Waw, dyna be oedd wythnos braf! A wyddoch chi be, mae’n addo mwy o heulwen dros y penwythnos….hyyyyyfryd.
Boed chi’n anelu am lan y môr, allan ar y beic neu’n mynd am sbri i ŵyl gyfagos, cofiwch bod angen lle ar gyfer chydig o gerddoriaeth yn eich bywyd. Dyma’n awgrymiadau ni o bethau cerddorol ar gyfer y penwythnos godidog sydd o’n blaen…
Gig: Sŵnami, Oshh, Ffracas – Clwb Ifor Bach – Nos Sadwrn 30 Mehefin
Mae cwpl o wyliau dros y penwythnos, gan gynnwys Gŵyl Rhuthun. Gallwch chi ddal Daniel Lloyd a Glain Rhys yn chwarae yno heno yn Neuadd John Ambrose, ac mae Trŵbz a Dafydd Iwan ymysg yr artistiaid sy’n perfformio yn nhop y dre nos fory (Sadwrn).
Mae’n benwythnos prysur i Trŵbz gan eu bod nhw’n chwarae heno hefyd mewn digwydd MAD (Mudiad Adloniant Dolgellau) yn Neuadd Penrhyndeudraeth – Yr Amgen a DJ Bustach yn cefnogi. Heno yn Abertawe, mae’r gantores o Benfro, Lowri Evans, yn lansio ei EP newydd mewn gig Tyrfe Tawe yn Nhŷ Tawe.
Os ydach chi ochrau Leeds penwythnos yma, mae ‘na gig prin efo bandiau Cymraeg yn yr Hyde Park Book Club nos Sadwrn – cyfle i chi ddal Los Blancos, Argrph a Papur Wal – gig showcês arbennig gan Recordiau Libertino.
Os yn y Gorllewin gwyllt nos Sadwrn yna anelwch am Gaeau Rygbi Dôl Wiber yng Nghastell Newydd Emlyn gan bod Mellt yno ynghyd â Baldande a DJ Rob Thomas.
Ond, mae’n amhosib osgoi y glamp o ŵyl sy’n digwydd yn y brifddinas dros y penwythnos, sef Tafwyl. Mae perfformwyr prif safle’r ŵyl yng Nghastell Caerdydd yn ormod i’w rhestru, ond teg dweud bod Band Pres Llareggub, Candelas ac Eden ymysg yr uchafbwyntiau. Rydan ni felly wedi dewis Gig Twrw Taf nos Sadwrn yng Nghlwb Ifor Bach fel ein prif ddewis yr wythnos yma – cyfle prin iawn i weld Sŵnami y dyddiau yma, gyda chefnogaeth gan yr ardderchog Oshh a Ffracas.
Os ydach chi yn y brifddinas ac awydd rhywbeth bach yn wahanol, yna mae ‘na opsiwn amgen i chi ar ffurf Gig Ffrinj Tafwyl yn St. Canna’s Ale House ar Ffordd Llandaf ddydd Sadwrn. Lein-yp bach neis iawn sy’n cynnwys Gareth Bonello, John Nicholas ac Aled Rheon ynghyd â nifer o gomediwyr.
Cân: ‘Tyrd Awn i Ffwrdd’ – Mei Gwynedd
Mae Mei Gwynedd yn lansio ei albwm unigol cyntaf, Glas, yn y Galeri, Caernarfon wythnos nesa. Mae Y Selar eisoes wedi dathlu hynny trwy gynnig gwrandawiad cyntaf o’r trac i chi ar yn ddiweddar, ‘Ffordd y Mynydd’, a llongyfarchiadau i Robert Bruce (@ydysgwraraf) ar ennill ein cystadleuaeth arbennig!
Ychydig cyn i ni ddatgelu ‘Ffordd y Mynydd’ i glustiau’r byd, mi wnaeth Ochr 1 gyhoeddi fideo ar gyfer trac arall o’r albwm newydd, ‘Tyrd Awn i Ffwrdd’…ac mae hon yn drac bach hafaidd neis sy’n cyd-fynd yn berffaith â’r penwythnos heulog sydd o’n blaenau.
Record: Tawel yw’r Tymor – Geraint Jarman
Mae wedi bod yn wythnos arwyddocaol i hoelion wyth cerddoriaeth gyfoes Gymraeg. Yn gyntaf newyddion ardderchog am albwm newydd Ail Symudiad (mwy isod), ac yna newyddion da pellach o senglau newydd sbon gan Geraint Jarman.
Fe gyhoeddodd label Ankstmusik bod sengl ddwbl ar y ffordd gan Jarman yn fuan iawn. Yn wir, bydd ‘Addewidion / O Fywyd Prin’ allan ar 6 Gorffennaf…ac yn fwy cyffrous fyth, dim ond tamaid i aros pryd fydd y sengl nes rhyddhau albwm cyfan ddiwedd mis Gorffennaf! Bendi-blwmin-gedig.
Os ydach chi wedi bod yn gwrando ar Radio Cymru gyda’r hwyr wythnos yma, yna mae’n bosib eich bod wedi clywed y traciau newydd – chwaraewyd ‘Addewidion’ ar y tonfeddi am y tro cyntaf ar raglen Lisa Gwilym nos Fercher, ac yna nos Iau ar raglen Huw Stephens roedd cyfle cyntaf i glywed ‘O Fywyd Prin’.
Bydd nifer ohonoch yn cofio i Geraint Jarman ennill Gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar llynedd, yn dilyn rhyddhau ei albwm diwethaf, Tawel yw’r Tymor. Dyma flas o’r albwm i’ch hatgoffa o ba mor ardderchog oedd ei gampwaith diweddaraf:
Artist: Ail Symudiad
Mae’r grŵp o Aberteifi, Ail Symudiad, wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhyddhau albwm newydd sbon ar 9 Gorffennaf.
Heb os, dyma i chi un o’r grwpiau Cymraeg pwysicaf o’r hanner canrif diwethaf, ac maen nhw’n nodi 40 mlynedd ers ffurfio eleni. Fe arloesodd y grŵp gyda’i sŵn oedd wedi’i ddylanwadu arno gan pync a thon newydd, pan ddaethon nhw i’r amlwg ar ddiwedd y 1970au. Aeth yr aelodau craidd, y brodyr Wyn a Richard Jones, ymlaen i ffurfio label Recordiau Fflach ym 1981, ac mae’r label wedi gwneud cyfraniad mawr i gerddoriaeth Gymraeg ers hynny.
Byddan nhw’n perfformio wythnos nesaf fel un o brif atyniadau Gŵyl Nôl a Mla’n yn Llangrannog…a dyna chi ŵyl fach hyfryd ydy honno! Er nad yw’r albwm allan yn swyddogol nes dydd Llun y 9fed, mae ‘na dderyn bach o’r enw Richard wedi dweud wrth Y Selar y bydd copïau ar gael yn Llangrannog – ewch draw i fachu un.
Yn y cyfamser, dyma sengl cyntaf y grŵp ‘Whisgi a Soda’ a ryddhawyd ar label Sain ym 1980.
Un peth arall: Fideo Mei Emrys…
Mae ‘na lwyth o fideos cerddoriaeth wedi eu rhyddhau hyd yma eleni, ac un boi sy’n gwbod ambell beth am gyhoeddi fideos llwyddiannus ydy Yws Gwynedd.
Ond, fydd Yws ddim yn ennill teitl ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’ Gwobrau’r Selar am y bedwaredd flwyddyn yn olynol gan fod 2018 yn flwyddyn hesb iddo o safbwynt ei gerddoriaeth ei hun. Wedi dweud hynny, mae label Yws, Côsh yn cael blwyddyn hynod o fywiog, ac mae fideos ar gyfer caneuon dau o artistiaid y label yn cael eu rhyddhau heddiw.
Yn gyntaf, gallwch weld fideo newydd Rhys Gwynfor ar gyfer y gân ‘Capten’ ar lwyfannau digidol Ochr 1 rŵan:
Ac yn ail, mae fideo newydd Mei Emrys ar gyfer y gân ‘Goleudy’ i’w weld am y tro cyntaf heddiw ar wefan Gymraeg y Llywodraeth. Cwmni Amcan, sef cwmni Dafydd Huws Cowbois Rhos Botwnnog, sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r fideo, ac fe’i saethwyd gan Daf mewn dau leoliad sef Capel Engendi, Caernarfon a thraeth Llanddwyn yn ystod y gwanwyn eleni.
Mwynhewch…