Pump i’r Penwythnos 27/04/18

Gig: Dawns Barlys: ARGRPH, Breichiau Hir, Phalcons, Los Blancos, Papur Wal a llawer mwy – Cardigan Pizza Tipi, Aberteifi

Mae amrywiaeth dda o gigs ledled y wlad unwaith eto y penwythnos yma. Dyma fanylion y rhai sydd wedi dal llygad Y Selar…

Nos Wener 27 Ebrill

  • Heno yn Neuadd y Dre, Trallwng mae Alys Williams a’r Cledrau yn chwarae yno 20:00.
  • Cleif Harpwood, Geraint Cynan yn Saith Seren, Wrecsam am 19:30
  • TWRW: Lleden, Alun Gaffey, DJ Gareth Potter yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd am 21:00.

Nos Sadwrn 28 Ebrill

  • Mae Band Pres Llareggub yn y Matt&Phreds Jazz Club, yn Manceinion.
  • Dawns Barlys: ARGRPH, Breichiau Hir, Phalcons, La Forme, Glove, Alex Dingley, Los Blancos, Papur Wal, Set’s DJ’s gan Adwaith, Manon Williams ‘No Future’, The Shoot, Libertino – Cardigan Pizza Tipi, Aberteifi am 17:00.
  • Welsh Whisperer, John ag Alun, Dafydd Pantrod a’i Fand yn Gwesty Llanina, Llanarth am 18:00.

Can: ‘Llyncu Dŵr’ – Yr Eira

Mae cân newydd Yr Eira, Llyncu Dŵr allan yn swyddogol heddiw ar label I KA CHING. Ac i gyd-fynd âr achlysur, mae fideo newydd sbon i’r gân wedi ei ryddhau gan Ochr 1 a HANSH heddiw hefyd! Cyfarwyddwyd y fideo newydd gan frawd Lewys, canwr Yr Eira, sef Griff Lynch.

Falle’ch bod chi’n gyfarwydd â’r gân, gan ei bod hi’n gyfieithiad o ‘Rings Around Your Eyes’ oddi ar eu halbwm ‘Toddi’ rhyddhawyd ganddynt haf diwethaf.

‘Da ni wrth ein bodd hefo hon, ac yn edrych ymlaen i’w clywed yn fyw dros yr hâf:

 

Artist: Gruff Rhys

Mae un o artist mwyaf poblogaidd Cymru, Gruff Rhys wedi cyhoeddi cyfres o ddyddiadau y bydd yn chwarae yng Nghaeredin fis Awst.

Gallwch ei ddal rhwng 17 Awst – 25 Awst yn gwneud wyth perfformiad o dan y teitl “Gruff Rhys: Resist Phony Encores!”

Mae’r esboniad o’r sioe ar wefan y digwyddiad yn swnio’n ddifyr i ddweud y lleiaf, heb sôn am fod yn ddigon personol a mynd o dan groen Gruff go iawn.

Mae posib prynu tocynnau i weld y perfformiadau’n barod, ewch amdani fan hyn.

Cyhoeddodd Gruff yn ddiweddar hefyd bod ganddo albwm newydd ar y ffordd, sef ‘Babelsberg’ fydd allan yn swyddogol ar 8 Mehefin ar label Rough Trade Records.

Mae modd clywed yr albwm ar wefan Rough Trade Records.

Gwych gweld Gruff yn rhyddhau mwy o gerddoriaeth gwych. Esgus digon da i rannu’r fideo yma o Gruff yn canu’r gân anhygoel ‘Cryndod yn Dy Lais’ yn ystod set SFA yn Sesiwn Fawr Dolgellau 2005 – dod â ias pob tro…

 

Record: EP Papur Wal ar y ffordd

Mae’n benwythnos mawr i’r label Libertino, gan eu bod nhw’n dathlu blwyddyn ers cychwyn y label mewn parti yn Aberteifi. Ac mae un o artistiaid Libertino wedi cyhoeddi’r wythnos yma bod EP ar y ffordd ganddynt, sef Papur Wal.

Enw’r EP ydy ‘Siegfried Sasoon’, ac fe fydd allan yr haf yma. Ond cyn hynny, mae eu sengl gyntaf, sy’n rhannu enw’r EP, allan wythnos nesa, ar 4 Mai.

Recordiwyd y trac gan Mellt, sy’n ffrindiau i Papur Wal a bydd y sengl hefyd yn cynnwys remix o’r gân gan Pasta Hull. Mae’r caneuon hyn eisoes ar gael i’w ffrydio ar safle SoundCloud Libertino.

‘”Dyma’r gan gyntaf wnes i sgwennu ar gyfer Papur Wal. Y tro cynta i fi dabblo mewn tunings alternate o dan ddylanwad Stephen Malkmus a Sonic Youth” meddai Ianto Gruffudd o’r band.

 

Un peth arall..: Gorwelion yn chwilio am artistiaid

Cyhoeddodd BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wythnos yma bod y gwaith o chwilio am artistiaid i ymuno â phrosiect Gorwelion ar gyfer 2018 bellach wedi dechrau.

Mae’r broses ymgeisio erbyn hyn ar agor, a bydd y deuddeg artist a band llwyddiannus yn cael eu cefnogi a’u hyrwyddo mewn amrywiol ffyrdd gan Gorwelion dros y flwyddyn nesaf.

Mae Gorwelion yn cynnig llwyfan unigryw i gerddoriaeth gyfoes annibynnol, newydd. Cydweithrediad ydyw rhwng BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, ac mae bellach ar ei bedwaredd flwyddyn.

Ymysg yr artistiaid Cymraeg sydd wedi bod ar brosiect Gorwelion yn ystod tair blynedd gyntaf y prosiect mae Candelas, Sŵnami, CaStLeS, Kizzy Crawford, Fleur de Lys, Aled Rheon a Danielle Lewis.

Felly, os ydach chi’n artist brwdfrydig sy’n awyddus i wneud eich marc a chael ychydig o help llaw gan y prosiect, cystal i chi fynd ati i lenwi ffurflen ar-lein.

Bydd artistiaid/bandiau Gorwelion yn cael eu dewis gan banel o arbenigwyr sy’n rhan o’r bartneriaeth ac o’r sector cerddoriaeth yn ehangach.

Un peth newydd eleni yw’r 12 o ‘Flogwyr Gorwelion’ sydd wedi cael eu dethol yn arbennig gan y prosiect ac a fydd yn cynorthwyo i ledaenu’r gair am 12 artist/band newydd. Bydd Blogwyr Gorwelion hefyd yn ymddangos ar baneli ac ar y BBC i helpu i hyrwyddo’r artistiaid, ac yng ngwaith y prosiect ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gellir ymgeisio rhwng 23 Ebrill a hanner nos ar 7 Mai, a daw’r cyhoeddiadau wedi hynny o Ŵyl Ymylol y Penwythnos Mwyaf.

Dyma Omaloma’n perfformio ‘Aros o Gwmpas’ fel rhan o Sesiwn Gorwelion haf diwethaf: