Gig: Gig ‘Steddfod Ryng-gol Llambed – Y Cledrau, Fleur De Lys, Gwilym a Dj Garmon
Mae penwythnos mwya’ gwallgof myfyrwyr Cymru wedi cyrraedd, sef penwythnos yr Eisteddfod Ryng-golegol. Os da chi’n chwilio am rywbeth i foddi’r bloeddiadau “Ni bia Aber”, ac ego’s maint Kanye West, mae gig perffaith wedi’i drefnu ar eich cyfer. Nos Sadwrn 10 Mawrth bydd Y Cledrau, Fleur De Lys, Gwilym a DJ Garmon yno i’ch diddanu – £10 ar y drws.
Ond cyn hynny, ar nos Wener 9 Mawrth mae Bryn Fôn yn gneud set awstig prin yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru am 19:30, ac os ydach chi ffansi trip i Fanceinion mae Gwenno ac Omaloma yn y Gullivers am 19:30 fel rhan o daith ‘Le Kov’ Gwenno. Maent hefyd yn y Brudenell Social Club yn Leeds nos Sadwrn.
Bydd Bryn Fôn yn gwneud noson yn y Market Hall, Caernarfon nos Sadwrn 10 Mawrth am 19:00, ac yn yr Hen Lyfrgell yng Nghaerdydd yr un noson bydd Mynediad am Ddim yn perfformio.
Yn deli Ultracomedia, Aberystwyth nos Sadwrn bydd Gwilym Bowen Rhys, Alaw Jones, Iestyn Tyne, Osian Morris a Nicolas Davalan yn perfformio mewn noson fach wahanol – tocynnau yn £10.
Yna, yn hwyrach yn yr wythnos mae cyfle i ddal Chroma’n chwarae ar nos Iau 15 Mawrth yn y Moon, Caerdydd gydag artistiaid eraill mewn gig dwyieithog.
Artist: Serol Serol
Mae’n fis mawr i’r band pop gofodol o Ddyffryn Conwy, gan eu bod nhw’n rhyddhau eu halbwm cyntaf (sy’n rhannu enw’r band) ar ddydd Gwener 23 Fawrth, ar Recordiau I KA CHING.
Ac mae heddiw’n ddiwrnod arbennig o gyffrous iddynt gan bod eu sengl newydd, ‘Arwres’, allan, gyda fideo Ochr 1 ar sianel Facebook HANSH i gyd-fynd â’r trac.
Os ydach chi’n pori trwy newyddion gwefan Y Selar yn rheolaidd, fe ddylech chi wybod erbyn hyn mai dwy gyfnither ydy craidd Serol Serol – sef Mali Siôn a Leusa Rhys – ac maent eisoes wedi rhyddhau dwy sengl yn 2017 sef ‘Cadwyni’ ac ‘Aelwyd’.
Maent yn cydweithio’n agos gyda George Amor (Omaloma, Sen Segur) a Llŷr Pari (Palenco, Omaloma), ac wedi creu cryn argraff gyda’r sŵn space pop, neu i ddefnyddio bathiad Cymraeg Y Selar, ‘pop gofodol’. Rhyddhawyd sengl arall ganddynt yn gynharach eleni, sef ‘K-TA,’ sydd wedi cael cryn dipyn o sylw, ac o’r diwedd mae eu halbwm yn barod i’w lansio fel “roced gerddorol i’n clustiau” ys dywed y datganiad gan I KA CHING.
Meddai Mali a Leusa:
“Deni’n eithaf newydd i’r sin ac ond wedi chware llond llaw o gigs, ond mae’r senglau wedi rhoi blas go dda i bawb o’r albwm.
“De ni wedi bod yn recordio’r albwm yn Stiwdio Glan Llyn, ac mae hi wedi bod yn broses rhyfedd, gan fod pawb ar wahân. Ond rhywsut, mae’r darnau wedi disgyn i’w lle.
“Mi fase’n ni’n disgrifio’r sŵn fel spacey neu groovy; eithaf gwahanol i beth sy’ yn y sin Gymraeg ar y funud. ‘De ni wedi dewis genre eithaf sbesiffig, ac yn ôl Huw Stephens, ‘de ni chydig bach fel y Beyonce Cymraeg!”
Fedrwch chi ddal Serol Serol yng Nglwb Rygbi Nant Conwy, Llanrwst ar 31 Mawrth ac yn gig Cloi Eisteddfod yr Urdd ar Faes Sioe Llanelwedd ar 2 Mehefin.
Dyma ‘Arwres’:
Cân: Bubblegum – Omaloma
Mae sengl newydd 7” Omaloma, ‘Bubblegum’, allan yn swyddogol heddiw ar Recordiau Cae Gwyn.
Roedd 2017 yn flwyddyn wych i Omaloma, ac mae’n argoeli bydd 2018 yr un mor gyffrous i’r grŵp pop gofodol arall o Ddyffryn Conwy.
