Gig: Gig lansio albwm Candelas – Neuadd Buddug, Y Bala – Gwener 22/06/18
Penwythnos mawr arall o gigio, yn enwedig yn Y Bala mae’n ymddangos!
Gig ardderchog ym Mangor heno, wrth i R. Seiliog gefnogi Gwenno yng nghanolfan Pontio yn y ddinas – noson o bop electroneg gwych! Hefyd, nid yn rhy bell i ffwrdd mae noson go wahanol lle gallwch chi ddal Gethin Fôn a Glesni Fflur, David Stephen a Crawia yn Neuadd Goffa Mynydd Llandegai.
Cwpl o gigs mawr nos Sadwrn hefyd, y cyntaf gyda Band Pres Llareggub yn perfformio yn Zip World Chwarel Penrhyn o bobman, fel rhan o ŵyl Snowdonia Rocks, sydd hefyd yn cynnwys Mike Peters, Maffia Mr Huws a Slade ymysg eraill!
Hefyd nos Sadwrn, mae Bryn Fôn yn perfformio yn Neuadd Buddug, Y Bala gyda Synnwyr Cyffredin a DJ Owain Llyr…ond gyda’r noson wedi gwerthu allan, peidiwch meddwl troi fyny heb docyn.
Digwyddiad difyr yn y Galeri, Caernarfon ddydd Sadwrn sef Merched yn Neud Miwsig. Byddwch yn cofio digwyddiad tebyg yng Nghlwb Ifor Bach gwpl o wythnosau nôl, a bydd gweithdai Caernarfon yng ngofal Heledd Watkins, Anya Bowcott ac Elin Meredydd.
Ond ein dewis o brif gig y penwythnos ydy lansiad trydydd albwm y cewri Candelas yn Neuadd Buddug, Y Bala nos Wener. Mae’r hyn rydan ni wedi clywed o’r albwm hyd yma’n wych, ac mae’n siŵr o fod yn glamp o gig. Mae Y Cledrau ac Omaloma’n cefnogi – chwip o lein-yp.
Cân: ‘Noson Arall Efo’r Drymiwr’ – Steve Eaves
Fel arfer, mae’r adran yma o Pump i’r Penwythnos yn gyfle i sôn am drac newydd, ond yr wythnos yma rydan ni wedi penderfynu mynd am glasur o’r archif.
Ydy, mae Ffarout yn dal i wneud gwaith ardderchog yn cyhoeddi fideos cerddoriaeth Gymraeg amrywiol o’r degawdau diwethaf, ac yn gynharach yr wythnos yma fe wnaethon nhw gyhoeddi trac hyfryd o set fyw gan Steve Eaves a’i Driawd yng Nghlwb Rygbi Bethesda…rhywdro ar ddechrau’r 1990au hyd y gwyddom ni.
‘Noson Arall Efo’r Drymiwr’ ydy’r gân, ac mae’n dod o’r albwm ardderchog Croedenau sy’n cynnwys swp o ganeuon anhygoel gan Steve – ‘Sanctaidd i Mi’, ‘Rhai Pobl’, ’10,000 Folt Trydan’, ‘Dau Gariad Ail Law’…i enwi dim ond rhai. Dyma gyfnod mwyaf disglair y cydweithio rhwng Steve a’r diweddar, dalentog, Dafydd Dafis – jyst gwrandewch ar y llais cefndir a sacs ar hon…
Record: Interior Design – HMS Morris
Mae HMS Morris wedi datgelu eu bod yn ymuno â label Bubblewrap o Gaerdydd, a bod albwm newydd allan ganddyn nhw ar 21 Medi eleni – newyddion gwych.
Ac os nad ydy hynny’n ddigon cyffrous, mewn sgwrs fideo gydag Y Selar yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd fe ddatgelodd y grŵp eu bod nhw’n rhyddhau’r albwm ar feinyl…ac mae pawb yn gwybod am ein hoffter o’r cyfrwng hyfryd hwnnw!
Cyfle perffaith hefyd i atgoffa’n hunain o albwm cyntaf, y grŵp, Interior Design, a ryddhawyd yn annibynnol ganddyn nhw nôl yn Nhachwedd 2016. Mae’r albwm dal ar gael trwy eu safle Bandcamp, ac mae ‘Gormod o Ddyn’ yn un o’r traciau sy’n sefyll allan o’r casgliad…
Artist: Los Blancos
Tipyn o gynnyrch newydd allan heddiw, gan gynnwys EP ‘coll’ Zabrinsky, a sengl newydd sbon gan Yr Ods. Sengl arall sydd allan heddiw ydy sengl ddwbl Los Blancos, sef y traciau ‘Clarach / Cadi’. Fe eglurodd Gwyn a Dewi o’r grŵp fwy am y caneuon mewn sgwrs fideo gyda’r Selar yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd.
Darganfyddodd Y Selar Los Blancos diolch i fersiwn cynnar o ‘Clarach’ a lwythwyd ar Soundcloud rhyw flwyddyn a hanner yn ôl, ac rydym wedi bod yn cadw golwg fanwl arnyn nhw ers hynny.
Dyma’r fersiwn newydd sbon o’r diwn, gyda bach mwy o sglein arni….
Ac un peth arall….: Arlwy cerddorol maes Eisteddfod Genedlaethol 2018
Yn ystod yr wythnos fe gyhoeddwyd manylion amryw lwyfannau ac ardaloedd maes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mae Caerdydd eleni.
O ddiddordeb arbennig i ni, roedd hyn yn cynnwys amserlen Caffi Maes B, a Llwyfan y Maes.
Ymysg yr uchafbwyntiau yng Nghaffi Maes B yn ein barn ni mae Pasta Hull v Tri Hwr Doeth am 18:30 ar y dydd Gwener, ac mae lein-yp y dydd Iau, sy’n cynnwys Cowbois Rhos Botwnnog, Alffa, Chroma, Los Blancos a Candelas yn edrych yn anhygoel.
Mae Llwyfan y Maes wedi dod yn atyniad mawr dros y blynyddoedd diwethaf, ac ymysg uchafbwyntiau’r amserlen eleni mae Rownd Derfynol Brwydr y Bandiau ar y pnawn Mercher, set prin gan y Crumblowers i gloi y nos Sadwrn cyntaf, ac wrth gwrs Candelas yn cloi arlwy’r wythnos ar y nos Sadwrn olaf.
Mae manylion amserlenni holl leoliadau’r maes ar wefan yr Eisteddfod.