Pump i’r Penwythnos 8 Mehefin 2018

Gig: Gig Ffiliffest – Chroma, Mellt, Wigwam Y Sybs – Castell Caerffili

Mae’n benwythnos arall prysur o ran gigs, a da o beth am hynny. Ein dewis ni o gig yr wythnos yma ydy Gig Nos Ffiliffest, sy’n digwydd yng nghastell eiconig Caerffili nos Sadwrn, ac mae Y Selar yn falch iawn i fod yn ran o’r trefniadau.

Mae Ffiliffest yn digwydd ers rhai blynyddoedd, gyda pheth cerddoriaeth yn ystod y dydd, ond mae hynny’n tyfu eleni gydag Y Sybs, John Nicholas, Mabli Tudur, Ragsy a Nantgarw ymysg y perfformwyr yn y prynhawn. Ond am y tro cyntaf eleni, bydd gig nos i ddilyn yr ŵyl gydag Y Sybs, Wigwam, Mellt a’r anhygoel Chroma yn barod i ysgwyd yr hen gastell i’w seiliau. Mae’n siŵr o fod yn glamp o noson i’w chofio.

Dyma beth arall sydd ar y gweill:

Gwener 8 Mehefin

Sadwrn 9 Mehefin

Sul 10 Mehefin

Cân: ‘Tyrd Awn i Ffwrdd’ – Mei Gwynedd

Wythnos diwethaf, fe ryddhawyd fideo i gân newydd Mei Gwynedd, ‘Tyrd Awn i Ffwrdd’, ar sianeli digidol HANSH ac Ochr 1.

Mae Mei wedi bod yn aelod o sawl band amlwg fel Beganifs, Big Leaves, Sibrydion ac Endaf Gremlin, ond bydd yn rhyddhau ei albwm unigol cyntaf, Glas, ar 29 Mehefin.

Bu Mei yn recordio a chynhyrchu ei holl stwff ei hun yng Nghaerdydd, a bydd yn cael ei ryddhau ar ei label ei hun hefyd, sef Recordiau Jigcal.

Cyfarwyddwyd y fideo newydd gan Dafydd Hughes/Amcan.

Hefyd, gwerth nodi yn eich dyddiaduron ddyddiad noson lansio’r albwm yn y Galeri, Caernarfon ar 6 Gorffennaf gyda’r band Gwilym yn cefnogi.

Mwynhewch:

Artist: Rhys Gwynfor

Mae cân newydd Rhys Gwynfor, sef ‘Capten’, yn cael ei rhyddhau’n swyddogol heddiw, 8 Mehefin.

Fe’i chwaraewyd am y tro cyntaf ar rhaglen Lisa Gwilym ar BBC Radio Cymru nos Fercher 29 Mai.

Mae Rhys yn gyfarwydd i ni fel y prif ganwr yn y band ‘Jessop a’r Sgweiri’ a gipiodd deitl Cân i Gymru yn 2013 gyda’r diwn ‘Mynd i Corwen efo Alys’.

“Roedd ‘Mynd i Corwen efo Alys’ yn gerbyd perffaith i arddangos sgiliau perfformio llesmeiriol Rhys, er mae’n rhaid nodi fod y gerddoriaeth mae’n ‘sgwennu ei hun yn bell o ‘twelve bar blues’ y gân honno” meddai PYST, sy’n hyrwyddo’r sengl.

Mae Rhys wedi bod yn gweithio fel artist unigol ers hynny, ac aeth ymlaen i recordio sesiwn Radio a rhyddhau dwy gân wych, ‘Bore Hir’ a ‘Colli’n Ffordd’, fel rhan o’r fenter Sesiynau Stiwdio Sain.

Mae dylanwadau Rhys yn ymestyn o Queen i Bowie, sydd falle’n  amlwg yn y ffordd mae’i ganeuon yn “symud o gordiau melys i rhai lletchwith, a hynny’n gwbl naturiol”.

Mae gwreiddiau ‘Capten’ mewn synth pop gyda chytgan bachog, “ond fel mae’r gwrandäwr yn cael ei sugno mewn i’r daith esmwyth, mae Rhys yn newid cyfeiriad y gân i dymhestloedd gwyllt môr stormus, mewn ‘middle 8’ a fuasai’n gartrefol mewn opera roc”.

 

Record: Candylion – Gruff Rhys

I ddathlu bod pumed albwm Gruff Rhys allan heddiw, sef ‘Babelsburg’, ar Rough Trade Records – mae’n braf edrych yn ôl ar y campweithiau unigol mae wedi eu rhannu hefo ni dros y blynyddoedd diwethaf. Fe ryddhawyd Candylion yn 2007, dros ddeg mlynedd yn ôl erbyn hyn, ac mae’n dal i fod yn albwm anhygoel.

Bydd Gruff yn chwarae â cherddorfa dydd Sul yma, 10 Mehefin, yn Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.

Mae’n gyfle unigryw i weld Gruff yn chwarae ei ganeuon gyda cherddorfa a bydd yr ardderchog H. Hawkline yn cefnogi. Ond tan wythnos nesa’, mwynhewch y chwip o record yma –

Un peth arall..: Ifan Dafydd yn rhoi cerddoriaeth ar ei SoundCloud

I chwi ffans amyneddgar Ifan Dafydd, mae’r athrylith wedi llwytho ‘chydig o ganeuon newydd ar ei SoundCloud wythnos diwethaf.

Fe lwythyd ‘Lisa’, ‘Lladd y Ddafad Goll’, ‘Crombil’ a  ‘Elidir’ ganddo yn ystod yr wythnos. Mae’r caneuon eisoes wedi denu llawer o wrandawiadau ar ei dudalen dim ond dros ychydig ddyddiau.

Un o ganeuon mwyaf poblogaidd Ifan Dafydd yw ‘Celwydd’ gydag Alys Williams yn canu ar y trac, a ryddhawyd ar y ‘Record Las’ yn 2013.

Dyma ‘Lladd Dafad Ddall’: