Mae’n benwythnos y Pasg, ac mae digon o bethau cerddorol i ddod â dŵr i’ch dannedd fel nad oes angen wy Pasg arnoch chi…
Gig: Y Reu, Jacob Elwy a’r Trŵbz, Serol Serol – Clwb Rygbi Nant Conwy, Llanrwst
Mae ‘na dipyn o gigs da penwythnos yma, ac yn sicr ‘chydig o sdwff nad ydech eisiau colli, gan gychwyn efo rhagbrawf Brwydr y Bandiau Caerdydd, gyda Chroma yn cloi’r noson yng Nglwb Ifor Bach, Caerdydd heno am 19:00.
Yn Abertawe heno mae Heather Jones yn perfformio fel rhan o Tyrfe Tawe yn Nhŷ Tawe. Nos fory, 31 Mawth, mae Fleur De Lys, Beth Celyn, Megan.Gwen.Ruth yng Nghlwb Rygbi Dinbych, Dinbych 20:30.
Hefyd nos Sadwrn mae Pwyllgor Maes B Sir Conwy 2019 yn cyflwyno: Y Reu, Jacob Elwy a’r Trŵbz a Serol Serol yng Nghlwb Rygbi Nant Conwy, Llanrwst am 19:30, gydag elw’n mynd at ‘Sdeddfod Genedlaethol Llanrwst 2019.
A hithau’n benwythnos hir y Pasg, ar nos Lun 2 Ebrill mae Band Pres Llareggub a llawer mwy yn perfformio yn Nhŷ Pawb, Wrecsam.
Cân: Atgenhedlu – Twinfield
Mae Recordiau Neb wedi rhyddhau casét diweddaraf gan yr artist electroneg amgen Twinfield.
Dyma seithfed cyhoeddiad y label, sydd hefyd yn gartref i Ani Glass wrth gwrs. Mae’r casét diweddaraf yn cynnwys dau drac gan Twinfield sef ‘Atgenhedlu’ a ‘Kim Kardashian’. Mae’r label hefyd wedi datgelu bod cod lawr lwytho arbennig gyda phob copi o’r casét ar gyfer trac cudd.
Rydan ni wrth ein bodd gydag ‘Atgenhedlu’, sef efallai cân orau Twinfield ers yr ardderchog ‘I Afael yn Nwylo Duw’ a ryddhawyd ddiwedd 2016.
Artist: Phalcons
Mae manylion sengl newydd gan Phalcons wedi eu cyhoeddi yr wythnos yma gan label Libertino. Dyma’r ail sengl i’w rhyddhau gan Phalcons, gan ddilyn ‘Idle Ways’ a oedd yn ddatganiad o sŵn ‘psych folk’ unigryw y band.
‘Swim Away’ yw’r sengl newydd ganddynt sydd allan yn swyddogol ar 27 Ebrill, a dywed Libertino “o gord cyntaf ‘Swim Away’ mae’n hawdd eto suddo i fyd breuddwydiol y band”.
Dywed Ben Ellis – canwr a phrif gyfansoddwr y band sy’n gyn-aelod o Sen Segur – am y gân freuddwydiol:
‘’R’on i yn symud tŷ ar y pryd, allan o’r tŷ lle’m magwyd ac r’on i yn anfodlon gadael fynd. Mae’n rhaid bod hyn wedi dylanwadu ar y mreuddwydion oherwydd yn yr wythnos gyntaf cefais y freuddwyd fyw iawn yma (“Little did i know that i was lying in my bed / my body’s here so my mind is going home instead”).
“Allai ddim dweud wrthoch chi lle o’n i ond roedd ar ryw draeth yn rhywle. Cerddais allan i’r môr a chychwyn nofio. Doedd gennai ddim syniad i lle ond r’on i yn gwybod os y daliwn i nofio yn yr un cyfeiriad y byddwn yn cyrraedd lle r’on i angen bod. Adre hwyrach?’
“Mae ‘Swim Away’ yn rhannol am hiraethu a deisyfu am ddiogelwch cyfarwydd synau a lluniau plentyndod tra ar y llaw arall yn edrych ymlaen at be sydd ar y gorwel. Antur y diarwybod.”
Mae’r trac ar gael erbyn hyn yn ddigidol ar Soundcloud Libertio.
Record: Rhwng y Môr a’r Mynydd – Artistiaid Sesiynau Sbardun
Bydd albwm aml gyfrannog gan Sain yn cael ei ryddhau 6 Ebrill, fel teyrnged ysbrydoledig i’r cerddor Alun “Sbardun” Huws.
Casgliad o ganeuon hen a newydd gan gyfeillion a cherddorion ifanc sydd wedi derbyn ei offerynnau fel rhan o’i ewyllys ydy hwn. Roedd yr artistiaid fu’n rhan o’r gyfres ‘Sesiwn Sbardun’ ar raglen Lisa Gwilym ar BBC Radio Cymru wedi derbyn un o offerynnau Sbardun, a’r offerynnau hynny sy’n gyfeiliant i’r perfformiadau ar y casgliad yma gan Sain.
Yr artistiaid sydd wedi cyfrannu at y casgliad ydy Brigyn, Cowbois Rhos Botwnnog, Osian Huw Williams, Elidyr Glyn (Bwncath), Gai Toms, Gwilym Bowen Rhys, Magi Tudur, Mei Gwynedd, Elin Fflur, Linda Griffiths, Dewi Pws, Ar Log a Parti Cut Lloi.
Gallwch wrando ar glip byr o ambell gân o’r casgliad ar Instagram Sain.
Un o’r caneuon ar y casgliad ydy fersiwn Cowbois Rhos Botwnnog ac Osian Williams o’r anhygoel ‘Strydoedd Aberstalwm’ a dyma nhw’n chwarae hi’n fyw ar Stiwdio Gefn yn 2015:
Un o'r pethe o'n i ofn gyffwrdd ag o, ond mor falch o'r canlyniad – Strydoedd Aberstalwm – https://t.co/xhisGqqNqS
— Branwen Williams (@Bransbrings) December 19, 2015
Un peth arall: Cyhoeddi lein-yp Gig y Pafiliwn 2018
Nos Fercher fe gyhoeddwyd pwy fydd yn chwarae’n un o nosweithiau cerddorol mwyaf y flwyddyn yma yng Nghymru.
Mae Gig y Pafiliwn wedi bod yn uchafbwynt yr Eisteddfod i nifer dros y ddwy flynedd ddiwetha’, ac am y trydydd tro mae’n dychwelyd ‘leni gyda lein-yp anhygoel, sef Band Pres Llareggub ac un gerddorion pwysicaf yr hanner canrif diwethaf, Geraint Jarman. Byddant wrth gwrs yn perfformio i gyfeiliant y Welsh Pops Orchestra, a bydd ein trysor cenedlaethol, Huw Stephens yn cyflwyno’r noson eto ‘leni.
Nos Fawrth 7 Awst fydd dyddiad y noson yn ‘Steddfod Caerdydd, a bydd modd bachu tocyn o nos Fawrth yma ymlaen, 3 Ebrill. Cofiwch bod y cyfan wedi gwerthu allan ymhen rhai oriau llynedd felly gwell peidio oedi. Bydd modd eu prynu o wefan yr Eisteddfod ddydd Mawrth.