Pump i’r Penwythnos 20 Gorffennaf 2018

Gig: Sesiwn Fawr Dolgellau – 20-22/07/18

Roedd penwythnos diwethaf yn un oedd â llwyth o ddewis o wyliau cerddorol yma yng Nghymru. Y Wythnos yn ddiweddarach, mae’r ŵyl Gymreig enwocaf ohonyn nhw i gyd yn digwydd yn Nolgellau.

Does dim amheuaeth bod y Sesiwn yn tyfu’n raddol i’w statws a sgêl blaenorol, gyda llwyth o lwyfannau a gweithgareddau amrywiol yn digwydd yn ystod y penwythnos eleni.

Ymysg yr artistiaid Cymraeg sy’n perfformio yno mae Ail Symudiad, Geraint Lovgreen a’r Enw Da. Patrobas, Omaloma, Gwyneth Glyn, Mr Phormula, Siddi, Bwncath, Gwilym Bowen Rhys, Casset, Y Cledrau, Gwilym a llawer iawn mwy. Yr uchafbwynt mae’n debyg fydd set Anweledig – eu hail gig cymbac yn dilyn hwnnw yn Car Gwyllt wythnos diwethaf.

Mae ‘na dipyn o gig yng Nghastell Aberteifi nos Sadwrn hefyd, wrth i Huw Stephens gyflwyno noson yng nghwmni Gwenno, Omaloma a Serol Serol.

Mae’r sioe frenhinol yn dechrau Llanelwedd penwythnos yma hefyd, ac yn ogystal  a’r Welsh Whisperer yn perfformio ym mhob twll a chornel o ardal Llanfair-ym-Muallt dros y dyddiau nesaf, bydd modd i chi ddal Candelas mewn gig yn fferm Penmaenau nos Sadwrn.

Ond, os ydach chi isho rhywbeth bach llai gwyllt, yna beth am noson fach hamddenol gyda Tegid Rhys yn y Iorwerth Arms, Bryngwran.

Cân: Cyrff – HMS Morris

HMS ydy un o’n hoff grwpiau ni yma yn Selar HQ, a heb os maen nhw’n un o grwpiau mwyaf dyfeisgar Cymru ar hyn o bryd.

Datgelwyd yn ddiweddar bod y triawd wedi ymuno â label Bubblewrap, a bod albwm i’w ryddhau ganddyn nhw ym mis Medi eleni.

Fel tamaid i aros pryd, rhyddhawyd sengl ddwbl ddiweddaraf HMS Morris wythnos diwethaf. Mae’r hen HMS yn hoff o’u senglau dwbl mae’n ymddangos – y sengl ddwbl ‘Arth / Morbid Mind’ ydy’r cynnyrch diweddaraf i’w ryddhau gan y grŵp nôl ym mis Ebrill.

‘Phenomenal Impossible’ a ‘Cyrff’ ydy’r ddau drac diweddaraf i’w rhyddhau ddydd Gwener diwethaf, 13 Gorffennaf.

Dyma sbin o ‘Cyrff’ i chi:

 

Record: Dechrau Nghân – Siddi

Bum mlynedd ar ôl eu record ddiwethaf, mae Siddi yn ôl gyda chryno albwm o’r enw Dechrau Nghân, sydd allan ar label I Ka Ching heddiw.

Bydd nifer cyfyngedig o gopïau caled ar gael yn y siopau, a chyfle i brynu’n ddigidol o’r gwefannau cerddoriaeth arferol.

Prosiect gwerin-amgen y brawd a’r chwaer Osian a Branwen Williams o Lanuwchllyn ydy Siddi – mae’r ddau hefyd yn aelodau amlwg o fandiau Candelas, Cowbois Rhos Botwnnog ac Alys Williams… a chyn hynny wrth gwrs, Pala! Ond, yng nghanol prysurdeb y bandiau eraill, mae’r ddau yn mwynhau’r rhyddid i arbrofi gyda’r genre gwerin o dan yr enw Siddi.

Dyma eu cynnyrch cyntaf ers rhyddhau eu halbwm cyntaf, Un Tro, yn 2013 er bod y trac teitl ar gyfer yr albwm newydd wedi ymddangos ar gasgliad aml-gyfrannog I KA CHING 5 a ryddhawyd i ddathlu pen-blwydd label I KA CHING yn bump oed yn 2016.

Mae ‘Dechrau `Nghân’ yn gasgliad o ganeuon sy’n cwmpasu adegau gwahanol ym mywydau’r ddau dros y pedair blynedd diwethaf, o’r llon i’r lleddf.

“Mae’r albwm yn ‘llyfr sgrap’ o wahanol deimladau a syniadau,” meddai Branwen am y casgliad newydd.

Recordiwyd a chynhyrchwyd yr albwm gan Siddi yn Stiwdio Drwm, Llanllyfni sy’n cael ei redeg gan Osian a’i gyd-aelod Candelas, Ifan Jones. Fe gymysgwyd yr albwm gan Aled Hughes.

Dyma deitl-drac yr albwm, ‘Dechrau Nghân’ #tiiiiwn

 

Artist: Rifleros

Dyma chi fand bach da sydd wedi ail-ymddangos dros yr wythnosau diwethaf.

Band pedwar aelod sydd wedi ffurfio ers cwpl o flynyddoedd yng Nghaerdydd. Rhydian, Gruff, Garmon a Sion ydy’r aelodau – bydd Rhydian yn gyfarwydd fel ffryntman Creision Hud / Hud rai blynyddoedd yn ôl, a bydd rhai yn adnabod Sion fel drymiwr Violas.

Fe wnaethon nhw ryddhau eu hunig albwm, Am Beth Wyt Ti’n Aros, nôl yn 2016.

Maen nhw’n disgrifio eu cerddoriaeth fel ‘roc blŵs’, ac fe wnaeth cynrychiolaeth Y Selar oedd yng Ngŵyl Nôl a Mla’n fwynhau eu set yn Llangrannog.

Wrth sgwrsio â’r band yn hwyrach yn y dydd, fe wnaethon ni ddysgu eu bod nhw wedi bod yn recordio gyda Mei Gwynedd yn Seindon, a bod sengl allan ‘rhywdro dros yr wythnosau nesaf’.

Wel, fe ddaeth y newyddion yn ddigon disymwth bod y sengl newydd yn dod allan heddiw, 20 Gorffennaf.

‘Gwneud Dim Byd’ ydy enw’r trac, ac mae hi allan ar JigCal rŵan.

Dyma diwn o albwm cyntaf y grŵp, ‘Yr Ochr Arall’, o stiwdio Ochr 1 yn 2016:

 

Un peth arall: Dangosiad cyntaf o fideo newydd Gwilym

Rhag ofn i chi golli’r newyddion bore ma, cafodd fideo newydd y grŵp Gwilym ei premiere yma ar wefan Y Selar heddiw.

Fideo wedi’i gynhyrchu’n annibynnol gan y band ar gyfer y gân ‘Fyny Ac yn Ôl’ yn hwn ac mae o’n dangos be sy’n bosib ei greu gyda dim arian o gwbl y dyddiau yma!

‘Fyny ac yn Ôl’ ydy pedwaredd sengl Gwilym a ryddhawyd bythefnos yn ôl, ac mae’r fideo hefyd yn nodi dyddiad rhyddhau albwm cyntaf y grŵp ifanc o’r gogledd – Sugno Gola – sydd allan ar label Côsh heddiw!

Mwynhewch…