Rhestrau Byr Gwobrau’r Selar yn gyflawn

Rydym bellach wedi cyhoeddi holl restrau byr Gwobrau’r Selar eleni, wrth i ni baratoi ar gyfer y noson fawr yn Aberystwyth nos Sadwrn yma.

Y ddwy restr fer olaf i’w cyhoeddi oedd y rhai ar gyfer categoriau ‘Artist Unigol Gorau’ a ‘Band Gorau’.

Mae’r tri cerddor sydd wedi cyrraedd rhestr fer ‘Artist Unigol Gorau’ yn wahanol iawn i’w gilydd ac yn adlewyrchu’r ystod eang o gerddoriaeth sydd gennym ar hyn o bryd – y tri ydy Mr Phormula, Alys Williams a’r Welsh Whisperer.

Mae’r categori ‘Band Gorau’ bob amser yn un o ddiddordeb, a gyda chymaint o grwpiau gwych ar hyn o bryd roedd y bleidlais yn un ddifyr eleni. Y tri sydd wedi codi i’r brig ydy Candelas, Yws Gwynedd a Band Pres Llareggub.

Bydd enillwyr y categoriau yma, a’r holl gategoriau eraill yn cael eu cyhoeddi yn noson Wobrau’r Selar yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth nos Sadwrn yma, 17 Chwefror.

Dyma’r rhestrau byr yn llawn eleni:

GWOBRAU’R SELAR 2017 – RHESTRAU BYR

Cân Orau (Noddir gan Ochr 1)

Dihoeni – Sŵnami

Drwy Dy Lygaid Di – Yws Gwynedd

Aros o Gwmpas – Omaloma

Digwyddiad Byw Gorau (Noddir gan Y Gig Fawr)

Maes B

Gig y Pafiliwn

Sesiwn Fawr Dolgellau

Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa)

Toddi – Yr Eira

Achw Met – Pasta Hull

Anrheoli – Yws Gwynedd

Band Neu Artist Newydd Gorau (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth)

Pasta Hull

Gwilym

Serol Serol

Hyrwyddwr Annibynnol Gorau (Noddir gan Radio Cymru)

Neuadd Ogwen

Clwb Ifor Bach

Recordiau I Ka Ching

Record Fer Orau (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg)

Yr Oria – Yr Oria

Cadno – Cadno

Pyroclastig – Pyroclastig

Offerynnwr Gorau

Ifan Sion Davies

Branwen Williams

Osian Williams

Record Hir Orau (Noddir gan Rownd a Rownd)

Dyn y Diesel Coch – Welsh Whisperer

Anrheoli – Yws Gwynedd

Toddi – Yr Eira

Cyflwynydd Gorau (Noddir gan Heno)

Tudur Owen

Gareth yr Epa

Huw Stephens

Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan S4C)

Bang Bang – Cadno

Drwy Dy Lygaid Di – Yws Gwynedd

‘di Arfar – The Routines

Artist Unigol Gorau (Noddir gan Rondo)

Alys Williams

Welsh Whisperer

Mr Phormula

Band Gorau (Noddir gan Gorwelion)

Candelas

Yws Gwynedd

Band Pres Llareggub