Pwy ydy Blind Wilkie McEnroe? Dyna’r cwestiwn sydd ar wefusau pawb.
Yn anffodus, does dim ateb ganddom ni eto…er ein bod yn gwybod mai grŵp newydd o ardal Wrecsam ydyn nhw!
Ond, bydd y cyfan yn cael ei ddatgelu’n fuan wrth iddyn nhw ryddhau eu sengl gyntaf ‘Moroedd’, ar label I Ka Ching ddydd Gwener yma, 28 Medi.
Ar yr un diwrnod bydd y band yn perfformio eu gig cyntaf yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd, gan gefnogi dau o artistiaid eraill I KA Ching, sef Candelas ac Y Cledrau. Felly i cyfle i chi weld gyda’ch llygaid eich hunain pwy yn union ydy’r grŵp newydd.
Mae’r noson yn cael ei threfnu ar y cyd rhwng Twrw ac I KA CHING.
Bydd mwy o fanylion ynglŷn â’r band dirgel a’u EP newydd yn fuan meddai’r label.
Yn y cyfamser, dyma’r seng gyntaf ganddyn nhw: