Gig: Breichiau Hir, Los Blancos, Papur Wal a mwy – Llwyfan Libertino, Fringe Abertawe 6/10/18
Roedd penwythnos diwethaf yn un cymharol dawel o ran gigs, ac er nad oes unrhyw ddigwyddiadau enfawr y penwythnos yma, mae ychydig bach mwy ar y gweill.
Mae cyfle i weld cwpl o’r hoelion wyth heno (nos Wener) gyda Huw Chiswell yn perfformio yn Y Drwm yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, yn ogystal ag Ail Symudiad gyda chefnogaeth gan Lowri Evans yng Nghlwb Canol Dre Caernarfon.
Bydd yn benwythnos prysur i’r Gogs wrth iddyn nhw berfformio heno a nos Sadwrn – heno maen nhw yn The Vaults yn Rhiwabon ger Wrecsam, cyn perfformio nos fory yn The White Bear, Queensferry.
Ein prif ddewis ni yr wythnos hon ydy llwyfan label recordiau Libertino yng Ngŵyl Fringe Abertawe ddydd Sadwrn. Gallwch ganfod y llwyfan yn The Bunkhouse yn Abertawe, ac mae Breichiau Hir, Los Blancos, Papur Wal a’r Keys ymysg yr enwau fydd yn perfformio.
Cân: ‘Camu’n Ôl’ – Lewys
Ambell sengl fach newydd o ddiddordeb allan heddiw, ond doedd ond un opsiwn go iawn ar gyfer ein dewis o gân yr wythnos hon.
Ddydd Mawrth cafodd Y Selar y fraint ac anrhydedd o gyflwyno sengl newydd Lewys i’r byd, gyda’r cyfle cyntaf i wrando ar ‘Camu’n Ôl’ yma ar wefan Y Selar.
Dyma drydedd sengl yr artist ifanc o Ddolgellau, sydd wedi rhyddhau ‘Yn Fy Mhen’ a ‘Gwres’ yn gynharach eleni. Rydan ni’n falch iawn o’r ffaith ein bod ni wedi darganfod Lewys yn fuan iawn yn ei yrfa – yn wir, fe wnaethon ni roi sylw i’w drac ‘Siren’ mor bell yn ôl â Medi 2016 yn y pedwerydd Pump i’r Penwythnos erioed! Mae wedi bod yn ddifyr dilyn ei ddatblygiad ers hynny.
Un arall sy’n amlwg yn dda iawn am sbotio talent ifanc ydy Yws Gwynedd, ac mae sengl newydd Lewys, fel y ddwy flaenorol, yn cael ei rhyddhau ar ei label, Recordiau Côsh. Mae artistiaid ifanc eraill y label, Gwilym ac Alffa, wedi cael cryn lwyddiant gyda chynnyrch diweddar, yn enwedig o safbwynt denu sylw a gwrandawiadau ar Spotify, ac rydan ni’n weddol ffyddiog bydd y sengl newydd gan Lewys yn denu sylw tebyg.
Record: ‘Ni oedd y Genod Droog’ – Genod Droog
Naid i mewn i’r archif ar gyfer ein record yr wythnos yma, a naid yn ôl bron union 10 mlynedd!
Rhyddhawyd unig albwm Genod Droog yn Awst 2008, gyda’r lansiad swyddogol ddiwedd Medi, a hynny ar ddiwedd bywyd y band oedd wedi sefydlu eu hunain fel un o fandiau byw gorau’r cyfnod, gyda dim ond Frizbee yn dod yn agos mewn gwirionedd.
Roedden nhw wrthi’n gigio’n rheolaidd ers 2005, ac wedi denu dilyniant yn gyflym diolch i’w statws fel bach o siwpyr grŵp. Roedd Dyl Mei ac Ed Holden wedi cael llwyddiant gyda Pep le Pew cyn hynny, y drymiwr Gethin Evans yn aelod o un o grwpiau mawr eraill canol y dim-dimau, Kentucky AFC, ac Aneirin Karadog yn gyfarwydd fel bardd a rapiwr aml-ieithog. Y pumed aelod craidd oedd Carwyn Jones, oedd wedi bod yn DJio dan yr enw Kim de Bills, a sydd bellach yn fwy adnabyddus fel y boi bwshcrafft, Y Dyn Gwyllt. Yn ymuno’n achlysurol yn hwyrach yn oes y band hefyd oedd neb llai na ffotograffydd Y Selar, Betsan Haf Evans (Celf Calon).
Mae adolygiad o’r albwm yn rhifyn Hydref 2008 o’r Selar.
Mae’n debyg mai’r bwriad o’r dechrau oedd sefydlu’r band fel band byw, ac yna rhyddhau albwm wrth i’r grŵp chwalu. Tacteg eithaf unigryw, gydag elfen o risg o safbwynt hyrwyddo’r albwm ond tacteg lwyddiannus a does dim amheuaeth fod y casgliad yn un o glasuron yr iaith Gymraeg dros y dau ddegawd diwethaf.
Mae’r band hefyd yn rhannol gyfrifol am gynhyrchu un o glasuron eraill cerddoriaeth Gymraeg gyfoes ar ffurf un o’r fideos gorau rydan ni wedi gweld. Byddai’r band yn siŵr o ddadlau mai’r cyfarwyddwr Daf Palfrey sy’n bennaf gyfrifol am wychder y fideo cofiwch.
Dyma fideo ‘Dal ni Lawr’ ar gyfer cyfres Bandit, ac mae’n ardderchog:
Artist: Mr Phormula
A sôn am Ed Holden, ymlaen at ei brif brosiect ers Genod Droog…a teg dweud ein bod yn dipyn o ffans o Mr Phormula yma yn Selar Towyrs.
Mae cyfraniad y boi yma i rapio yn y Gymraeg a bît-bocsio yng Nghymru yn aruthrol – mae o fwy neu lai wedi bod yn cario hip-hop Cymraeg ar ei ysgwyddau bras dros y blynyddoedd diwethaf.
Mêl ar ein bysedd felly oedd gweld Hansh yn cyhoeddi ffilm ddogfen fer o daith Mr Phormula i Bencampwriaeth Bît-bocsio y Byd (Beatbox Battle) yn ddiweddar.
Teithiodd Mr Phormula i ddinas Berlin yn Yr Almaen i gynrychioli Cymru yn y Bencampwriaeth oedd yn cael ei chynnal ddechrau mis Awst eleni, ac mae’n grêt ei weld yn cael rhywfaint o sylw a chydnabyddiaeth ynglŷn â hyn.
Mae’r ffilm ddogfen fer yn dilyn ein daith i’r Almaen ar gyfer y gystadleuaeth ryngwladol sy’n digwydd pob tair blynedd, ac yn denu cannoedd o fît-bocswyr gorau’r byd i gystadlu.
Dim ond 4 munud o hyd ydy’r ffilm, ac mae’n sicr yn haeddu pedair munud o’ch amser.
Un peth arall…: Gigs Mewn Llyfrgelloedd!
Prosiect mae’r Selar wedi bod yn gweithio arno dros yr wythnosau diwethaf ydy helpu trefnu cwpl o gigs bach gwahanol fel rhan o Wythnos Llyfrgelloedd.
Mae Wythnos Llyfrgelloedd yn ddigwyddiad blynyddol, ac yn gyfle i ddathlu’r trysorau cymunedol hynny sy’n cael eu cymryd mor ganiataol. Mae’n digwydd wythnos nesaf, 8-13 Hydref.
Os oeddech chi’n meddwl mai llefydd bach tawel oedd llyfrgelloedd, wel meddyliwch eto, ac mae’r hyn rydan ni wedi partneriaethu gyda Gorwelion a threfnwyr yr wythnos i’w gynnal yn sicr o brofi i’r gwrthwyneb.
Ar ddydd Gwener 12 Hydref gallwch ddal Eadyth a Seazoo yn perfformio yn Llyfrgell Llandudno, a’r diwrnod canlynol mae I See Rivers ac Eadyth unwaith eto yn chwarae yn Llyfrgell y Glowyr yn Abertawe.
Y nos ydy gwneud Sŵn Rhwng y Silffoedd, ac mae croeso i chi ymuno â ni ar gyfer y gigs unigryw yma. Mae tocynnau’n rhad ac am ddim, ond gwell archebu eich tocyn ymlaen llaw ar Eventbrite.