Mae albwm diweddaraf Candelas, Wyt Ti’n Meiddio Dod i Chwarae?, bellach wedi’i ryddhau’n ddigidol.
Rhyddhawyd yr albwm ar ffurf caled ar 22 Mehefin, a cyn hynny roedd modd rhag-archebu nifer cyfyngedig o becynnau arbennig o’r albwm oedd yn cynnwys bag tote, set o gardiau post a bathodyn, gyda gwaith celf trawiadol Angie Jay. Lansiwyd yr albwm mewn gig arbennig yn y Neuadd Buddug, Y Bala.
Ers hynny mae copïau CD o’r albwm wedi bod ar gael i’w prynu mewn siopau amrywiol, ac er mwyn annog pobl i gefnogi’r siopau hynny mae’r grŵp a’u label, Recordiau I KA CHING, wedi dal dyddiad rhyddhau fersiwn digidol yr albwm nes hyn.
Bellach, mae modd lawr lwytho’r fersiwn digidol, neu ei ffrydio o’r mannau arferol.
Wyt Ti’n Meiddio Dod i Chwarae? fydd trydydd albwm y grŵp o Lanuwchllyn, yn dilyn ‘Candelas’ (2013) a ‘Bodoli’n Ddistaw’ (2014).
Dyma fideo ardderchog Ochr 1 i’r diwn ‘O! Mor Effeithiol’ sydd ar yr albwm: