Pump i’r Penwythnos – 21 Medi 2018

Gig: Dathlu Nant Gwytheyrn yn 40: Band Pres Llareggub, Alys Williams, Geraint Løvgreen a’r Enw Da, Patrobas, Gwilym Bowen Rhys, Gethin a Glesni – 22/09/18

Llwyth o gigs yn digwydd dros y penwythnos unwaith eto chwarae teg.

Mae HMS Morris wedi dechrau cyfres o gigs i hyrwyddo eu halbwm newydd, ond y eu gig yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd heno (Gwener) ydy gig lansio swyddogol Inspirational Talks, gyda Smudges a Ya Yonder yn Cefnogi. Mae ail gyfle i weld HMS Morris a Smudges dros y penwythnos, a hynny yn y Parrot yng Nghaerfyrddin nos Sadwrn, gydag Alex Dingley yn cefnogi hefyd.

Artistiaid eraill prysur penwythnos yma ydy Gethin Fôn a Glesni – maen nhw’n gigio yng Nghlwb Rygbi Pwllheli nos Wener a hefyd yn Nant Gwrtheyrn nos Sadwrn (mwy am hynny isod).

Cyfle i weld yr anhygoel Breichiau Hir yng Nghaerdydd nos Wener wrth iddyn nhw berfformio yn Tiny Rebel ar Stryd y Fuwch Goch.

Beryg na fydd hi’n dywydd barbeciw dros y penwythnos, ond mae parti gardd yng Ngwesty Nanhoron, Nefyn ddydd Sadwrn gyda Bryn Fôn yn perfformio yn ystod y dydd, ynghyd â Bwncath, Tegid Rhys ac Alaw Llewelyn.

Mae dydd Sadwrn yn ddiwrnod prysur yn Llŷn, a gig arall nid nepell o Nefyn ydy’n prif argymhelliad ni y penwythnos yma, sef gŵyl i ddathlu pen-blwydd Nant Gwrtheyrn yn ddeugain oed. Ac mae clamp o lein-yp ganddyn nhw sy’n cynnwys Band Pres Llareggub, Alys Williams, Geraint Løvgreen a’r Enw Da, Patrobas, Gwilym Bowen Rhys a Gethin a Glesni.

Mae gigs eraill nos Sadwrn yn cynnwys Y Cyffro yn Neuadd Garndolbenmaen, ynghyd ag Ail Symudiad, Catsgam a Disgo Aled Wyn yn Neuadd Bronwydd ger Caerfyrddin.

Ac os ydach chi yn y brifddinas ac yn ffansio rhywbeth bach gwahanol ddydd Sul, wel beth am daro draw i Bencampwriaeth Bî-bocsio Cymru yn y Gwdihŵ.

 

 

Cân: ‘Tân’ – Twinfield

Rydan ni’n hoff iawn o synau electroneg Twinfield yma yn Selar HQ, felly sypreis fach neis oedd gweld tiwn newydd yn ymddangos ganddo ar ei safle Souncloud ganol yr wythnos.

‘Tân’ ydy enw’r gân newydd, ac mae’n nodweddiadol o sŵn electro-pop bachof a chyfarwydd Twinfield.

Cafwyd cyfle cyntaf i glywed sengl ddiweddaraf Twinfield ar bodlediad diweddaraf ‘Dim Byd Gwell i Wneud’ gan Recordiau Neb – gallwch wrando ar y podlediad hanner awr o hyd ar wefan Recordiau Neb nawr. Mae eitem ‘Therapi Twinfield’ yn arbennig, yn werth eich amser.

Mae’r diwn newydd gan Twinfield hefyd yn haeddu pedair munud a 26 eiliad o’ch amser…

 

 

Record: Inspirational Talks – HMS Morris

Does dim rhaid edrych ymhell wrth ddewis ei record ar gyfer yr wythnos hon.

Cyhoeddwyd yn gynharach yn yr haf y byddai ail albwm HMS Morris yn cael ei ryddhau ar label Recordiau Bubblewrap ym mis Medi, ac rydan ni wedi bod ar bigau’r drain ers hynny’n disgwyl am gampwaith diweddaraf y triawd talentog.

Do, fe gafwyd tameidiau blasus dros ben i aros pryd ar ffurf y senglau ‘Arth’, ‘Morbid Mind’, ‘Phenomenal Impossible’, ‘Cyrff’, ‘Mother’ a ‘Corff’. Ond, o’r diwedd mae’r caneuon newydd i gyd ar gael fel cyfanwaith ar record hir 13 trac. Ac os nad ydy hynny’n ddigon i ddod â dŵr i’r dannedd, mae’r record hir 13 trac ar gael mewn ffurf feinyl…a hwnnw’n feinyl lliw. Mmmm, feinyl lliw… (dychmygwch gif Homer yn glafoerio fan hyn)

Nid cyfrinach ydy hoffter Y Selar o fformat feinyl, ac mae Bubblewrap yn adnabyddus iawn eu recordiau feinyl hynod o brydferth –  gweler albyms Y Bardd Anfarwol a Ruins/Adfeilion gan The Gentle Good.

Ac mae fersiwn feinylSky Blue Vinyl with Black Splatter” Inspirational Talks yn edrych yr un mor brydferth.

Artist: Ani Glass

Mae Recordiau Neb eisoes wedi cael rhywfaint o sylw Pump i’r Penwythnos diolch i sengl newydd Twinfield.

Wel, mae un arall o stabal Neb wedi cyhoeddi manylion ei sengl newydd yr wythnos yma, sef yr ardderchog Ani Glass. Bydd ‘Peirianwaith Perffaith’ allan ar Recordiau Neb ar 26 Hydref.

Rhyddhawyd EP cyntaf Ani, Ffrwydrad Tawel, nôl ym mis Ebrill 2017 gyda gwe-ddarllediad gwych ohoni’n perfformio’r caneuon yn nodi’r lansiad. Yn fuan wedyn rhyddhawyd yr EP eto mewn ffurf amgen, yn cynnwys fersiynau o’r caneuon wedi’i hail-gymysgu gan artistiaid eraill ym mis Awst y flwyddyn honno.

Roedd Y Selar ar ddeall bod Ani yn gweithio ar ei halbwm cyntaf, sydd eto i ddod i’r golwg, ond gobeithio bod y sengl newydd yn arwydd bod record hir ar y gorwel gan yr artist electronig o Gaerdydd.

Fe fydd Ani yn perfformio yng Ngŵyl Pop Montréal ar 28 a 29 Medi fel rhan o ddirprwyaeth Gŵyl Focus Wales yn yr ŵyl honno.

Dyma ‘Peirianwaith Perffaith’:

 

Un peth arall…: Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn galw am reithgor

Ydach chi awydd chwarae rhan yn y broses o ddewis rhestr fer ac enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig? Wel os felly, dyma gyfle gwych i chi gan bod trefnwyr y Wobr yn chwilio am aelodau newydd i fod ar y rheithgor.

Mae bod yn aelod o’r rheithgor yn gyfle gwych i chi gael dweud eich dweud ynglŷn â pha recordiau hir ddylai gael eu hystyried ar gyfer y wobr. Felly ewch amdani, cysylltwch nawr i gynnig eich enw –  info@welshmusicprize.com

Esgus perffaith i chwarae ‘Y Pysgotwr’ gan The Gentle Good, sef fersiwn Gymraeg o ‘The Fisherman’ oedd ar albwm fuddugol y Wobr llynedd, sef Ruins / Adfeilion.