Pump i’r Penwythnos 18 Mai 2018

Gig: Tregaroc – Eden, Huw Stephens, Calfari, Gwilym Bowen Rhys a mwy

Rydan ni’n ymweld â thref leiaf Ceredigion ar gyfer ein dewis o uchafbwyntiau gigs y penwythnos. Mae Tregaroc yn mynd ers rhai blynyddoedd bellach, a’r gig nos yn gwerthu allan ymhell ymlaen llaw pob tro. Wedi dweud hynny, mae digon o berfformiadau rhad ac am ddim mewn lleoliadau amrywiol yn Nhregaron, ac mae digon o hwyl i’w gael yno.

Nos Wener 18 Mai

Nos Sadwrn 19 Mai

  • Tregaroc: Eden, Huw Stephens, Calfari, Gwilym Bowen Rhys, Ail Symudiad, Neil Rosser a’r Band, Mari-Elen Mathias – Amryw o leoliadau yn Nhregaron. Cerddoriaeth yn dechrau am 13:00

 

Cân: ‘Lliw Gwyn’ – Pendevig

Os ddarllenodd chi bump i’r penwythnos wythnos diwethaf, fe fyddwch chi’n gwybod ‘chydig am y swpyrgrŵp newydd gwerinol/ffync/jazz sydd wedi ei sefydlu’n ddiweddar iawn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.

Mae’r aelodau’n cynnwys holl aelodau Calan – sef Angharad Jenkins ar y ffidil, Bethan Rhiannon ar yr acordion a llais, Sam Humphreys ar y gitâr, Alice French ar y delyn, a Patrick Rimes ar y ffidil, pibgorn, chwiban, synths a phiano.

Aelodau eraill Pendevig ydy Gwilym Bowen Rhys (Plu / Bendith), Iestyn Tyne (Patrobas),  Jordan Price Williams (Elfen / Vrï, Aneurin Jones (Vrï), a Jamie Smith ac Iolo Wheelan (Jamie Smith’s Mabon). Yn ychwanegu elfennau ffync a jazz i’r gerddoriaeth mae Greg Sterland ar y sacsoffon, Jake Durham ar y trombôn, Teddy Smith ar y trwmped ac Aeddan Llywelyn ar y bas dwbl a’r bas trydan.

Fe lwythwyd eu cân gyntaf ar-lein yr wythnos yma, sef ‘Lliw Gwyn’ ynghyd â’r fideo yma:

Artist: Los Blancos

Daeth mwy o newyddion cyffrous o’r gorllewin wythnos yma, wrth i ni gael gwybod bod sengl ddwbl  newydd gan Los Blancos ar y ffordd, sef ‘Clarach / Cadi’.

Dyma’r hyn y gallwn ni ddisgwyl o’r sengl ddwbl newydd yn ôl y datganiad:

“Amrwd, barddonol, pync, perthnasol a llon  – dyna Los Blancos. A dyna a glywn ymhob nodyn blêr ar eu sengl dwbwl newydd ‘Clarach / Cadi’.”

Mae’n braf gweld newyddion da am eu cerddoriaeth, gan eu bod wedi profi chydig o anffawd rhwng colli mwyafrif o’u halbwm cyntaf oedd wedi ei recordio oherwydd llifogydd a chyfrifiaduron yn marw, gan orfod ail-recordio popeth mewn un prynhawn.

Dywedir bod ‘Cadi / Clarach’ yn arddangos y “cymhlethdod emosiynol” sydd wrth galon caneuon Los Blancos. Chwareus ac uchel yn aml ond ac ochr dywyll bob tro.

“Mae Cadi wedi ei chyflwyno i gi Owen, ein gitarydd” eglura Dewi, basydd Los Blancos.

“Dylanwad ei gyfansoddi a glywn drwy sain y gitars egniol sydd yn cyferbynnu yn llwyr â thema sensitif y gân o geisio cysur gyda rhywun tra mae popeth arall yn disgyn ar chwâl. Yn ysgafn a hwyliog, mae yna hefyd ddyfnder sydd yn graidd i ethos y band.”

Traeth ar yr arfordir i’r gogledd o Aberystwyth yw cefndir y gân emosiynol ‘Clarach’ am “golli cariad, colli’r haf a cholli diniweidrwydd”

Bydd y sengl ddwbl allan ar 22 Mehefin yn ddigidol ar label Libertino.

Dyma ‘Cadi’:

 

Record: Llinyn Arian – DnA

Delyth ac Angharad Jenkins yw ‘DnA’. Daw’r enw o lythrennau cyntaf eu henwau, ond mae hefyd yn briodol gan “eu bod yn fam a merch gyda cherddoriaeth wedi ei wehyddu trwy eu DNA.”

Llinyn Arian fydd ail albwm DnA,  yn dilyn rhyddhau Adnabod yn 2013. Yn fuan wedyn, roedd trychineb i’r aelwyd gyda marwolaeth tad Angharad, y bardd ac awdur enwog, Nigel Jenkins – a dyna sydd wedi ysbrydoli’r albwm newydd.

“Mae Llinyn Arian yn stori deuluol a draddodir trwy gerddoriaeth” meddai Angharad.

“Mae’n ymwneud â’r berthynas â’n gilydd, a chyda’n hamgylchedd, y dolenni, y cysylltiadau, y cadwyni, neu efallai’r llinynnau sy’n ein rhwymo gyda’n gilydd fel bodau dynol. Mae’n siwrnai trwy ein taith bersonol dros y pedair blynedd diwethaf. Rydym wedi bod trwy lawer gyda’n gilydd, gan gynnwys colli fy nhad, ond hefyd y gorfoledd o groesawu aelod newydd i’r teulu. Er gwaethaf y trai a’r llanw rydym yn gryf, rydym yn greadigol, ac rydym yn ferched. Mae’r albwm hwn yn ddathliad o fywyd a’n creadigrwydd.”

Bydd Llinyn Arianyn cael ei lansio mewn gig yn Mission Gallery, Abertawe ar 7 Mehefin, a bydd ar gael i’w brynu a’i lawr lwytho ar 8 Mehefin.

Dyma fideo ‘Diddanwch Gruffydd ap Cynan’ o’r albwm:

 

Un peth arall..: Adwaith yn ymuno â Gwenno ar daith

Cyhoeddodd Adwaith a Gwenno wythnos yma eu bod ill dau’n mynd ar daith gyda’i gilydd o amgylch Lloegr fis Hydref gyda chwech dyddiad wedi’u cadarnhau.

Mae Gwenno ac Adwaith yn ddau fand/artist sy’n anhygoel o boblogaidd ac ‘da ni’n siŵr y bydd hon yn daith i’w chofio.

Gallwch eu dal ar y dyddiadau yma:

12 Hydref – Thekla, Bryste

13 Hydref – Now Wave Venue, Manceinion

18 Hydref – Islington Assembly Hall, Llundain

19 Hydref – The Loft, Southampton

20 Hydref – Prifysgol Falmouth

21 Hydref – Prifysgol Caerwysg (Exeter)