Ar feinyl y rhyddheir y sengl, ynghyd â fersiwn digidol, ac mae ochr B i’r record hefyd sy’n cynnwys fersiwn estynedig o ‘Aros o Gwmpas’, sef tiwn mawr haf 2017 (un o’r dair cân a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer categori Cân Orau Gwobrau’r Selar eleni).
Cafodd y sengl ei recordio a’i chynhyrchu gan aelod o’r band, sef Llŷr Pari, yn Stiwdio Glan Llyn, Melin y Coed. Iwan Morgan oedd yn gyfrifol am y gwaith mastro, ac fe wnaed y gwaith celf trawiadol gan Mikey Burey, a’r gwaith dylunio gan Daf Owain.
Mae Omaloma hefyd ar fin cefnogi Gwenno mewn saith sioe fel rhan o’i thaith o amgylch y Deyrnas Unedig y gwanwyn yma, dyma’r dyddiadau lle gallwch eu dal:
09/03/2018 Manceinion, Gullivers
10/03/2018 Leeds, Clwb Cymdeithasol Brudenell
16/03/2018 Brighton, Rialto
23/03/2018 Rhydychen, Bullingdon
12/04/2018 Llundain, Neuadd Hoxton
17/03/2018 Ramsgate, Neuadd Gerddoriaeth
Record: Cysgod Cyfarwydd – Mellt
Daeth newyddion mawr o gyfeiriad asiantaeth hyrwydd PYST ddiwedd yr wythnos diwetha’ bod Mellt yn bwriadu rhyddhau eu halbwm cyntaf hir ddisgwyliedig ym mis Ebrill.
Mellt ydy Glyn Rhys-James (llais a gitâr), Ellis Walker (bas a llais) a Jacob Hodges (drymiau) – y tri yn wreiddiol o Aberystwyth, ond bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Mae’r tri ‘di bod wrthi’n recordio eu record hir gyntaf ers peth amser, ac enw’r record fydd Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc. Dyddiad rhyddhau yr albwm ydy 20 Ebrill, a bydd allan ar label JigCal, sef label Mei Gwynedd, sydd hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu’r albwm.
Y cynnyrch diwethaf i Mellt ryddhau oedd eu EP Cysgod Cyfarwydd a ryddhawyd yn 2014 ar JigCal, felly dyma esgus perffaith i wrando eto ar y record yma.
Roedden nhw’n un o’r artistiaid oedd yn rhan o gynllun Gorwelion yn 2015 ac maent wedi hen sefydlu ar y sin fyw yng Nghymru a thu hwnt.
Dyma’r gigs lle gallwch eu dal nesa’:
17.03.18 – Neuadd Buddug Bala (Lansiad albwm Y Cledrau)
24.03.18 – Y Parrot, Caerfyrddin
Dyma deitl-drac yr EP cyntaf mewn perfformiad stiwdio Ochr 1 yn 2014:
Un peth arall…: Albwm cyntaf Blodau Gwylltion
Cyhoeddodd Recordiau Sain yn ddiweddar bod albwm cyntaf Blodau Gwylltion, sef prosiect Manon Steffan Ros ac Elwyn Williams, yn cael ei ryddhau ar 16 Mawrth.
Recordiwyd y caneuon yn Stiwdio Iawn, Aberystwyth dros gyfnod o sawl blwyddyn yn ôl y datganiad gan Sain, ac mae arddull y caneuon a’r recordiadau yn “agos-atoch ac yn bersonol”.
Daeth Blodau Gwylltion at ei gilydd yn wreiddiol gan bod Manon ac Elwyn yn gyd-aelodau o fand Steve Eaves, tad Manon. Daw enw’r band o’r gân draddodiadol, sy’n cael ei chynnwys ar Llifo Fel Oed, ‘Ddoi Di Dei’ – “Pwy sy’n plannu’r blodau gwylltion?” Dewiswyd yr enw oherwydd bod gan Manon berthynas glos iawn â’r gân – arferai ei mam ei chanu iddi pan roedd hi’n ferch fach, meddai Sain.
Mae nifer o themâu i’r albwm, a daw’r teitl, ‘Llifo Fel Oed’ o un o’r rhai amlycaf.
Byddant yn teithio siopau Cymraeg i berfformio ambell gân o’r albwm. Mae’r daith yn cychwyn fore Sadwrn, 17 Mawrth yn Siop y Pethe, Aberystwyth am 10:00, ac yna Siop Awen Meirion, Y Bala erbyn 13:00 cyn gorffen yn Palas Print, Caernarfon am 16:00.
I ddysgu mwy am yr albwm, darllenwch rifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar sydd allan rŵan.
Dyma flas o’r albwm sy’n argoeli i fod yn un hardd iawn: