Pump i’r Penwythnos 27 Gorffennaf 2018

Gig: Gŵyl Cwrw Llŷn – Bragdy Cwrw Llŷn, Nefyn – Sadwrn 28 Gorffennaf

Ar ôl cwpl o benwythnosau llawn gwyliau mawr, mae mwy o wyliau penwythnos yma, ond rhai sydd efallai ddim wedi cael yr un sylw.

Yn Ynys Môn, mae Gŵyl Rhosneigr ddydd Sadwrn ym Mar Glan-neigr gyda Mr Phormula , Tacla, Y Moniars, Howling Black, Burning Black, Dafydd Jones a Carma yn perfformio.

Ein prif ddewis ni y penwythnos yma ydy Gŵyl Cwrw Llŷn yn Nefyn, lle mae llwyth o gerddoriaeth wych. Gallwch chi ddal Bwncath, John ac Alun, Cena, Gai Toms a’r Band a Jac Dobson ymysg adloniant arall yn ystod y dydd.

Gallwch chi hefyd fynd i weld Moniars yn y Nanhoron Arms…neu ella ddim.

 

Cân: ‘Gwres’ – Lewys

Mae pythefnos ers i’r artist ifanc cyffrous o Ddolgellau, Lewys, ryddhau ei sengl ddiweddaraf, ‘Gwres’.

Recordiau Côsh sydd wedi rhyddhau’r sengl, a dros y dyddiau diwethaf mae’r label wedi llwytho’r trac newydd i’w safle Soundcloud.

‘Gwres’ ydy ail sengl y cerddor 17 mlwydd oed yn dilyn ‘Yn Fy Mhen’ a ryddhawyd gan Côsh ym mis Chwefror eleni.

Mae’n gyfnod cyffrous i Lewys gan ei fod bellach wedi chwarae ei gig cyntaf, a hynny yn Sesiwn Fawr Dolgellau wythnos diwethaf.

“Mae ‘na elfennau ohoni’n debyg i ‘Yn Fy Mhen’…” meddai Lewys am y sengl.

“…ond mae hi’n gân hapusach, mwy hafaidd yn fy marn i. A dweud y gwir, ‘mwy positif’ ydy’r ffordd o’i ddweud o, yn hytrach na hapusach dwi’n meddwl.”

Ac mae’r trac wedi cael ymateb da hyd yma, gyda dros 2000 gwrandawiad ar Spotify erbyn hyn.

 

Record: Pendevig

Rydan ni wedi sôn tipyn am brosiect Pendevig dros y cwpl o fisoedd diwethaf – dyma’r ‘siwpyr grŵp’ gwerinol sy’n ffurfio’n arbennig ar gyfer perfformio yng Ngŵyl Lorient yn Llydaw, ynghyd ag yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar nos Iau, 9 Awst.

Yn ogystal â pharatoi ar gyfer y gigs, maen nhw hefyd wedi bod yn brysur yn recordio yn y stiwdio, gan ryddhau cwpl o senglau yn barod.

Tamaid i aros pryd ydy rhain, gan bod albwm ar y ffordd ganddyn nhw, a hwnnw’n gweld golau dydd ddydd Gwener nesaf, 3 Awst – bydd copïau i’w prynu yn y gigs uchod, a bydd hefyd allan yn ddigidol ar 10 Awst. Mae’r band wedi rhannu lluniau sy’n dangos bod copïau CD o’r albwm wedi cyrraedd nôl o’r cwmni dyblygu – cyffrous iawn yn wir.

 

Artist: Alffa

Cyfnod bach cyffrous i Alffa, wrth iddyn nhw nesáu at ddiwedd blwyddyn lwyddiannus iawn i’r band.

Bron flwyddyn yn ôl, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn, fe wnaethon nhw gipio teitl Brwydr y Bandiau wrth gwrs. Ers hynny, maen nhw wedi adeiladu ar eu llwyddiant mewn sawl ffordd, gan gynnwys gael ei henwi’n un o artistiaid cynllun Gorwelion eleni.

Penwythnos yma, maen nhw’n cefnogi enwau mawr fel Black Grape, John Power (Cast / The La’s), Bez a Steve Cradock (Ocean Colour Scene) yng Ngŵyl Surf Snowdonia yn Nolgarrog, Dyffryn Conwy.

Ddydd Gwener nesaf, fe fyddan nhw’n rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ar label Recordiau Côsh – mae ‘Gwenwyn’ yn ddilyniant i’w sengl ddiwethaf, ‘Creadur’. Ac, mae’r Selar yn falch iawn i allu cynnig y cyfle cyntaf i chi glywed y trac ar ein gwefan nos Lun nesaf – cadwch olwg ar ein cyfryngau am hon da chi!

Dyma’r sengl ddiwethaf, ‘Creadur’:

 

Un peth arall: Cyhoeddi rhestr fer Albwm Cymraeg y Flwyddyn

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni.

Dyma’r 10 albwm sydd wedi cyrraedd y rhestr eleni:

  • Band Pres Llareggub – Llareggub
  • Blodau Gwylltion – Llifo fel Oed
  • Bob Delyn a’r Ebillion – Dal i Redeg Dipyn Bach
  • Gai Toms – Gwalia
  • Gwyneth Glyn – Tro
  • Mellt – Mae’n Hawdd Pan ti’n Ifanc
  • Mr Phormula – Llais
  • Serol Serol
  • Y Cledrau – Peiriant Ateb
  • Yr Eira – Toddi

Bwriad y wobr yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy’n cael ei ryddhau yng Nghymru ar hyn o bryd, ac unwaith eto eleni, mae cymysgedd eclectig o gynnyrch ac artistiaid wedi cyrraedd y rhestr fer.  Y cyfnod dan sylw eleni oedd 1 Mai 2017 hyd at ddiwedd Ebrill 2018.

Y cyfan sydd ar ôl erbyn hyn ydy i’r criw o feirniaid ddod ynghyd yn ystod yr Eisteddfod yng Nghaerdydd, i ddewis un enillydd. Bydd enw’r enillydd mewn seremoni yn yr Eisteddfod ar ddydd Iau 9 Awst.

Dyma’r pumed tro i’r wobr gael ei chyflwyno, a’r cyn-enillwyr yw Bendith, Sŵnami, Gwenno a The Gentle Good.