Pump i’r Penwythnos 6 Gorffennaf 2018

Gig: Gŵyl Nôl a Mla’n – Llangrannog – Gwener a Sadwrn

Mae wedi bod yn gyfnod digon bywiog o ran gigs, ond mae’r penwythnos yma ychydig i dawelach o ran niferoedd o leiaf. Os nad oes cymaint o gigs, yn sicr mae’r safon yn ddigon uchel.

Nos Wener mae Mei Gwynedd yn lansio ei albwm unigol cyntaf, Glas, mewn gig arbennig yn y Galeri Caernarfon. Mae Gwilym yn cefnogi, a hwythau’n rhyddhau eu sengl diweddaraf fory hefyd.

Mae’r gig Femme diweddaraf yn digwydd Y Parrot, Caerfyrddin nos Sadwrn – dyma’r nosweithiau sy’n cael eu trefnu gan genod Adwaith, a nhw sy’n hedleinio gyda chefnogaeth gan yr ardderchog Rufus Mufasa a Sarah McCreadie.

Mae Trwbz wedi bod yn fywiog dros yr wythnosau diwethaf, ac mae cyfle arall i’w dal nhw yng Ngŵyl Gwrw Mawddwy nos Sadwrn.

Amhosib i ni edrych tu hwnt i bentref glan môr hyfryd Llangrannog am ein prif ddewis o gig penwythnos yma, sef Gŵyl Nôl a Mla’n. Mwy na thebyg, dyma’r ŵyl sy’n meddu ar y lleoliad mwyaf godidog yng Nghymru, ac mae’r lein-yp yn edrych yn wych eto eleni. Ail Symudiad ydy prif atyniad nos Wener, gyda’r Cledrau, Los Blancos a Bwca yn cefnogi.

Ymysg uchafbwyntiau dydd Sadwrn mae Mei Gwynedd, Omaloma, Y Niwl, Patrobas a neb llai na Geraint Jarman yn cloi y penwythnos.

 

Cân: Angen Ffrind – Yr Eira

Mae’r Steddfod yn y ddinas eleni, ac un o’r atyniadau mawr ym Mae Caerdydd fydd perfformiad Diffiniad i gloi Llwyfan Perfformio’r maes ar y nos Wener.

Y band sy’n cloi Maes B ar nos Sadwrn yr Eisteddfod eleni ar y llaw arall ydy Yr Eira, ac maen nhw wedi talu teyrnged fach i Diffiniad trwy recordio cyfyr gân orau’r grŵp.

Ynghyd â’u fersiwn nhw o ‘Calon’ gan Injaroc, mae’n siŵr mai ‘Angen Ffrind’ ydy cân amlycaf Diffiniad, ac mae fersiwn Yr Eira’n ardderchog.

 

Artist: Wigwam

Rydan ni wedi bod yn cadw golwg fanwl ar Wigwam ers i ni eu darganfod nhw gyntaf yn Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont llynedd.

Ac mae datblygiad y grŵp o Ysgol Plasmawr dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn wych i’w weld – roedd eu set ar lwyfan perfformio Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd eleni’n dangos aeddfedrwydd newydd, ac fe wnaethon nhw greu tipyn o argraff wrth berfformio i ni yn gig nos Ffiliffest yr wythnos ganlynol.

Maen nhw hefyd wrth gwrs yn un o’r grwpiau fydd yn cystadlu yn rownd derfynol Brwydr y Bandiau ar eu hôm patsh yng Nghaerdydd fis Awst.

A heddiw, mae’r grŵp yn rhyddhau eu sengl gyntaf, ‘Mynd a Dod’, ar label JigCal, gydag albwm i ddilyn yn fuan yn ôl pob tebyg.  Gallwch ffrydio a lawr lwytho’r sengl o’r mannau arferol.

Dyma fideo bach DIY gan y band o’r sengl newydd:

 

Record: Sombreros yn y Glaw – Anweledig

Bach o nostalgia yn ein dewis o record yr wythnos, a chyfle i deithio nôl union 20 mlynedd i 1998.

1998 oedd blwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-Bont ar Ogwr – dim ond ail flwyddyn Maes B, a Chymdeithas yr Iaith yn gyfrifol am y trefniadau bryd hynny wrth gwrs. Un o fandiau’r foment, ac un o fandiau’r Eisteddfod heb os oedd Anweledig gyda chaneuon eu halbwm cyntaf Sombreros yn y Glaw i’w Clywed ym mhobman.

Mae ‘Daws y Glaw’, ‘Eisteddfod’ a ‘ Chwarae Dy Gêm’ o’r albwm hwnnw wedi hen ennill eu lle ar y rhestr chwarae ‘clasuron Cymraeg’.

Ac oni bai eich bod chi wedi bod yn cuddio mewn ogof ers cwpl o wythnosau, byddwch yn gwybod bod Anweledig yn ôl ac yn perfformio yng Ngŵyl Car Gwyllt wythnos nesaf, a Sesiwn Fawr Dolgellau yr wythnos ganlynol.

Gallwch ddarllen mwy am atgofion rhai o ffans mwyaf Anweledig yn rhifyn diweddaraf Y Selar.

Mae ganddom ni ryw gof o fideo gwych ar gyfer cân orau’r albwm, ‘Chwarae Dy Gêm’, ond does dim golwg ohono ar YouTube yn anffodus. Cofiwch chi, di’r fideo yma ar gyfer ‘Daws y Glaw’ ddim yn ffôl!

 

Un peth arall: Adwaith yn hedfan!

Does dim amheuaeth bod Adwaith ar y ffordd i fyny ers peth amser, ac mae un o’u caneuon wedi cyrraedd yr uchelfannau’n llythrennol!

Does wybod sawl gwaith mae ‘Fel i Fod’ wedi’r ffrydio ar Spotify erbyn hyn, ac mae penderfyniad  Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ddefnyddio’r trac ar eu fideo diweddar i ddathlu llwyddiant tîm pêl-droed merched Cymru wedi ychwanegu at ei phoblogrwydd.

Rŵan, bydd modd i deithwyr British Airways glywed y gân wrth iddyn nhw deithio’r byd! Mae’r gyflwynwraig Tina Edwards wedi cynnwys ‘Fel i Fod’ ar ei restr chwarae ar ei sioe ‘Next Big Thing’ sy’n cael ei ddarlledu gan y cwmni hedfan.

Oes ‘na unrhyw beth all stopio’r triawd yma erbyn hyn?