Pump i’r Penwythnos – 7 Rhagfyr 2018

Gig: Ysgol Sul, Los Blancos, Castro, Argrph

Lot o gigs bach da penwythnos yma wrth i ni gyrraedd tymor y partïon Nadolig.

Mae parti Nadolig un o brif hyrwyddwyr y flwyddyn, Twrw, yng Nghlwb Ifor Bach heno gyda Los Blancos, Y Sybs a Hull.

Mae Gruff Rhys yn parhau a’i daith hirfaith gan ymweld â Wrecsam heno, a lleoliad newydd ‘The Live Rooms’ sydd wedi agor ar safle’r lleoliad eiconig blaenorol, Yr Orsaf Ganolog. Mae’r tocynnau wedi hen werthu i gyd, felly peidiwch troi fyny heb un.

Mae gŵyl flynyddol Llanast Llanrwst yn dathlu pymtheg mlynedd fory gyda setiau cerddorol yn nifer o dafarndai’r dre – mae Gwilym Bowen Rhys ac Elidir Glyn yn y New Inn; Cam Gwag yn y Llew Coch; Ffracas ym Mhen y Bryn; a Pasta Hull yn yr Eagles.

Ein prif ddewis ni ydy gig ‘Libertino yn Cyflwyno’ yn Y Parot, Caerfyrddin nos Sadwrn. Bydd y lleoliad gigs ar dop Stryd y Brenin yn cau nos Calan, ond yn y cyfamser mae sawl lein-yp ardderchog i ffarwelio mewn steil. Ac mae hwn yn sicr yn agos at frig y rhestr. Dau o fandiau Recordiau Libertino, Los Blancos ac Argrph, a dau fand o’r ardal sydd wedi bod yn cadw’n ddigon tawel dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf – yr ardderchog Ysgol Sul, a Castro…band roc o Landeilo roedden ni’n meddwl oedd wedi chwalu.

Cwpl o gigs tafarndai nos Sadwrn i gloi. Bydd yr hynod brysur Gogs yn y Vaults yn Riwabon, a chyfle hefyd i ddal Gwibdaith Hen Frân yn y Llew Du, Pwllheli.

 

Cân: ‘Gwenwyn’ – Alffa

Mae cwpl o senglau newydd allan heddiw, gan gynnwys sengl Nadolig Ail Symudiad, ‘A Llawen Bydd Nadolig’, a’r diwn ddiweddaraf gan Los Blancos, ‘Cadw Fi Lan’.

Ond, dim ond un dewis oedd ar gyfer cân yr wythnos, heddiw, a honno’n gân sydd wedi creu hanes dros yr wythnos ddiwethaf trwy fod y gân Gymraeg gyntaf i’w ffrydio dros filiwn o weithiau ar Spotify.

Debyg nad oes angen i ni ddweud llawer mwy gan bod y stori wedi lledu ledled y wlad a thu hwnt, wrth i rai o bapurau newydd Llundain drafod llwyddiant Alffa, yn ogystal â rhaglen enwog Front Row ar Radio 4. Mae Alffa, a ‘Gwenwyn’, wedi rhoi cerddoriaeth Gymraeg ar y map a dangos bod modd i artistiaid Cymraeg gyrraedd cynulleidfa eang iawn os ydy’r tiwns yn ddigon da, a’r hyrwyddo’n effeithiol. Mae Tîm Selar yn falch iawn o lwyddiant y ddeuawd o Lanrug a ymddangosodd gyntaf yn y cylchgrawn nôl yn rhifyn Awst 2016.

Yn hynod amserol, os borwch chi drwy rifyn newydd Y Selar fe welwch fod erthygl nodwedd yn trafod yr union bwnc yma, gan gynnwys sylwadau gan Sion a Dion o’r grŵp.

Ac mae’r sylw i lwyddiant y gân ar Spotify wedi arwain at ddiddordeb ar lwyfannau eraill, gan gynnwys fideo ‘Gwenwyn’ ar YouTube sydd wedi’i wylio dros 7000 o weithiau ers i’r stori dorri. Be am roi hwb fach arall i’r ystadegau yna? Cliciwch y botwm chwarae isod rŵan

 

Record: Y Gorau Hyd yn Hyn – HyWelsh

Mae’n debyg y bydd y rhan fwyaf ohonoch chi’n gwybod pwy ydy HyWelsh. Ac os ddim, byddwch chi’n sicr yn gyfarwydd â’r naill aelod neu’r llall o’r ddeuawd!

HyWelsh ydy prosiect cydweithredol (deuawd) Hywel Pitts a Welsh Whisperer.

Ers tua dwy flynedd maen nhw wedi bod yn cyhoeddi cân gomedi bob hyn a hyn ar gyfer gwasanaeth Hansh, S4C, a’r rhan fwyaf o’r rhain wedi bod yn hynod boblogaidd – rhai wedi denu degau o filoedd o wylwyr.

Ac mae heddiw yn ddiwrnod arwyddocaol i’r ddeuawd wrth i label Tarw Du ryddhau eu halbwm cyntaf, sef Y Gorau Hyd yn Hyn. Mae enw’r casgliad awgrymu’r hyn y gallwn ddisgwyl, sef casgliad o bymtheg cân mae’r ddau wedi recordio ar gyfer Hansh rhwng 2016 a 2018. Ymysg y caneuon mwyaf poblogaidd mae ‘Quiche Lorraine’, ‘Tafodiaith’ ac ‘A470’.

Ac wrth i’r Blaid Lafur gyhoeddi mai Mark Drakeford ydy eu harweinydd newydd ddoe, mae’n debyg mai dyma’r diwn fwyaf amserol o’r cyfan – ‘Arweinyddiaeth Cryf’.

 

HyWelsh – Arweinyddiaeth Cryf

Gyda Carwyn Jones yn gadael mae angen Prif Weinidog newydd i Gymru!Dyma gynnig HyWelsh…

Posted by Hansh on Sunday, 29 April 2018

 

Artist:  Los Blancos

Amser am linc amheus rhwng ein dewis o gân ac artist wythnos yma….

Pa fand sy’n gyfrifol am ‘Gwenwyn’ a gyrhaeddodd filiwn ffrydiad Spotify wythnos yma?

Alffa.

Pwy yn ôl Alffa ydy un o brif ddylanwadau’r band?

Y ddeuawd blŵs trwm o’r Gorllewin, Tymbal.

Pa fand mae Emyr a Gwyn bellach yn aelodau ohono?

Los Blancos

…a digwydd bod mae Los Blancos yn gigio ddwywaith penwythnos yma, ac yn rhyddhau eu sengl ddiweddaraf, ‘Cadw Fi Lan’ heddiw. Ac os ydy’r sengl newydd hanner cystal â rhai o’r tiwns eraill maen nhw wedi rhyddhau dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’n mynd i fod yn stoncar.

Dyma fideo un o’r senglau hynny, ‘Clarach’, wedi’i gyfarwyddo gan Nico Dafydd:

 

Un peth arall…: Blwyddyn ers lansiad llyfr Y Selar

Dathliad pen-blwydd bach personol i ni yn Selar HQ heddiw, sef blwyddyn union ers lansio Llyfr Y Selar gan wasg Y Lolfa. A, credwch neu beidio mae dal modd i chi brynu ambell gopi o’r llyfr o hyd – anrheg Nadolig bach perffaith byddai rhai’n dweud.

Bydd y rhai sydd â chof da yn cofio bod y lansiad yn un reit arbennig, wrth i ni gynnal ‘Seiat yn Y Selar’ yng nghwmni Rhys Gwynfor, Yws Gwynedd a sawl ffrind arall yn selar y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Roedd yn lansiad unigryw, gan ei fod yn lansiad digidol – y llyfr Cymraeg cyntaf erioed i gynnal lansiad swyddogol ar Facebook Live! Ac fe wnaeth miloedd ohonoch chi ymuno â ni i ddathlu cyhoeddi’r llyfr, naill ai’n fyw, neu yn fuan iawn wedyn…mae’n dod ag atgofion melys i ni, a rhyw ddeigryn bach i’r llygad os ydan ni’n gwbl onest.

Esgus da felly i atgyfodi darllediad byw Seiat yn y Selar. Os wnewch chi ddim byd arall, neidiwch rhyw 5:30 munud mewn i wrando ar Yws yn gwneud perfformiad acwstig hyfryd o’i gan Nadolig, ‘Fy Nghariad Gwyn’ – mae’n siŵr o’ch rhoi chi yn y mŵd ar gyfer yr ŵyl!

Seiat yn y Selar

SEIAT YN Y SELAR: Y lansiad llyfr Cymraeg cyntaf o’i fath, gyda gwestai arbennig Yws Gwynedd – a mwy!

Posted by Y Selar on Thursday, 7 December 2017