Gig: Mellt, Brwydr y Bandiau – Bandstand Aberystwyth
Mae rhagolygon y tywydd yn edrych yn dda ar gyfer y penwythnos, ac rydan ni’n falch iawn o weld yr haul yma yn HQ Y Selar. Yn enwedig felly gan ein bod ni’n llwyfannu gig yn lleoliad hynod o hafaidd y Bandstand ar y Prom yn Aberystwyth heno (18:00) gyda Mari Mathias a Miskin yn cystadlu yn rhagbrawf Brwydr y Bandiau Radio Cymru / Maes B, cyn i Mellt gloi y gig.
A, gan ei bod hin ddyddiad rhyddhau albwm cyntaf Mellt, Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc, heddiw, fe fyddan nhw’n cynnal ail gig y noson, a pharti lansio nôl adref yn Aber yn y Llew Du yn hwyrach yn y noson (22:00) gyda Pasta Hull yn cefnogi.
Mae digon o gigs eraill heno hefyd:
Nos Wener 20 Ebrill
Chroma, Queen Z, Salt Bath – Clwb Ifor Bach, Caerdydd
Mellt, Brwydr y Bandiau – Bandstand Aberystwyth 6p.m
Mellt, Pasta Hull – Yr Hen Lew Du, Aberystwyth 10p.m
Tacla – Dylanwad, Dolgellau 7:30p.m
Tagaradr – Tŷ Glyndwr, Caernarfon 21:00
Mr Phormula + llawer mwy – Tramashed, Caerdydd
Mae dydd Sadwrn yn Ddydd Siopau Recordiau (Record Store Day) ac mae digon o stwff yn digwydd i nodi hynny…
Dydd/Nos Sadwrn 21 Ebrill
Diwrnod y Recordiau: Ewch allan i’ch siop record lleol a chefnogi, mae digwyddiad yn Kellys Records, Caerdydd am 9:00y.b hefo’r canlynol yn DJ’io: Gruff Rhys, Ani Glass, Charlotte Church & Esther, Boy Azooga, Sarah Sweeney a Don Leisure fory – chwip o lein-yp DJ’s!
Ail Symudiad, Welsh Whisperer – ‘Y Shed’, Mwnt 19:30
Mellt, Kizzy Crawford, Papur Wal a mwy – XPRESSTIVAL, Buffalo Bar, Caerdydd
Cân: I Fight Lions – Calon Dan Glo
Cyhoeddodd Recordiau Côsh a Recordiau Syrcas wythnos diwethaf fanylion albwm a sengl newydd y grŵp I Fight Lions. Mae eu sengl newydd, ‘Calon Dan Glo’ allan heddiw yn swyddogol ynghyd â fideo gan Ochr 1/HANSH i gydfynd.
Band cyffrous o’r Gogledd Orllewin ydy I Fight Lions, sydd erbyn hyn o gwmpas ers sawl blwyddyn. Hywel Pitts (y comedïwr anhygoel), Daniel Owen (nid y llenor), Rhys Evans (y drymar) a Dan Thomas (“hanner aelod”) yw’r aelodau.
Mae I Fight Lions wedi rhyddhau dwy EP ac un LP ers ffurfio, oll wedi eu cynhyrchu a’u hariannu gan y band eu hunain. Rhyddhawyd ei halbwm cyntaf, sy’n rhannu enw’r grŵp, reit nôl yn Rhagfyr 2013 felly mae’n hen bryd gweld cynnyrch newydd ganddynt.
Dyma ni’r fideo ar gyfer y sengl newydd:
Record: ‘Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc’ – Mellt
Mae albwm cyntaf Mellt allan heddiw ar label JigCal.
Bydd y rhan fwyaf yn gwybod mai Mellt ydy Glyn Rhys-James (llais a gitâr), Ellis Walker (bas a llais) a Jacob Hodges (drymiau). Daw’r tri yn wreiddiol o Aberystwyth, ond maent bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc ydy enw’r albwm newydd, ac fe gynhaliwyd lansiad cyntaf neithiwr yng Nghlwb Ifor Bach gyda Los Blancos ag Papur Wal. Ond, mae ail barti lansio heno yn Aberystwyth (wele uchod).
Rhyddhawyd yr albwm ar label Mei Gwynedd (Big Leaves, Sibrydion, a Mei sydd hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu’r albwm.
Rhyddhawyd ‘Rebel’ oddi ar yr albwm, ar ddyddiad pen-blwydd Glyn yn 21 mlwydd oed, sef 12 Mawrth, cân sydd wedi profi’n ofnadwy o boblogaidd ers rhyddhau.
Mae’n benwythnos prysur i’r band, gyda chyfle arall i’w dal yng Nghaerdydd nos Sadwrn yn y Buffalo Bar.
Dyma fideo ‘Rebel’:
Artist: Diffiniad
Band sydd wedi cael tipyn o sylw yr wythnos yma yw Diffiniad, y band sydd â’r anrhydedd o gloi llwyfan perfformio Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd ar y nos Wener eleni.
Band ddaw yn wreiddiol o’r Wyddgrug yw Diffiniad, ond sy’n cael eu cysylltu’n agos â Chaerdydd hefyd.
Dywed y datganiad gan yr Eisteddfod:
“Cawn gamu nôl i’r 90au mewn steil eleni, wrth i un o fandiau mwyaf poblogaidd y ddegawd ail-ffurfio ar gyfer noson fawr Llwyfan y Maes BBC Radio Cymru – Diffiniad. Yn un o fandiau parti mawr y sîn, mae’u caneuon yn dal i apelio at bobl o bob oed, ac mae’u caneuon eisoes wedi’u hychwanegu at wasanaethau fel Spotify ac iTunes.
“Dyma’r grŵp a anfarwolodd glasur Injaroc, Calon, ac a ddaeth â gwên i wynebau cenhedlaeth gyfan o Gymry gyda’u hanthemau cofiadwy wrth iddyn nhw fynd i frig y sîn fel un o fandiau mawr y cyfnod.
“Ffurfiwyd Diffiniad pan oedd y sîn ‘House’ ar ei anterth, gyda’r ffaith eu bod mor agos at glybiau enwog Cream yn Lerpwl a’r Hacienda ym Manceinion wedi dylanwadu’n drwm ar eu steil o gerddoriaeth.”
Penderfynodd y band roi’r ffidil yn y to ar ôl eu gig olaf ym Maes B yn 2001. Dyma eu cân fwyaf adnabyddus bydd miloedd yn bloeddio canu ar y maes yn y Bae fis Awst mae’n siŵr:
Un peth arall..: Fideo a sengl newydd gan Yr Eira
Bydd Yr Eira yn rhyddhau sengl newydd sbon ar label I KA CHING wythnos nesaf, ar ddydd Gwener 27 Ebrill.
Law yn llaw a’r sengl bydd fideo yn cael ei ryddhau ar sianel Facebook Hansh/Ochr 1.
‘Llyncu Dŵr’ ydy enw’r sengl newydd, a hon fydd y sengl gyntaf i ymddangos ers iddynt ryddhau eu halbwm cyntaf, sef Toddi, nôl ym mis Gorffennaf 2017.
Daeth y newyddion gan PYST:
“Mae ganddynt haf prysur o gigio o’u blaenau, a bydd y sengl newydd yn sicr o blesio eu ffans ledled Cymru a thu hwnt.”
Edrychwn ymlaen i gael clywed mwy ganddynt, dyma un o’i tiwns o’r albwm ardderchog, ‘Dros y Bont’: