Gig: Breichiau Hir, Hyll, Y Sybs – Andrew Buchan Bar, Caerdydd – 26/10/18
Dipyn o gigs bach da mewn lleoliadau amrywiol iawn penwythnos yma.
Heno yn Aberaeron, mae cyn-ganwr Edward H Dafis, Cleif Harpwood, yn perfformio gyda chefnogaeth gan Gildas. Mae cyfle hefyd heno i ddal Alys Williams yng Ngwyddelwern, Welsh Whisperer yn Nhyglyn Aeron, a Daniel Lloyd a Mr Pinc yn Saith Seren, Wrecsam.
Os ydach chi awydd rhywbeth ychydig yn llai hamddenol heno, yna bydd digon o sŵn yn yr Andrew Buchan Bar yng Nghaerdydd diolch i Breichiau Hir, Hyll ac Y Sybs. Di Alffa ddim yn rai i gadw’n dawel chwaith, ac maen nhw yn Rascals, Bangor Ucha heno gyda chefnogaeth gan Elis Derby.
Symud ymlaen i nos Sadwrn, ac mae clamp o lein-yp yn Wrecsam wrth i Geraint Lovgreen, Radio Rhydd, Synnwyr Cyffredin a Jamie Bevan ymweld â Chlwb Lagyr Wrecsam – lein-yp amrywiol i ddweud y lleiaf!
Nos Sadwrn hefyd mae Gwilym Bowen Rhys yn Ne Ceredigion, ac yn perfformio gyda Rhosier Morgan ym Mar Y Selar, Aberteifi – dim byd i wneud efo ni bos.
Ac os nad ydach chi wedi cael digon erbyn nos Sul, beth am daro draw i Amgueddfa Lechi Llanberis o bobman i weld Candelas o bawb.
Cân: ‘Y Teimlad’ – A(n)naearol
Band bach digon anghyfarwydd i ni ydy A(n)naearol, ond mae tiwn newydd ganddyn nhw wedi ymddangos ar ffrwd Soundcloud Y Selar dros yr wythnos diwethaf.
Yr hyn rydan ni’n gwybod amdanyn nhw ydy bod nhw’n fand 5 aelod, sef Liam, Wil, Charlie, Cordelia a Niamh, a’u bod nhw’n rhan o gynllun Bocsŵn yn Ynys Môn.
‘Teithio’ ydy enw’r gân newydd maen nhw wedi llwytho ar Soundcloud ers cwpl o ddyddiau, ac er ychydig yn amrwd efallai, fel fyddai’n ddisgwyliedig gyda band ifanc, mae’n diwn fach ddigon bachog gyda riff cofiadwy.
Cadwch olwg am rhain, mae pethau da i ddod!
Record: Oesoedd – Mr
Albwm newydd allan heddiw ydy albwm unigol cyntaf Mark Roberts – gynt o Y Cyrff, Catatonia, Y Ffyrc ac amryw brosiectau cerddorol eraill.
Jyst ‘Mr’ ydy enw ei brosiect diweddaraf, ac ei ymgais unigol cyntaf, a cafodd y newyddion am albwm ar y ffordd a gyhoeddwyd ar ei gyfrif Twitter newydd, @Mrcyrff, groeso cynnes o sawl cyfeiriad.
Y gwir plaen amdani ydy bod Mark yn un o gerddorion, a chyfansoddwyr, gorau ei genhedlaeth – dyma’r boi fu’n bennaf gyfrifol am monster hits fel ‘Cymru, Lloegr a Llanrwst’, ‘Mulder and Scully’ a ‘Road Rage’ wedi’r cyfan. Ond os anghofiwch chi am y tiwns enwocaf hynny, mae hefyd wedi bod yn gyfrifol am ganeuon llai amlwg, ond yr un mor wych fel ‘Eithaf’, ‘Hwyl Fawr Heulwen’ (Y Cyrff) a ‘Beichiog’ (Y Ffyrc).
Mae ei hen gyfaill, Paul Jones, wedi ymwneud â’r rhan fwyaf o brosiectau blaenorol Mark, The Earth ydy’r eithriad. Bydd yn ddiddorol felly gweld sut fydd hynny’n dylanwadau ar sŵn ei albwm diweddaraf.
Yn ôl pob tebyg, mae copïau CD o’r casgliad wedi eu dosbarthu i ambell siop – Spillers a Palas Print yn sicr, ond gallwch hefyd archebu copïau ar-lein i’w derbyn trwy’r post. Does dim modd ffrydio na lawr lwytho fersiwn digidol eto, ond bydd modd gwneud yn fuan.
Mae Mark eisoes wedi cynnig ambell awgrym o’r hyn y gallwn ddisgwyl o’r casgliad 12 trac, gyda chwpl o diwns wedi eu chwarae ar Radio Cymru ac ar raglen Rhys Mwyn nos Lun yma’n benodol.
Mae hefyd wedi cyhoeddi’r ail drac y casgliad, ‘Y Pwysau’, ar Soundcloud…ac mae’n diiiiwn:
Artist: Accü
Mae’n wythnos fach ddigon prysur o ran cynnyrch newydd, ac ymysg y cyfan mae albwm cyntaf y prosiect cerddorol o Gaerfyrddin, Accü.
Os ydach chi’n ddarllenwyr selog o Pump i’r Penwythnos, a gwefan Y Selar yn gyffredinol, yna byddwch eisoes yn gwybod rhywfaint am Accü. Ond yn gryno, dyma brosiect cerddorol diweddaraf Angharad Van Rijswijk, oedd yn aelod o’r grŵp Trwbador, a fagodd gryn ddilyniant ar ddechrau’r degawd.
Byddwch hefyd yn gwybod ei bod wedi rhyddhau sengl Gymraeg ar Recordiau Libertino ddiwedd mis Awst.
‘Am Sêr’ oedd y sengl Gymraeg honno, ac roedd yn dilyn sengl Saesneg o’r enw ‘Did You Count Your Eyes?’ a ryddhawyd ym mis Mai ynghyd â fideo.
Heddiw, mae’r albwm llawn Echo The Red, yn cael ei ryddhau gan Recordiau Libertino, ac rydan ni’n edrych ymlaen yn fawr ar glywed y casgliad fel cyfanwaith. Gallwch wrando a phrynu’r albwm yn ddigidol heddiw, a bydd copïau caled yn cael eu rhyddhau ar 2 Tachwedd.
Dyma fideo ‘Am Sêr’ a gyfarwyddwyd gan Eilir Pearce ar gyfer Ochr 1:
Un peth arall…: Y Sôn ac Alffa
Mae ‘na gymaint o bethau bach gwahanol difyr wedi bod i’w cynnwys yn Pump i’r Penwythnos dros y mis diwethaf, rydan ni wedi anghofio rhoi plyg bach i bodlediad diweddaraf Y Sîn gan Geth a Chris o flog Sôn am Sîn.
Nid yw’n gyfrinach ein bod yn hoffi gwaith y ddau yma, a’r podlediadau’n enwedig.
Mae’r podlediad diweddaraf yn un gwahanol i’r arfer, gan ei fod yn sgwrs estynedig gyda hogia Alffa, ac yn ein barn ni’n mynd i dan groen Dion a Sion go iawn, gyda’r ddau’n hapus iawn i sgwrsio’n agored. Gwerth gwrando.