping, a gallwch archebu ar eu gwefan nawr.
Mae Chroma hefyd wedi cyhoeddi fideo ar gyfer ‘Girls Talk’, ac er bod y sengl yn yr iaith fain, mae’n gystal fideo nes bod rhaid i ni roi llwyfan iddo yma ar wefan Y Selar.
Artist: Geraint Rhys
Rhaid i ni roi sylw i Geraint Rhys wythnos yma gan ein bod ni’n falch iawn o’r cyfle i gydweithio â’r artist amryddawn i ddangos fideo ei sengl newydd yma ar wefan Y Selar heddiw.
Dyma’r ail waith i’r Selar gydweithio gyda Geraint yn y fath fodd, yn dilyn dangosiad cyntaf o’i fideo ar gyfer y sengl ‘Ta ta Tata’ yn Ebrill 2017.
Mae Geraint yn adnabyddus fel canwr gwleidyddol, ond wedi symud i gyfeiriad ychydig yn wahanol gyda’i sengl newydd, gan dynnu ar brofiad personol am ysbrydoliaeth ar gyfer ei sengl Gymraeg newydd ‘Dilyn’.
“Mae’r gân wedi ei hysgrifennu wrth i fy nai ifanc gael triniaeth ar ei galon yn gynharach yn y flwyddyn eleni” meddai Geraint Rhys.
“Mae mynd trwy adegau mor ansicr yn gwneud i chi adlewyrchu ar bethau, felly dyma lythyr agored iddo ef ac unrhyw un arall sy’n mynd trwy amseroedd caled i gydio yn y dydd tra bod cyfle.”
Un peth arall…: Cyhoeddi Dyddiad Gwobrau’r Selar
Y newyddion mawr o’r wythnos yma ym mhencadlys cylchgrawn cerddoriaeth gorau Cymru ydy ein bod wedi cyhoeddi dyddiad Gwobrau’r Selar yn y flwyddyn newydd.
15-16 Chwefror ydy’r dyddiadau pwysig ar gyfer eich dyddiaduron, ac Undeb Myfyrwyr Aberystwyth fydd canolbwynt y Gwobrau unwaith eto, er bod sawl newid i’r drefn y tro yma.
Y prif newid ydy bod y Gwobrau’n cael eu cynnal dros ddwy noson yn yr Undeb yn hytrach nag un. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae gig i ddathlu enillydd y wobr ‘Cyfraniad Arbennig’ wedi’i gynnal ar y nos Wener ond y tro yma bydd y gig yn llawer mwy o faint gyda nifer o wobrau eraill yn cael ei cyflwyno.
Ym mhob un o’r tair blynedd diwethaf mae pob un o’r 1100 o docynnau ar gyfer nos Sadwrn Gwobrau’r Selar wedi eu gwerthu, ond y tro hwn rydan ni’n cyfyngu ar y nifer tocynnau i 600 ar gyfer y naill noson a’r llall. Bydd tocynnau penwythnos ar gael am bris gostyngol i bobl sydd eisiau mwynhau’r ddwy noson, a’r cyngor ydy i archebu eich tocyn yn fuan rhag cael eich siomi.
Mwy o fanylion i ddilyn dros y dyddiau nesaf – cadwch olwg ar ein cyfryngau ac ar y digwyddiad Facebook yn arbennig.
Dyma ôl-fflach fach o’r Gwobrau llynedd: