Pump i’r Penwythnos – 21 Rhagfyr 2018

A hithau’n benwythnos cyn y Nadolig, rydan ni wedi mynd am themâu ychydig yn llai cyfredol na’r arfer ar gyfer ein Pump i’r Penwythnos yr wythnos hon, gan ganolbwyntio’n hytrach ar ysbryd yr ŵyl. Ho, ho, ho.

Gig: Gruff Rhys – Pizza Tipi, Aberteifi – 21/12/18

Mae llwyth o gigs wedi digwydd yn ystod mis Rhagfyr, a thipyn mwy o bartïon i ddod rhwng dydd Dolig a nos Calan. Er hynny, mae pethau’n arafu rhywfaint penwythnos yma, efallai wrth i bawb ganolbwyntio ar eu siopa Dolig funud olaf!

Un enw sydd yn amlwg iawn dros y penwythnos yma ydy Cabarela. Dyma sioe Nadolig unigryw y grŵp lleisiol Sorela wrth gwrs, gyda gwesteion arbennig yn ymddangos ym mhob lleoliad. Mae’r sioe yn ymweld â chanolfan Glastir yn Llanrwst heno, cyn symud i Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth nos Sul.

Mae noson gabaret yng nghanolfan Pontio ym Mangor heno hefyd, gyda’r grŵp o’r Alban, Fara, yn teithio i Wynedd i berfformio gyda Plu.

Bydd cyfle i ddal Gwilym yn perfformio yn Neuadd y Farchnad heno, gan gefnogi Moniars…y leinyp yna’r ffordd rong rownd yn ein barn ni! Hefyd heno mae Gogs yn chwarae ym Mar Peaky Blinders yn Lerpwl.

Ond ein prif ddewis ni ar gyfer y penwythnos ydy ymweliad Gruff Rhys â Pizza Tipi yn Aberteifi heno. Mae Gruff wedi bod yn teithio’r byd yn perfformio caneuon ei albwm diweddaraf Babelsberg dros y misoedd diwethaf a dyma fydd ei gig olaf o’r hyn sydd wedi bod yn flwyddyn brysur!

Mae cwpl o bartïon Nadolig nos Iau nesaf fydd wedi digwydd cyn ein Pump i’r Penwythnos nesaf, y dylen ni eu crybwyll rŵan! Un yn y gogs, sef gig Celt, Maffia Mr Huws a Dafydd Hedd yn Neuadd Ogwen, Bethesda, a’r llall yn y De Orllewin wrth i  Fflur Dafydd a’r Barf wneud gig prin yn y Parot yng Nghaerfyrddin gyda Rhys Dafis ac Eädyth yn cefnogi.

 

Cân: ‘Fy Nghariad Gwyn’ – Yws Gwynedd

Ein hoff gân Nadolig Gymraeg? Efallai. 3 uchaf? Yn bendant. Mae’n debyg mai’r hyn a seliodd cân Nadolig Yws Gwynedd fel un o’n ffefrynnau oedd ei berfformiad ad hoc ohoni yn ystod sesiwn Seiat yn y Selar i lansio cyfrol Llyfr Y Selar fis Rhagfyr llynedd.

Chwara teg i Yws, roedd o’n barod i demtio ffawd gan bod darogan o eira ar y ffordd y noson honno, ag yntau angen teithio nôl o’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth i’r gogs.

Mae modd i chi wylio Seiat yn y Selar yn llawn ar YouTube Y Lolfa, ac mae fersiwn lawn y gân ar-lein hefyd. Ond, yn ein barn ni, mae hon yn swnio orau fel fersiwn acwstig a dyma fideo o Yws yn ei pherfformio’n acwstig fel Sesiwn Sŵn nôl yn 2014:

 

Record: Pasta Hull Presents Tri Hwr Doeth

Does ‘na ddim llawer o albyms neu gasgliadau Nadolig Cymraeg gwaetha’r modd, oni bai eich bod chi’n cyfri rhywbeth gan Alistair James ella…naaa.

Roedd temtasiwn i ddewis record fer Cerdyn Nadolig gan Colorama a ryddhawyd yn 2010 – mae’r thema’n amlwg, a’r gwaith celf a chlawr y CD sydd ar ffurf cerdyn Nadolig yn ardderchog (chewch chi ddim pecynnu fel hyn ar Spotify bobl!) Ond sengl oedd hon yn y bôn, felly efallai ddim cweit digon o gyfiawnhad.

Ein dewis o record yr wythnos hon felly dy albwm 3 Hwr Doeth, sy’n briodol nid yn unig oherwydd y chwarae ar y geiriau Nadoligaidd yn enw’r band, ond hefyd gan bod yr albwm wedi’i ryddhau’n ddigidol ar safle Bandcamp Pasta Hull ar ddydd Nadolig llynedd!

Er bod blwyddyn gron ers rhyddhau’r albwm, mae ‘na ‘chydig o naratif yn datblygu o gwmpas Tri Hwr Doeth ar hyn o bryd, gydag erthygl ym Mhabell Roc cylchgrawn Golwg wythnos yma, gig cofiadwy yng Nghlwb Ifor Bach fis diwethaf, ac y fideo ‘Beirdd/Beats’ sydd wedi ei gyhoeddi gan Hansh wythnos yma. Dyma ‘Taith i’r Lleuad’ gan Yr Arch Hwch:

Yr Arch Hwch – Taith i’r Lleuad

BEIRDD/BEATS: TAITH I’R LLEUADYr Arch Hwch, aelod o Tri Hŵr Doeth, yn hwrio am likes… 👍⚠️ Rhybudd: rhegi!

Posted by Hansh on Tuesday, 18 December 2018

Ond, gan nad ydy ‘Taith i’r Lleuad’ ar yr albwm, dyma dybyl wammy o 3 Hwr Doeth i chi a’r trac ardderchog ‘Cob’:

 

Artist:  Plant Duw

Grŵp sy’n fyw iawn yn ein calonnau, er nad ydyn nhw mor fywiog ag oedden nhw’n arfer bod, ydy Plant Duw.

Wedi dweud hynny, doedd 2018 ddim yn flwyddyn hollol hesb i band gwallgof ond gwych o Fangor gan eu bod nhw wedi ymddangos ar brydiau yn ystod y flwyddyn. Un ffaith allech chi fod wedi colli yn ystod holl gyffro gwyliau cerddorol yr haf oedd iddyn nhw ryddhau sengl o’r enw ‘Heddiw’ nôl ar ddechrau mis Awst. Recordiwyd y gân gyda’r cynhyrchydd Sam Durrant yn Stiwdio Un, Rachub ac mae’r gitarydd, Rhys Martin, yn rhoi ychydig o hanes y trac ar flog y band os ydach chi am wybod mwy am hon.

Fe wnaethon nhw hefyd berfformio cyfres o gigs yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd, gan gynnwys perfformiad gwych yn gigs Cymdeithas yr Iaith yng Nghlwb Ifor Bach.

Ac efallai rhywbeth fyddai wedi mynd hyd yn oed yn fwy o dan y radar oedd eu bod nhw wedi rhyddhau eu fersiwn unigryw o’r gân draddodiadol ‘Migldi Magldi’ reit nôl ym mis Chwefror. Fideo ardderchog sydd wedi’i wylio gan ychydig dros 200 o bobl ar Sianel YouTube Plant Duw i chi gael gweld!

Ta waeth am yr hyn maen nhw wedi gwneud eleni, y peth pwysig i’w drafod ydy ei bod nhw hefyd wedi dablo gyda chaneuon Nadoligaidd yn y gorffennol, gan gynnwys un o’n hoff ganeuon Nadoligaidd ni, ‘Nadolig Llawen’ a ryddhawyd yn 2011 gyda ‘Pwy Sy’n Dŵad Dros y Bryn’ fel B Side.

 

Un peth arall…: Nadolig Alcoholig

Mae ‘na ddigonedd o diwns Nadolig bach neis neis, a nifer o rai eraill sy’n pregethu am wir ystyr y Nadolig a phethau felly. Ond chwa o awyr iach yng nghanol yr holl sentimentaliaeth ydy cân Nadolig Hanner Pei.

Oes ‘na unrhyw gân yn mynd at wraidd y gwirionedd ynglŷn â’r Nadolig na hon? Er gwell neu er gwaeth, mae’r Nadolig yn esgus da i fwyta ac yfed gormod, ac un o’r pethau gorau am yr ŵyl ydy’r cyfle i atgyfodi’r diwn yma.

“Gin, vermouth, lager, lager lager…”

‘Dolig Llawen y cnafon!