Pump i’r Penwythnos – 24 Awst 2018

Gig: Gŵyl Hub 2018 – 24-26 Awst

Tipyn o gigs bach da penwythnos yma, gan ddechrau gyda pherfformiad Gwenno heno yng Ngŵyl Sea Change Festival, a gynhelir yn Totnes, Devon.

Hefyd heno, mae dau o gewri cerddorol Bethesda yn perfformio yn Copa, Caernarfon sef Celt a Maffia Mr Huws.

Os ydach chi yn ardal Aberystwyth yna mae cyfle i ddal Delyth ac Angharad (DnA) yng Nghanolfan y Celfyddydau nos Sadwrn.

A hithau’n ŵyl y banc, mae nifer o gigs nos Sul hefyd gan gynnwys Candelas yn Llannerch-ym-medd, a Bryn Fôn ar fferm Pen y Fron ger Gwytherin. Mae ail gig cyfres diwedd yr haf Gigs Cantre’r Gwaelod yn y Bandstand yn Aberystwyth bnawn Sul hefyd, gydag Al Lewis a Sorela…ond mae’r tocynnau i gyd wedi gwerthu’n barod felly peidiwch mynd heb docyn da chi. Dyma’r ail wythnos yn olynol i docynnau un o gyfres Cantre’r Gwaelod werthu’n gyfan gwbl ymlaen llaw yn dilyn gig Meic Stevens wythnos diwethaf.

Ein prif ddewis ni y penwythnos yma ydy Gŵyl Hub a gynhelir ar Stryd y Fuwch Goch, Caerdydd dros y penwythnos. Ymysg yr artistiaid Cymraeg sy’n perfformio eleni mae Chroma, I Fight Lions, Rufus Mufasa a Papur Wal.

 

Cân: ‘HawlFraint’ – Gareth Cardew

Mae Zabrinsky wedi ail-gydio rhywfaint ynddi dros y misoedd diwethaf, gan ryddhau peth hen gynnyrch, a chyhoeddi bod sengl newydd ar y ffordd ym mis Medi. Byddan nhw hefyd yn perfformio yng Ngŵyl Sŵn yn hwyrach eleni, ynghyd â gig yng Nghlwb Ifor Bach fis Tachwedd.

Un o aelodau craidd Zabrinsky ydy Gareth Cardew Richardson, ac ar ôl cyfnod hesb, mae wedi llwytho trac unigol newydd i’w safle Soundcloud yr wythnos hon.

Trac offerynnol ydy ‘HawlFraint’, ond mae’n faled piano hynod o hyfryd. Gobeithio clywed mwy gan y boi yma…

 

Record: Peiriant Ateb – Y Cledrau

Un albwm sydd wedi bod yn troelli’n gyson yn ddiweddar ar chwaraewr CD (…hen ffasiwn ynde) Y Selar ydy albwm cyntaf Y Cledrau, Peiriant Ateb.

Rhyddhawyd y record gan I Ka Ching ym mis Rhagfyr 2017, ond chafodd hi ddim y sylw roedd hi’n haeddu ar y pryd yn ein tyb ni, ac mae wedi tyfu’n raddol arnom ni dros y misoedd diwethaf. Yn wir, un o uchafbwyntiau wythnos y Steddfod oedd set Y Cledrau ar Lwyfan Perfformio y ‘maes’, ac wrth eu gweld nhw’n eu perfformio’n fyw, mae rhywun yn sylweddoli gymaint o tiiiiwns ydy caneuon fel ‘Cliria Dy Bethau’, ‘Cyfarfod o’r Blaen’ a ‘Swigen o Genfigen’.

Yn ogystal ag ar CD hen ffasiwn, mae’r albwm ar gael ar yr holl gyfryngau digidol arferol.

“…sut dwi fod i gogio fod ni rioed wedi cyfarfod o’r blaen?” Dyma ‘Cyfarfod o’r Blaen’, un o uchafbwyntiau mawr eu set ar Lwyfan y Maes yn Steddfod:

 

Artist: Dafydd Iwan

Mae un o hoelion wyth cerddoriaeth Gymraeg yn dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed heddiw. Pen-blwydd hapus iawn Mr Dafydd Iwan!

Does dim angen llawer o gyflwyniad – nid yn unig bod Dafydd yn un o artistiaid Cymraeg mwyaf poblogaidd Cymru dros yr hanner canrif diwethaf, roedd hefyd yn un o sylfaenwyr label Recordiau Sain, sydd wedi bod yn gwbl ganolog i greu a chynnal y sin gerddoriaeth Gymraeg rydan ni’n ei adnabod a mwynhau heddiw.

Gyda chymaint o ganeuon amlwg yn ei ôl-gatalog, mae job dewis un i nodi achlysur ei ben-blwydd, ond ag yntau’n sôn am ryddhau casgliad newydd yn fuan, ac yn dal i wneud cyfraniad pwysig, roedden ni’n credu bod hon yn briodol.

 

Un peth arall: Rhestr Fideos Cymraeg 2018 (gan Yws Gwynedd)

Efallai bod Yws Gwynedd yn cymryd hiatus bach o’i gerddoriaeth ei hun, ond mae o’n sicr yn cadw’n brysur ar hyn o bryd. Yn bennaf mae’n ymddangos trwy lunio rhestrau!

Debyg bod y rhan fwyaf ohonoch sy’n darllen hwn yn gwybod am ei restr chwarae Spotify, C’est Bon (Caneuon Newydd Cymraeg), sy’n boblogaidd iawn. Wel, yr wythnos hon mae o wedi llunio cwpl o restrau eraill newydd. Yn gyntaf, wrth i un o fandiau ei label, Alffa, gyrraedd y ffigwr o 100,000 ffrydiad ar Spotify cwta dair wythnos ers rhyddhau eu sengl ‘Gwenwyn’, mae Yws wedi mynd ati i lunio rhestr chwarae ‘Y Clwb Can Mil’ sy’n cynnwys y caneuon Cymraeg sydd wedi eu ffrydio dros 100,000 o weithiau ar lwyfan Spotify (ydy, mae o’n bach o gîc pan ddaw hi at ystadegau!)

Ond rhestr handi iawn arall ganddo ydy rhestr chwarae YouTube o’r holl fideos cerddoriaeth Cymraeg sydd wedi eu cyhoeddi yn 2018, ac mae ‘na lwyth ohonyn nhw wedi bod eleni. Bydd llawer ohonoch yn gwybod bod Y Selar yn bustachu i drio llunio rhestr gyflawn debyg bob mis Rhagfyr wrth i ni agor pleidlais Gwobrau’r Selar, a chategori ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’ yn benodol. Diolch yn fawr iawn i Yws am arbed un job fach i ni eleni!!

Er ein bod ni’n gobeithio gweld Yws nôl ar y llwyfan yn y dyfodol agos, rhaid cydnabod y gwaith da mae o’n gwneud o ddefnyddio ei boblogrwydd i hyrwyddo artistiaid eraill llai amlwg yn ystod ei gyfnod hesb. Da was.