Gig: Candelas, Mellt, Y Cledrau – Neuadd Buddug, Y Bala – 30/11/18
Braf gweld penwythnos arall bywiog o ran digwyddiadau byw.
Mae’r cyfan yn dechrau gyda’n prif ddewis ni yr wythnos yma, sef gig olaf Aelwyd Penllyn yng Neuadd Buddug, Y Bala. Mae’r Neuadd eiconig sydd wedi chwarae rhan mor amlwg yn hanes un o grwpiau mwyaf Cymru, Candelas, ynghyd â grwpiau eraill yr ardal yn cau ei drysau a bydd y gig nos fory’n barti addas i ffarwelio. Pwy ond Candelas i hedleinio, ond gyda chefnogaeth anhygoel ar ffurf dau o fandiau mwyaf 2018 – Mellt ac Y Cledrau. Chwip o leinyp.
Mae gigs eraill nos Wener yn go wahanol eu naws! Bydd Celt yn Saith Seren, Wrecsam heno – gig prin gan y grŵp o Fethesda. Mae gwr arall sy’n byw bellach yn ardal Bethesda, yn nôl yn nes at ei gynefin yn y De Orllewin heno hefyd – bydd Welsh Whisperer yn gwneud eu wneud yn Y Porth, Llandysul.
Llwyth o gigs i ddewis ohonyn nhw nos Sadwrn hefyd.
Dau gig i Adwaith yng Nghaerfyrddin – un i lansio eu halbwm yn siop recordiau Tangled Parrot yn y prynhawn, cyn iddyn nhw fentro lawr y grisiau i Y Parot ar gyfer llwyfannu y diweddaraf o’u gigs Femme gyda’r hwyr – leinyp gwych sy’n cynnwys HMS Morris, Ani Glass, DJ Patblygu ymysg eraill.
Clamp o gig da yn yr Andrew Buchan Bar yng Nghaerdydd nos Sadwrn hefyd gyda Chroma, Marged a Rhys Dafis – un o gigs #DatganoliDarlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Mae Mellt, band prysura’ 2018 bron yn sicr, yn gigio eto nos Sadwrn yn Nhŷ Pawb, Wrecsam. Mae Sundance Kid ac un o artistiaid mwyaf addawol Cymru, Lewys yn cefnogi.
Bydd Gogs yn gigio eto yn Yr Wyddgrug, tra bod rhywbeth gwahanol iawn yng Nghaffi Cletwr ger Aberystwyth nos Sadwrn ar ffurf ‘Gadael Tir’ gydag Owen Shiers a Gwilym Morus Baird.
Lot o stwff da – gwych iawn pawb!
Cân: ‘Jaanus – Ilu
Bydd rhai sy’n darllen yn cofio y grŵp krautrock dirgel Ilu yn rhyddhau eu sengl gyntaf, ‘Graffiti Hen Ewrop’ nôl ym mis Gorffennaf eleni.
Y newyddion da ydy bod ail sengl ar y ffordd gan Ilu, unwaith eto ar label Recordiau Libertino, cyn y Nadolig.
‘Jaanus’ ydy enw’r trac newydd ac fe’i rhyddheir yn ddigidol ar 14 Rhagfyr.
Yn ôl y band, mae ‘Jaanus’ yn ymdrin â “cholled a galar sy’n dwyn y geiriau sy’n disgrifio’ch teimladau. Mae ‘Jaanus’ yn gân am estyn dwylo a dod at ein gilydd. Mae’n gân am gariad sydd methu marw.”
Fel ‘Graffiti Hen Ewrop’ dechreuwyd ar y recordio yn Tallinn, Estonia a gorffennwyd y recordiad gan Tim Lewis (Spiritualized, Julian Cope, Coil) yn Aerial Studios yn Sir Gaerfyrddin.
Mae Recordiau Libertino eisoes wedi cyhoeddi’r trac i’w ffrydio ar Soundcloud, ac rydan ni’n hoff iawn o hon. Mwynhewch:
Record: Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc – Mellt
Ok, mae’r albwm yma allan er sbel, ac mae eisoes wedi cael tipyn o sylw yma ar dudalennau gwefan Y Selar.
Ond, mae albwm cyntaf Mellt yn un o recordiau hir gorau 2018 ac mae’r ffaith i Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc gipio teitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn y Steddfod, a chyrraedd rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn cadarnhau hynny.
Mae’n llawn o diwns cofiadwy sy’n adlewyrchu’r sŵn roc unigryw mae Mellt wedi mireinio dros flynyddoedd o gigio’n rheolaidd ac aeddfedu.
Gellir dadlau mai unig wendid yr albwm ydy mai rhyddhau’n ddigidol yn unig wnaed nôl ym mis Ebrill eleni, a’r gwir plaen amdani ydy bod y casgliad yn haeddu llawer gwell na hynny. Mae’n haeddu bod ar silff, yn cael ei hestyn i’w chwarae’n rheolaidd am flynyddoedd i ddod.
Mae’r Selar wedi bod yn lobio dros ryddhau fersiwn feinyl o’r record arbennig yma…dydan ni ddim cweit wedi llwyddo, ond y newyddion ardderchog ydy bod fersiwn CD ar y ffordd yn fuan iawn ar JigCal. Wythnos i heddiw ar 7 Rhagfyr i fod yn fanwl gywir, ac ar dystiolaeth y lluniau rydan ni wedi gweld, mae’r gwaith celf yn edrych yn wych!
Nifer cyfyngedig o gopïau fydd ar gael, i’w prynu o siopau neu gigs yn unig – ia, dim modd prynu ar-lein credwch neu beidio! Da de.
Un o hits mwyaf yr albwm ydy’r trac ‘Rebel’, a dyma’r fideo:
Artist: Mei Gwynedd
Mae 2018 yn datblygu i fod yn flwyddyn gynhyrchiol i Mei Gwynedd.
Nid yn unig mae o wedi bod yn gyfrifol am recordio a chyhoeddi llwyth o gerddoriaeth bandiau ifanc Caerdydd (…ac Aberystwyth, gweler uchod…) ar ei label JigCal, mae o hefyd wedi ffeindio amser i gyhoeddi llwyth o gerddoriaeth ei hun!
Yn gynharach eleni fe ryddhaodd Mei, sy’n gyn-aelod o Beganifs, Big Leaves, Sibrydion, The Peth ac Endaf Gremlin, ei albwm unigol cyntaf – Glas. Roedd Y Selar yn ddigon ffodus i allu rhoi cyfle cyntaf i chi glywed y sengl ‘Ffordd y Mynydd’ yma ar ein gwefan ym mis Mehefin.
Yn amlwg tydi rhyddhau albwm ddim yn ddigon mewn blwyddyn i Mei, a heddiw mae wedi rhyddhau ei sengl newydd sbon.
Enw’r trac newydd ydy ‘Tafla’r Dis’ a lle roedd Glas yn llawn o gerddoriaeth acwstig, hunangofiannol, mae Mei yn dychwelyd i’w wreiddiau roc a rôl gyda’r sengl newydd.
Y newyddion da pellach ydy y gallwn ddisgwyl mwy o gerddoriaeth newydd ar ôl ‘Taflu’r Dis’ gan mai dyma’r trac cyntaf i’w datgelu o EP newydd mae Mei yn bwriadu rhyddhau yn fuan yn y flwyddyn newydd.
Does dim sôn am fideo ar gyfer y sengl newydd hyd yma, ond mae’n ddigon o esgus i ni ddangos fideo ‘Tyrd Awn i Ffwrdd’ eto…
Un peth arall…: Cyhoeddi rhifyn newydd Y Selar
Newyddion da o lawenydd mawr…na, tydan ni ddim yn ymarfer ar gyfer cyngerdd Nadolig yr ysgol…yn hytrach, y newyddion ardderchog ydy bod rhifyn newydd sbon danlli o gylchgrawn Y Selar wedi’i gyhoeddi wythnos yma!
Fe ddylai copïau fod wedi cyrraedd y mannau arferol eisoes, neu maen nhw’n sicr ar y ffordd – gwnewch yn siŵr eich bod yn bachu un.
Mae’r rhifyn diweddaraf yn cynnwys cyfweliadau gydag Al Lewis a Mr ar ôl i’r ddau ryddhau eu albyms newydd dros yr hydref, ynghyd â sgwrs sydyn gyda Lleunwen. Mae sylw arbennig i label Sbrigyn-Ymborth, a hefyd cyflwyniad i Blind Wilkie McEnroe yn Ti Di Clywed.
Yn ôl yr arfer mae adolygiadau o’r holl recordiau diweddaraf, a hefyd colofn crafog gan y Welsh Whisperer…na, o ddifrif, mae’n gofyn cwestiynau caled a rhoi ambell gic!
Os nad oes modd i chi gael gafael ar gopi print o’r Selar yna gallwch wastad droi at y fersiwn digidol sydd wedi’i gyhoeddi ar-lein yn barod.
Joiwch, a byddwch lawen.