Gig: Y Reu, Breichiau Hir, Alffa – Clwb Ifor Bach, Caerdydd – Sadwrn 26/05/18
Digonedd o ddewis o gigs penwythnos yma eto, fel y gwelwch o’r rhestr isod. Rydan ni wedi mynd am y gig yng Nghlwb Ifor Bach nos Sadwrn fel ein hoff lein-yp wythnos yma…yn bennaf gan bod 3 o’n hoff fandiau’n perfformio yno.
Mae unrhyw gyfle i ddal Y Reu yn fyw yn werth manteisio arno – un o fandiau byw gorau Cymru heb os. Rydan ni wastad wedi bod yn hoff iawn o Breichiau Hir hefyd, ac yn hynod o falch i weld yr adfywiad bach maen nhw’n ei gael eleni. Ac yna Alffa wrth gwrs…a pwy sydd ddim yn hoffi hogia Alffa?
Nos Wener 25 Mai
- Fleur De Lys, Ffracas – Saith Seren, Wrecsam
- Geraint Lovegreen – Ty Glyndŵr, Caernarfon
- Beth Celyn – Whitehall, Pwllheli
- Candelas yn headleinio nos Wener Kingsfest yn Nghlwb Rygbi Llanidloes, mae albwm Candelas ‘Wyt Ti’n Meiddio Dod i Chwarae’ hefyd ar gael i’w brynu nawr oddiar wefan I KA CHING. Candelas fydd hefyd yn cloi Eisteddfod Yr Urdd yn Llanelwedd penwythnos nesaf.
Nos Sadwrn 26 Mai
- Y Cledrau, Trŵbz – Rali Eryri, Llanrug
- Y Reu, Breichiau Hir, Alffa – Clwb Ifor Bach, Caerdydd
- Penwythnos mawr BBC Radio 1 yn digwydd yn Abertawe’r penwythnos yma hefo rhai o artistiaid Cymraeg yn chwarae yno megis Band Pres Llareggub, CHROMA, Mellt a Serol Serol.
Nos Sul 27 Mai
- Ffug a llawer mwy – Merthyr Rising, Merthyr Tudfil
- Meilyr Jones – Buffalo Bar, Caerdydd
Llun 28 Mai – Sadwrn 2 Mehefin
Eisteddfod Yr Urdd hefo llwythi ar lwythi ar lwythi o artistiaid gwych yn chwarae yno trwy’r wythnos, fel y gwelwch o’r fideo bach yma yng nghwmni Nia Haf, Llywydd Yr Urdd.
Cân: ‘K’TA’ – Serol Serol
Un o’r artistiaid Cymraeg fydd yn chwarae yn un o gigs mwyaf y penwythnos, sef ‘Y Penwythnos Mwyaf’ gan BBC Radio 1 yn Abertawe yfory fydd Serol Serol. Mae’n gyfle gwych i unrhyw fand, ond yn arbennig felly i fand ifanc fel Serol Serol.
Cyfle da felly i plygio sengl a ryddhawyd ganddynt yn gynharach eleni, a thrac o albwm cyntaf y band o Ddyffryn Conwy, a ryddhawyd gan Recordiau I KA CHING fis Mawrth.
Mi fyddwn ni yno mewn ysbryd…dyma ‘K’TA’:
Artist: Chroma
Band sydd wir yn gwneud yn dda i’w hunain ar y funud yw’r band trwm o’r Cymoedd, Chroma.
Maen nhw hefyd yn chwarae dros y penwythnos fel rhan o’r ‘Penwythnos Mawr’ efo degau o artistiaid eraill sy’n cynnwys llawer o enwau mwyaf y byd ar hyn o bryd.
Echnos, fe ddarlledwyd tair cân o set Chroma mewn gig gyda’r Black Peaks a Casey Band yn Theatr y Grand, Abertawe ar rhaglen Huw Stephens, tua 00.53.22 munud mewn. Y caneuon a ddarlledwyd ‘Vampires’, ‘Try Me’ a ‘Claddu’.
Bydd eu sengl nesaf ‘Girls Talk’ yn cael ei rhyddhau ar label Popty Ping – trac sydd wedi’i recordio a’i chynhyrchu gan Charlie Francis (REM, Future Of The Left, Sweet Baboo) a bydd ar gael ar Vinyl piws-tryloyw. Mmmmm, neis.
Cyhoeddwyd wythnos yma hefyd bod Chroma yn un o’r 12 artist sydd wedi cael eu dewis i ymuno â phrosiect Gorwelion y BBC ‘leni, llongyfarchiadau mawr iddyn nhw a’r 11 arall.
Ac os nad ydy hynny’n ddigon, nhw hefyd fydd yn hed-leinio Gig Nos Ffiliffest sy’n cael ei drefnu ar y cyd gan Y Selar ar nos Sadwrn 9 Mehefin yng Nghastell Caerffili.
Dyma ‘Claddu 2016’:
Record: Toddi – Yr Eira
Pa record well i ddathlu cyhoeddi lein-yp Maes B ‘leni?
Fe gyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol y lein-yps llawn ar gyfer gigs Maes B ym Mae Caerdydd wythnos diwethaf.
Cadarnhawyd mai adeilad Dr Who yn y Bae fyddai cartref Maes B yn ystod wythnos yr Eisteddfod gyda gigs rhwng nos Fercher 8 Awst a nos Sadwrn 11 Awst.
Band Pres Llareggub fydd prif fand noson agoriadol Maes B ar y nos Fercher, gyda chefnogaeth gan Y Cledrau, Cadno, Gwilym a DJ Gareth Potter.
Mae prif fand nos Iau 9 Awst yn ddewis annisgwyl, wrth i Yr Ods ddychwelyd i’r llwyfan am y tro cyntaf ers tua dwy flynedd. Bydd tri o fandiau prysuraf y flwyddyn ddiwethaf, HMS Morris, Omaloma a Serol Serol yn eu cefnogi.
Band arall sydd heb fod yn gigio rhyw lawer yn ddiweddar, ond sydd wastad yn rhoi perfformiad cofiadwy ydy Y Reu, a nhw fydd prif fand nos Wener 10 Awst. Mellt, Chroma a Los Blancos fydd yn cefnogi gyda Elan Evans yn DJio.
Ac yna ar y nos Sadwrn, y band sydd wedi mynd o nerth i nerth ers rhyddhau eu halbwm cyntaf ‘Toddi’ llynedd ar label I KA CHING, Yr Eira, sy’n cloi yr wythnos gyda Cpt Smith, Adwaith ac Enillwyr Brwydr y Bandiau yn gefnogaeth.
Dyma un gân boblogaidd iawn o albwm Yr Eira sy’n siŵr o gael ei y chlywed yn eu set i gloi yr wythnos.
Un peth arall..: Merched yn Gwneud Miwsig
Does dim llawer i fynd nawr tan y gweithdy arbennig sy’n cael ei gynnal gan Maes B a Twrw/Clwb Ifor Bach ar gyfer merched sy’n ymddiddori mewn cerddoriaeth. Cynhelir ‘Merched yn Gwneud Miwsig’ yng Nghlwb Ifor Bach ar nos Sadwrn 9 Mehefin.
Bydd y gweithdai yn cael eu harwain gan Heledd Watkins, Anya Bowcott ac Elin Meredydd.
Prif leisydd HMS Morris yw Heledd a chyflwynydd eitem wythnosol ‘Gigiadur’ ar HANSH. Bydd Heledd yn cynnal sesiwn ar sut i fynd ati i ysgrifennu a recordio cerddoriaeth. Bydd Anya Bowcott, DJ o Ogledd Cymru (sydd bellach yn byw yn Glasgow) yn cynnal gweithdy ar sut i DJio.
Ac os mai creu celf yw eich diddordeb chi’n hytrach na chreu cerddoriaeth, bydd yr artist a pherfformwraig Elin Meredydd yn cynnal gweithdy ar ochr gelfyddydol y sin, gan gynnig cyngor ar sut i fynd ati i ddylunio posteri a chloriau albyms.
Mae’r tocynnau yn cynnwys cinio a’r gweithdai, oll am ddim ond £5. Mae unrhywmun dros 16 yn gallu mynd felly ewch amdani!