Reit, dyma’r sgôr…ma hi’n Ddolig, ma pawb di byta ac yfed gormod a does gan neb fawr o fynedd na lefel canolbwyntio i sgwennu na darllen rhyw lawer. Felly Pump i’r Penwythnos byr a bachog i chi wythnos yma – o leiaf ma’n chenj o’r holl restrau diwedd blwyddyn a crap sydd ar y teli!
Gig: Mellt, Cpt Smith, Spectol Haul – Y Parot, Caerfyrddin – 29/12/18
Y Felinheli ydy’r lle i fod heddiw, gyda Gwilym ac Elis Derbyn yn gwneud dau gig yn Y Shed. Mae’r cyntaf yn gig i’r teulu am 16:00 gyda Kariad y Clown yn ymddangos hefyd, ac yna gig gyda’r hwyr i ddilyn am 20:30, lle na fydd Kariad y Clown yn ymddangos!
Cwpl o gigs bach da nos Sadwrn wedyn, er ei bod yn teimlo fel nad oes cymaint o gigs Nadolig a’r blynyddoedd diwethaf rhywsut. Mae parti Nadolig yn draddodiad yn Neuadd Ogwen, Bethesda ac mae lein-yp cry’… a bach yn boncyrs sy’n cynnwys Pasta Hull, Twmffat, Radio Rhydd a Lolfa Binc.
Ein prif ddewis ni ydy’r gig yng Nghaerfyrddin nos fory, nid yn unig gan bod lein-yp sy’n cynnwys y bandiau gwych Mellt a Cpt Smith, ond hefyd gan mai dyma fydd y cyfle olaf i weld bandiau Cymraeg yn perfformio yn y lleoliad amlwg. Bydd y ganolfan, sydd wedi datblygu i fod yn gyrchfan pwysig ar gyfer bandiau a gig-garwyr yn y Gorllewin, yn cau ei drysau am y tro olaf ar nos Calan, a bydd bwlch mawr yn cael ei adael ar ei hôl.
Cân: ‘Y Diweddaraf’ – Adwaith
Does dim angen gormod o esgus i chwarae tiwn gan Adwaith eleni – un o grwpiau 2018 heb os.
Un o’r senglau ganddyn nhw sydd wedi cael llwyth o sylw ydy ‘Y Diweddaraf’ a ryddhawyd ym mis Hydref.
Wythnos diwethaf, mae Ochr 1 wedi cyhoeddi fideo o’r grŵp yn perfformio’r gân fel sesiwn ym Marchnad Jacob’s, Caerdydd a digon da ydy o hefyd:
Record: Olion – Euros Childs
Rhywbeth allech chi fod wedi colli ar drothwy’r Nadolig oedd y ffaith bod Euros Childs wedi rhyddhau albwm newydd ddydd Gwener diwethaf, 21 Rhagfyr.
Olion ydy enw casgliad diweddaraf Euros, ac yn ôl y cerddor amryddawn, dim ond ddydd Iau oedd hi arno’n gorffen recordio’r albwm newydd, ond roedd allan i’w lawr lwytho’n ddigidol ar ei wefan erbyn dydd Gwener.
Mae’r casgliad newydd yn cynnwys 10 o draciau, ac yn wahanol i’r rhan fwyaf o waith blaenorol Euros, mae’r caneuon i gyd yn rai offerynnol yn unig. Recordiwyd y cyfan gan Euros a Stephen Black, sef y cerddor sy’n adnabyddus fel Sweet Baboo a hynny yn stiwdio Gus’ Dungeon II yng Nghaerdydd.
Olion ydy trydydd albwm ar ddeg Euros fel artist unigol, ac mae’n dilyn House Arrest a ryddhawyd ganddo ym mis Tachwedd llynedd.
Mae gwaith celf y casgliad newydd yn drawiadol, ac yn wir yn cynnwys paentiad gan Euros ei hun pan oedd yn 5 oed.
Mae’r albwm ar gael i’w ffrydio a lawr lwytho am ddim, ond gyda chyfle i wneud cyfraniad ariannol. Mae modd gwrando ar Soundcloud National Elf hefyd:
Artist: Neu Unrhyw Declyn Arall
Un o grwpiau Cymraeg mwyaf chwedlonol y 1980au, os nad erioed! Grŵp Huw Gwyn, brawd bach Ian Gwyn Hughes (ia, y boi Cymdeithas Bêl-droed Cymru), a’i gyfaill Dewi Gwyn oedd Neu Unrhyw Declyn Arall ac roedden nhw bach yn boncyrs.
Maen nhw wedi dod i sylw Y Selar dros yr wythnos ddiwethaf diolch i’r ardderchog Ffarout sydd wedi rhoi fideo ‘Prydferthwch Cariad Pur’ ar eu sianel YouTube gan roi blas perffaith i ni o’r hyn roedd y grŵp yn enwog amdano, sef caneuon tafod ym moch, doniol a dychanol…
Mae’r fideo’n Nadoligaidd ei naws (wel, mae ‘na goeden Dolig ynddo fo!) felly’n sortof amserol.
Roedd aelodau eraill y grŵp yn cynnwys Dyfed Edwards, Gareth Parry, Aled Gwyn a Dyfrig Ellis ac fe wnaethon nhw weithio tipyn gyda Gorwel Owen, sef cynhyrchydd gwych gwaith cynnar Super Furry Animals ymysg llawer o artistiaid eraill.
Er mor ardderchog ydy fideo ‘Prydferthwch Cariad Pur’, mae’n anodd iawn cystadlu gyda’n hoff gân Neu Unrhyw Declyn Arall, ‘Mae Hywel yn Odli gyda Rhyfel’ isod #tiiiwn
Cadwch olwg hefyd am ‘Mae Duw yn Brill’ a ‘Nid Pinc yw Dail’.
Un peth arall…: Cau pleidlais Gwobrau’r Selar nos Calan
Heds yp – mae pleidlais Gwobrau’r Selar yn cau ar nos Calan felly peidiwch colli’ch cyfle i fwrw pleidlais.
Mae ymhell dros fil o bobl wedi pleidleisio yn barod, ond mae rhai o’r categorïau yn dal i fod yn agos iawn ar hyn o bryd, felly gall eich pleidlais wneud gwahaniaeth.
Y newyddion da pellach ydy bod tocynnau nosweithiau unigol penwythnos y Gwobrau hefyd ar werth bellach. Mae modd archebu rhain, ynghyd â thocynnau penwythnos am bris ychydig yn rhatach, ar-lein a byddan nhw’n cyrraedd ambell siop yn y flwyddyn newydd – cadwch olwg am y newyddion diweddaraf.