Pump i’r Penwythnos – 19 Hydref 2018

Gig: Gŵyl Sŵn – Lleoliadau amrywiol, Caerdydd – 17-21/10/18

Mae pob lôn gerddorol yn arwain at Gaerdydd y penwythnos yma, gan bod Gŵyl Sŵn yn meddiannu’r brifddinas.

Dyma ŵyl aml-leoliad fwyaf Cymru wrth gwrs, ac eleni ydy deuddegfed mlynedd yr ŵyl. Mae un newid sylweddol eleni, gan bod yr awenau wedi eu pasio i Glwb Ifor Bach fel trefnwyr, ond mae’r arlwy yr un mor flasus ag arfer.

Roedd y cyfan yn dechrau nos Fercher, gyda gig Gwenno yn y Tramshed. Mae perfformwyr heno (Gwener) yn cynnwys enwau mawr The Go! Team, Gaz Coombes, Boy Azooga a Bo Ningen, yn ogystal â ffefrynnau Y Selar,  Mellt.

Ymysg enwau dydd Sadwrn mae Breichiau Hir, Carw, Lewys, Cpt Smith, HMS Morris, Griff Lynch, Mammoth Weed Wizard Bastard, Y Sybs a Zabrinsky. Gormod o enwau gwych i’w henwi i gyd, ond mae’r lein-yp llawn ar wefan Sŵn.

Ar ôl agor Sŵn, a chwarae yn Islington neithiwr, mae dau gyfle arall i weld Gwenno penwythnos yma – y cyntaf yn The Loft yn Southampton heno, ac yna nos fory ym Mhrifysgol Falmouth gydag Adwaith yn cefnogi.

Tipyn o gigs eraill dros y penwythnos, gan gynnwys Gorwelion yn Sain Ffagan bnawn Sadwrn a Sul gyda Danielle Lewis a Kizzy Crawford ymysg y perfformwyr.

Mae Gwilym Bowen Rhys yn chwarae yng nghaffi bendigedig Cletwr nos Sadwrn, ac mae gig gwych yr olwg yn Pontio, Bangor gyda Candelas, Fleur de Lys a Ffracas.

Cofiwch am y rhestr lawn o gigs ar galendr gigs gwefan Y Selar.

 

Cân: ‘Y Teimlad’ – Pys Melyn

Darganfyddiad yr wythnos heb os ydy fersiwn Pys Melyn o un o wir glasuron yr iaith Gymraeg.

Cyfansoddwyd ‘Y Teimlad’ yn wreiddiol gan Datblygu, ac fe’i gwnaed yn enwog gan Gruff Rhys a’r Super Furry Animals ar eu halbwm Cymraeg, Mwng.

Mae’r ddwy fersiwn uchod yn go wahanol, ac mae fersiwn Pys Melyn yn cynnig rhywbeth bach amgen eto gyda’r llais diog a synau cefndirol breuddwydiol.

Da hogia, da iawn.

 

Record: Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc – Mellt

Yn gynharach yn yr wythnos cyhoeddwyd rhestr fer ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni.

Er mai dim ond un record hir Gymraeg sydd wedi cyrraedd y rhestr fer o 12, roedden ni’n hynod o falch i glywed bod albwm cyntaf Mellt, Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc, wedi ei gynnwys.

Gan gipio teitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd fis Awst, mae’r record yn prysur sefydlu ei hun fel clasur fodern.

Mae caneuon fel ‘Planhigion Gwyllt’, ‘Haf Olaf’ a’r anthem ‘Rebel’ yn llawn o egni amrwd nodweddiadol setiau byw Mellt, ynghyd ag angst ieuenctid cyfarwydd geiriau eu caneuon.

Clamp o albwm a cawn weld beth fydd barn beirniaid y Wobr Gerddoriaeth Gymreig pan gyhoeddir yr enillydd ar 7 Tachwedd.

Dyma fideo ‘Haf Olaf’ gyda Garmon Pydew a gynhyrchwyd gan Ochr 1:

 

Artist: Tant

Grŵp o bump o ferched o Ogledd Cymru ydy Tant, ac maen nhw’n perfformio amrywiaeth o gerddoriaeth gwerinol sy’n cynnwys cyfansoddiadau gwreiddiol a chlasuron gwerin Cymreig.

Wythnos diwethaf fe wnaethon nhw ryddhau cwpl o draciau ar Recordiau Sain, sef ‘I Ni’ a ‘Bywyd Rhy Fyr’.

Pwy ydy Tant yn union? Wel, mae Angharad (telyn), Modlen (llais a gitâr) ac Elliw (llais a gitâr) yn ddisgyblion yn Ysgol Dyffryn Conwy yn Llanrwst, Non (telyn a llais) yn Ysgol Y Creuddyn ac mae Siwan (llais a cajon) yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Llangefni.

Fe wnaethon nhw ffurfio fel grŵp yn dilyn cwrs ‘Gwerin Gwallgo’ yng nghwersyll Glan Llyn yn 2016, ac maen nhw wedi bod yn perfformio’n weddol rheolaidd ers hynny. Fe wnaethon nhw greu cryn argraff ar  Y Selar yn benodol wrth berfformio ar lwyfan y maes yn Steddfod yr Urdd, Llanelwedd eleni, ac rydan ni wedi bod yn cadw golwg arnyn nhw ers hynny.

Newyddion da felly bod Sain wedi penderfynu rhyddhau’r traciau newydd ganddyn nhw, ac rydan ni’n edrych ymlaen yn fawr i weld be ddaw nesaf gan y pumawd!

https://youtu.be/x45pXdusV4A

 

Un peth arall…: Agor Cronfa Lansio Gorwelion

Cyfle ardderchog i artistiaid Cymraeg a Chymreig gael eu bachau ar ychydig bach o dosh, gan bod cynllun Gorwelion y BBC a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi agor ei gronfa lansio ar gyfer eleni.

Mae’r gronfa yn agored i unrhyw gerddorion yng Nghymru, ac yn gwahodd ceisiadau am gyllid hyd at £2000. Nod y gronfa ydy helpu cerddorion a bandiau talentog yng Nghymru i ddatblygu eu gyrfa, ac fel yr awgrymir gan yr enw mae’r gronfa ar gyfer artistiaid sy’n dechrau ar eu gyrfa’n arbennig.

Mae modd gwneud cais am amrywiaeth o bethau, ond maent yn chwilio’n benodol am bethau fydd yn mynd â gyrfa’r artistiaid i’r ‘lefel nesaf’.

Efallai bod band wedi cael cyfle i deithio, ond wedi methu fforddio’r costau, neu wedi cael adborth arbennig o dda i demo, ac eisiau recordio trac yn broffesiynol. Ond mae hefyd cyfle i wneud cais am arian i brynu offer newydd sy’n allweddol i ddatblygu gyrfa’r artist, er enghraifft fe gafodd Beth Celyn biano newydd trwy’r cynllun llynedd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydy 16 Tachwedd, a gallwch ffeindio’r ffurflen gais ar adran Gorwelion o wefan y BBC. Ewch amdani da chi!

Roedd Uwch Olygydd hoff (ahem) Y Selar ar banel dyfarnu’r gronfa llynedd, a dyma rai top tips ganddo ar y pryd ynglŷn â sut i fynd ati i lunio cais:

Owain o’r Selar efo tips ar gyfer artistiaid newydd

? Check out our Launchpad surgery vids with:Gwyliwch cyngor gan banel Cronfa Lansio: Owain from Selar with tips for new musiciansOwain o’r Selar efo tips ar gyfer artistiaid newydd#launchpad17 #lansio17 BBC Cymru Wales Arts Council of Wales, The Social, London, Edboogie, Lisa Matthews ?

Posted by Horizons / Gorwelion on Tuesday, 5 December 2017