Rhyddhau ail sengl Pendevig

Mae’r ‘siwpyr grŵp’ gwerin Cymraeg, Pendevig, wedi rhyddhau eu hail sengl, ‘Merch y Melinydd’ ddydd Gwener diwethaf, 13 Gorffennaf.

Mae’r trac newydd yn dilyn eu sengl gyntaf, ‘Lliw Gwyn’, a ryddhawyd ym mis Mai eleni a’r traciau ar y cyd yn rhoi blas o’r hyn sydd i ddod ar albwm Pendevig sydd wrthi’n cael ei recordio ar hyn o bryd.

Prosiect sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru ydy Pendevig, ac mae’n gywaith ar y cyd rhwng pymtheg o gerddorion gwerin amlycaf a mwyaf dawnus Cymru ar hyn o bryd gan gynnwys holl aelodau Calan, Gwilym Bowen Rhys, Iestyn Tyne a Jamie Smith ymysg eraill.

Byddan nhw’n perfformio yn eu gig cyntaf wrth gloi un noson yng Ngŵyl Ryng-Geltaidd Lorient, Llydaw – cyn dychwelyd i Gymru mewn pryd ar gyfer cyngerdd olaf yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd

“Mae hwn wedi bod yn un o’r profiadau gorau erioed” meddai Angharad Jenkins o Calan, sy’n rhan o brosiect Pendevig, wrth iddi ddisgrifio’r profiad o weithio gyda gweddill yr aelodau dros y misoedd diwethaf.

“Mae’r agwedd tuag at gerddoriaeth ‘draddodiadol’ o Gymru wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf,” eglura Angharad.  “Daeth gŵyl WOMEX i Gaerdydd bum mlynedd yn ôl, ac yn sydyn roedd fel petai’r byd wedi deffro ac yn gweld potensial cerddoriaeth Gymreig.  Roedd pawb am glywed mwy.  Mae cerddoriaeth o’r Alban ac Iwerddon wedi bod yn adnabyddus ar draws y byd ers blynyddoedd, ond roedd cerddoriaeth Gymreig yn enigma, felly mae wedi bod yn wych teithio’r byd gyda Calan dros y blynyddoedd diwethaf.”

Dylanwadau amrywiol

Rhyddheir ‘Merch y Melinydd’ ar label Synau Pendevig, ac mae hon yn gân ychydig yn dynerach na’r sengl gyntaf, wrth i gerddoriaeth gwerin a jazz gyfuno i greu alaw gofiadwy, gyda llais hyfryd Bethan Rhiannon yn rhoi gwedd yr 21ain ganrif ar hen alaw draddodiadol Gymreig mewn ffordd arbennig iawn.

Mae’r ddwy sengl sydd wedi’u rhyddhau yn gwbl wahanol, ac mae hyn yn adlewyrchu chwaeth a’r dylanwadau cerddorol amrywiol ar unigolion yn y band yn ôl Angharad.

“’Doedden ni ddim yn gwybod sut oedd pethau am weithio wrth ddod at ein gilydd am y tro cyntaf.  Roedd hi’n anodd dychmygu sut y byddem ni’n mynd ati i greu’r gerddoriaeth,” meddai.

“Yr her fawr oedd dewis pa ganeuon y dylem ni’u datblygu er mwyn eu recordio ar yr albwm.  Ond daeth popeth at ei gilydd yn hawdd iawn yn y pendraw, gyda’r pymtheg ohonom ni’n eistedd mewn cylch a dechrau chwarae.  Ac o dipyn i beth, datblygodd y gerddoriaeth gan greu ‘sŵn’ Pendevig, sy’n wahanol i unrhyw beth rydan ni wedi’i wneud o’r blaen.”

“Gobeithio mai cychwyn y daith fyddwn ni gyda Pendevig yn Lorient a’r Eisteddfod.  Mae cymaint o wyliau gwerin ym Mhrydain a thu hwnt a phawb yn chwilio am grwpiau mawr cryf.

“Rwy’n credu fod Pendevig yn cynnig rhywbeth hollol wahanol i unrhyw beth arall sydd yn y sîn ar hyn o bryd.  Mae gennym ni’r angerdd am y gerddoriaeth, yr egni a’r weledigaeth i drawsnewid rhai o’n halawon hynaf a mwyaf traddodiadol i ganeuon sy’n cydio yn nychymyg cynulleidfaoedd yr 21ain ganrif.  Rydan ni i gyd yn awyddus i’r prosiect yma fynd o nerth i nerth ac i deithio’r byd.”

Mae rhai tocynnau ar ôl ar gyfer gig gyntaf Pendevig yng Nghymru yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, nos Iau 9 Awst yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Dyma fideo ‘Lliw Gwyn’: