Gig: Estrons, Mellt, Bandicoot – Y Parrot – 23/11/18
Ambell gig bach da yn brwydro am ein dewis o gig y penwythnos wythnos yma. Ond gyda’r cyfleoedd i ymweld â lleoliad ardderchog y Parrot yn prysur brinhau, roedd rhaid mynd am y lein-yp arbennig sydd yno heno. Mae’n debyg bod y rhan fwyaf ohonoch wedi clywed bellach bod y Parrot yn cau ei ddrysau ar nos Calan eleni, a bydd colled mawr ar ei ôl. Ond mae nifer o gigs gwych yno cyn hynny gan gynnwys ymweliad Estrons fel rhan o’u taith ar hyn o bryd, gyda chefnogaeth gan Mellt.
Mae cyngerdd da iawn yn y Galeri, Caernarfon heno gyda’r delynores wych Angharad Finch a Seckou Keita, ynghyd â chefnogaeth gan Gwynedd Glyn.
Hefyd heno mae Eadyth yn perfformio yn Chapter, Caerdydd fel rhan o Ŵyl WOW, ac mae’r Gogs wrthi eto y The Fat Boar yn Wrecsam.
Symud ymlaen i nos fory, ac mae gig bach da yn yr Institiwt yng Nglyn Ebwy gydag I Fight Lions, Y Sybs a Lewis Barber. Hefyd yn y de ddwyrain, mae Zabrinsky yn lansio eu halbwm yng Nghlwb Ifor Bach.
Symud i’r Gogledd Orllewin ac mae noson sydd wedi cael lot o sylw’n ddiweddar sef perfformiad Alys Williams gyda Cherddorfa BBC Now yn Pontio. Ac ychydig filltiroedd lawr y lôn mae rhywbeth hollol wahanol, sef The Welsh Whisperer a Dafydd Hedd yng Nghlwb Bowlio a Chriced Bethesda. Joio.
Cân: ‘Obsidian’ – R. Seiliog
Wythnos i heddiw, 30 Tachwedd, bydd y cerddor a chynhyrchydd electroneg R. Seiliog yn rhyddhau ei albwm diweddaraf, Megadoze ar label Turnstile.
- Seiliog ydy prosiect Robin Edwards o Beniel…yr un ger Dinbych…a dyma fydd ei drydydd albwm llawn. Mae’n dilyn Doppler a rhyddhawyd yn 2013 ac In Hz a gafodd ganmoliaeth eang yn 2016.
Mae’r albwm diweddaraf yn dilyn trywydd ychydig yn wahanol o ran ei sŵn yn ôl yr wybodaeth sydd wedi’i ryddhau. Os nad allwch chi ddisgwyl nes dydd Gwener nesaf i gael blas ar y sŵn, na phoener gan bod ein cyfeillion annwyl yn Ochr 1 wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer un o’r traciau, ‘Obsidian’, heddiw – da ydyn nhw ynde.
Mae’r fideo newydd wedi’i gyfarwyddo gan Andy Pritchard ac mae’r synau electronig hyfryd a’r delweddau epig yn cyfuno i greu fideo prydferth iawn.
Mae Golygydd Y Selar, Gwilym Dwyfor, wedi bod yn ddigon ffodus i gael glywed yr albwm yn barod a gallwch ddarllen ei adolygiad o’r casgliad yn rhifyn newydd Y Selar sydd allan wythnos nesaf!
Record: Gwn Glân Beibl Budr – Lleuwen
Newyddion cyffrous yr wythnos ydy bod albwm newydd Lleuwen, sef Gwn Glân Beibl Budr, allan heddiw ar Recordiau Sain.
Mae’r albwm wedi’i recordio ers blwyddyn a bydd unrhyw un sydd wedi bod i gigs Lleuwen dros y flwyddyn ddiwethaf ar dân i gael gafael ar gopi.
Rhyddhawyd sengl o’r casgliad, sef ‘Hen Rebel’, ddydd Gwener diwethaf er mwyn rhoi blas ac mae wedi cael ymateb arbennig o dda.
Newyddion da pellach i chi ydy bod Y Selar wedi dal fyny â Lleuwen am sgwrs sydyn ar gyfer rhifyn newydd y cylchgrawn sydd allan wythnos nesaf – cadwch olwg am gopi yn y mannau arferol.
Dyma fideo o fersiwn unigol o ‘Hen Rebel’ sydd ar sianel YouTube Lleuwen ers sbel fach:
Artist: Accü
Rydan ni wedi rhoi cryn dipyn o sylw i Accü yn ddiweddar wrth iddi ryddhau ei halbwm cyntaf ddiwedd mis Hydref.
Accü ydy prosiect cerddorol diweddaraf Angharad van Rijswijk, gynt o Trwbador, ac mae Echo The Red allan ar Recordiau Libertino nawr.
Ond nid dim ond creu cerddoriaeth mae Angharad yn ddiweddar, mae hefyd wedi bod yn brysur yn ymgyrchu dros leoliadau cerddoriaeth ac yn arbennig felly lleoliad gigs amlycaf Caerfyrddin.
Mae Y Selar wedi rhoi sylw i’r newyddion trist bod lleoliad Y Parrot yn cau ddrysau ar ddiwedd y flwyddyn, ac mae hynny heb os yn dipyn o glec i miwsôs Caerfyrddin ac i gerddorion o bob cwr sy’n awyddus i gigio yn yr ardal.
Yn lle derbyn y newyddion yn dawel, mae Angharad wedi mynd ati i danio trafodaeth ynglŷn â’r heriau sy’n wynebu lleoliadau bach mewn ardaloedd gwledig, a sut mae mynd ati i ddiogelu a chynnal ysbryd cerddoriaeth fyw yng Nghaerfyrddin.
Yn benodol, mae wedi mynd ati i drefnu sgwrs banel ynglŷn â’r materion hyn yn Y Parrot fory am 14:00. Mae’r panel yn cynnwys unigolion o wahanol rannau o’r diwydiant cerddorol – Matt Davies (siop Recordiau Tangled Parrot), Gruff Owen (Libertino), Rhys Mwyn (basydd Yr Anrhefn), Dai Davies (cyn brif weithredwr Sanctuary Music), Rich James (y cerddor) ac Angharad ei hun.
Trafodaeth ddifyr a phwysig yn sicr os ydach chi ochrau Caerfyrddin fory.
Un peth arall…: Enwebiadau Gwobrau’r Selar
Mae ganddoch chi ychydig o ddyddiau’n weddill i enwebu ar gyfer Gwobrau’r Selar eleni – bydd yr enwebiadau yn cau ar 27 Tachwedd cyn i’r bleidlais gyhoeddus agor ar 1 Rhagfyr.
Syniad yr enwebiadau ydy rhoi cyfle i chi, darllenwyr Y Selar a ffans cerddoriaeth Gymraeg gyfoes i gynnig eich awgrymiadau ynglŷn â phwy ddylid eu hystyried yn y gwahanol gategorïau. Bydd panel Gwobrau’r Selar yn ystyried pob enw a gynigir, ac yn llunio rhestrau hir ar gyfer y bleidlais ar sail hynny.
Mae modd i chi gynnig eich enwebiadau ar gyfer yr amryw gategorïau nawr ar wefan Y Selar.
Rhag ofn i chi golli’r newyddion wythnos diwethaf, bydd Gwobrau’r Selar yn digwydd dros ddwy noson yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar 15-16 Chwefror a bydd manylion tocynnau yn dilyn yn fuan iawn.
Mae ‘na ambell newid bach i’r categorïau eleni, yr amlycaf efallai ydy cyflwyno categori ‘Seren y Sin’. Syniad y wobr yma ydy gwobrwyo unigolyn neu grŵp/sefydliad sy’n gwneud gwaith da i hyrwyddo a hybu’r diwydiant mewn rhyw ffordd arbennig. Efallai eu bod yn mynd o gwmpas eu gwaith yn dawel bach a ddim yn cael y clod maen nhw’n ei haeddu.
Hefyd, rydan ni’n chwilio am 5 darllenwr i fod ar banel Gwobrau’r Selar eleni – bydd y panel hefyd yn cynnwys 5 o gyfranwyr y cylchgrawn. Y cyfan sy’n rhaid i chi wneud ydy helpu dewis rhestrau hir ar gyfer y bleidlais, ac fe gewch docyn Gwobrau’r Selar am ddim am eich trafferth! Gyrrwch nodyn i ni os ydach chi’n awyddus – yselar@live.co.uk
Cadwch olwg ar ein cyfryngau am newyddion diweddaraf y Gwobrau ac ar y digwyddiad Facebook yn arbennig.