Rhyddhau ail sengl Bitw

Mae ail-sengl Bitw wedi cael ei ryddhau’n ddigidol ar label Klep Dim Trep.

‘Siom’ ydy enw’r sengl newydd, ac mae’n dilyn y sengl gyntaf gan Bitw a ryddhawyd fel rhan o gynllun Senglau Sain fis Rhagfyr – ‘Gad i mi Gribo Dy Wallt’ .  Cyhoeddwyd fideo i’r trac hwnnw gan Ochr 1 yr un pryd.

Yn ôl y sôn, mae’r trac newydd yn flas o’r hyn sydd i ddod ar yr albwm sydd ar fin ei recordio.

Disgrifir y sengl fel 3 munud a 43 eiliad o bop lletchwith, sy’n cynnwys lleisiau Mari Morgan ac Owain Rhys Lewis.
Prosiect Gruff Ab Arwel (Eitha Tal Ffranco, Y Niwl) ydy Bitw.

Fel y sengl gyntaf, mae fideo wedi’i ryddhau ar gyfer ‘Siom’ ar sianel YouTube Bitw…a dyma fo isod i chi gael cip: