Pump i’r Penwythnos – 17 Awst 2018

Mae miri’r Eisteddfod wedi pasio am flwyddyn arall, ond na phoener, mae digon o bethau cerddorol i chi fwynhau. Dyma’n dewis o bump peth ar gyfer y penwythnos yma

Gig: Meic Stevens, Bwncath – Bandstand, Aberystwyth – Sul, 19 Awst

Does dim llwyth o ddewis o gigs y penwythnos yma i fod yn onest, ond i chi gogs mae cyfle i ddal Gwilym Bowen Rhys yn Tŷ Glyndwr, Caernarfon heno (Gwener 17 Awst).

Ein dewis ni ar gyfer y penwythnos ydy Meic Stevens yn lleoliad bendigedig y Bandstand ar y prom yn Aberystwyth ddydd Sul. Y gig cyntaf o gyfres o dri gan Gigs Cantre’r Gwaelod ydy hwn, a gig yn y prynhawn gyda chefnogaeth gan Bwncath.

Gwerth nodi bod Candelas yn perfformio yn Theatr Clwyd nos Fercher nesaf hefyd.

O ia, a ma Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn digwydd yn y Bannau Brycheiniog, gyda 9 Bach, HMS Morris, Adwaith, Accu a’r hyfryd Huw Stephens ar y lein-yp.

 

Cân: ‘Galw Ddoe yn Ôl’ – Yr Eira

Yr Eira gafodd yr anrhydedd o gloi arlwy wythnos yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd, gan hed-leinio Maes B ar y nos Sadwrn olaf.

Y diwrnod canlynol oedd dyddiad rhyddhau eu sengl newydd sbon, ‘Galw Ddoe yn Ôl’, sydd allan ar label Recordiau I KA Ching.

Roedd slot hed-leinio nos Sadwrn Maes B yn gadarnhad pellach bod Yr Eira wedi selio eu lle fel un o brif fandiau Cymru, yn enwedig ar ôl hed-leinio Gwobrau’r Selar nôl ym mis Chwefror hefyd. Prif slot dau ddigwyddiad cerddorol Cymraeg mwya’r flwyddyn – ddim yn ddrwg!

Mewn gwirionedd maen nhw wedi mynd o nerth i nerth ers rhyddhau eu halbwm cyntaf, Toddi, ym mis Gorffennaf 2017, a ‘Galw Ddoe yn Ôl’ ydy’r ail sengl iddynt rhyddhau dros  yr haf eleni.

Rhyddhawyd fersiwn newydd o gân Diffiniad, ‘Angen Ffrind’ gan Yr Eira yn gynharach yn yr haf i nodi y ffaith mai nhw oedd wedi hawlio prif lot Maes B eleni, ac mai Diffiniad fyddai’n cloi Llwyfan y Maes yn yr Eisteddfod nos Wener – sef prif slot y Steddfod erbyn hyn gellid dadlau.

“Mae’r gân yn chwarae ar syniadau o’r haf ac ieuenctid yng Nghymru,” meddai prif ganwr Yr Eira, Lewys Wyn am y sengl newydd.

“Mewn gwirionedd, does ’na’m llawer o bethau gobeithiol am fod yn berson ifanc yng Nghymru yn yr haf, ond am unwaith dani’n trio meddwl ychydig yn fwy positif am bethau, y meddylfryd fod yna rhywbeth gwell ar y gorwel.

“Mae hafau yng Nghymru yn dueddol o fod yn rhywbeth llwm a diflas, ond mae’r gân yn awgrymu ‘na fydd rhaid galw ddoe yn ôl. Cyd-ddigwyddiad gwych fod yr haul am unwaith wedi ymddangos yma yng Nghymru!”

Dyma fideo ‘Galw Ddoe yn Ôl’ a gyhoeddwyd gan Yr Eira yr un diwrnod â’r sengl:

 

Record: Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc – Mellt

Anodd edrych tu hwnt i ‘Albwm Cymraeg y Flwyddyn’ wrth ddewis ein record o’r wythnos.

Cipiodd albwm cyntaf Mellt y teitl yn ystod wythnos yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd wythnos diwethaf gan guro rhestr fer gref oedd yn cynnwys albyms ardderchog Y Cledrau, Yr Eira, Gai Toms a Mr Phormula.

Mae’r wobr yn cael ei dyfarnu’n flynyddol yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, wrth i banel o feirniaid ddod ynghyd i ddewis enillydd o blith rhestr fer o albyms Cymraeg o unrhyw genre.

Mae Mellt yn dilyn ôl traed Bendith (2017), Sŵnami (2016), Gwenno (2015) a The Gentle Good (2014) fel enillwyr y teitl.

Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc ydy albwm llawn cyntaf Mellt, y grŵp a ddaw’n wreiddiol o Aberystwyth, ond sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers cwpl o flynyddoedd.

Recordiwyd yr albwm yn y brifddinas hefyd, yn Stiwdio Seindon dan oruchwyliaeth y cynhyrchydd Mei Gwynedd, sydd hefyd yn rheoli label JigCal.

Gwnaed y cyhoeddiad ynglŷn â’r albwm buddugol gan Lisa Gwilym mewn seremoni ar Lwyfan y Maes yn yr Eisteddfod ar ddydd Iau 9 Awst.

Wrth ymateb i’r wobr ar eu cyfrif Twitter, meddai Mellt am y newyddion: “Mor hapus dweud bod LP cynta ni wedi ennill wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2018 – wedi cael wythnos anhygoel.”

Rydan ni’n hoffi Mellt yn Y Selar, ac yn falch iawn o’i llwyddiant – da iawn bois!

Dyma fideo’r trac ‘Rebel’ sydd ar yr albwm:

 

Artist: Plyci

Darn bach o newyddion allai fod wedi llithro dan y radar rhywfaint ydy’r ffaith bod Plyci wedi rhyddhau albwm newydd rhyw bythefnos nôl.

Prosiect electroneg Gerallt Ruggiero, a ddaw’n wreiddiol o Ogledd Cymru, ond sydd bellach yn byw’n Nottingham, ydy Plyci. Mae wedi cyhoeddi tipyn o gynnyrch dros y blynyddoedd, yn wreiddiol ar label Peski, ond yn ddiweddarach ar ei liwt ei hun.

Sŵn ydy enw ei albwm diweddaraf ac mae’n cynnwys 12 o draciau. Mae’r nodiadau ar safle Bandcamp Plyci yn disgrifio’r casgliad fel ‘taith sinematig ddiweddaraf Plyci’.

Rydan ni’n hoffi gwaith Plyci yma yn Y Selar, ac yn hoff iawn o’r tiwns newydd. Dyma fideo un ohonyn nhw, sef ‘Gwacter [Rhan 1]’

 

Un peth arall: Map artistiaid Cymraeg Dafydd Elfryn

Hon yn un fach ddiddorol. Bydd nifer ohonoch siŵr o fod yn gyfarwydd â gwaith Dafydd Elfryn sy’n llunio mapiau difyr o Gymru gan ddefnyddio gwahanol themâu ac ystadegau amrywiol.

Yn ddiweddar, cafodd cyfrif Twitter Y Selar ei gopïo mewn i drafodaeth ynglŷn â sut i gael data ar gyfer creu map o artistiaid mwyaf poblogaidd pob sir yng Nghymru ‘yn ôl ei siroedd cartref’. ‘Anodd uffernol cael yr wybodaeth’ oedd ein ateb ni…ond debyg mai ystadegau Spotify fyddai’r gobaith gorau felly holwch y guru Spotify Cymraeg, Yws Gwynedd.

Bach o waith cartref gan Yws, a hei presto, dyma fap ffansi gan Dafydd: