Rhyddhau albwm cyntaf Mr

Mae albwm cyntaf cyn-aelod Y Cyrff, Catatonia ac Y Ffyrc, Mark Roberts, wedi ei ryddha’n swyddogol ar label Recordiau Strangetown.

Enw ei brosiect unigol newydd ydy Mr, ac enw’r albwm ydy Oesoedd, ac mae’r trac o’r un enw a’r albwm yn un o’r deuddeg amrywiol, ond bachog iawn, sydd ar y casgliad newydd.

Mark Roberts ydy un o gerddorion, a chyfansoddwyr Cymreig mwyaf dylanwadol y pedwar degawd diwethaf. Ffurfiodd Y Cyrff yn nechrau’r 1980au, ac aeth y band ymlaen i fod yn un o’r bandiau Cymraeg mwyaf cyn iddynt chwalu ym 1992. Aeth Mark, ynghyd a basydd Y Cyrff, Paul Jones, ymlaen i ffurfio Catatonia yn fuan wedyn ac roedd yn gyfrifol am gyfansoddi nifer o hits mwyaf y grŵp gan gynnwys ‘Mulder and Scully’ a ‘Road Rage’.

Bu Mark hefyd yn cydweithio â Paul Jones, ynghyd â John Griffiths a Kevs Ford, gyda’r grŵp Sherbert Antlers, gan hefyd gyd-weithio â Jones i ryddhau albwm Y Ffyrc yn 2006. Mae hefyd wedi bod yn aelod o The Earth gyda Dionne Bennett, a Dafydd Ieuan (Super Furry Animals).

Cyhoeddodd ar ddechrau mis Hydref ei fod am fentro ar ei ben ei hun am y tro cyntaf dan yr enw Mr, gan ryddhau albwm ar 26 Hydref. Rhoddwyd trac o’r albwm, ‘Y Pwysau’ ar-lein yn fuan wedi hynny fel tamaid i aros pryd.

Er bod yr albwm yn brosiect unigol – Mark sydd wedi recordio a chynhyrchu’r casgliad ei hun hefyd – mae ei hen gyfaill Paul Jones wedi cyd-gyfansoddi’r trac ‘Y Dyn Ola’n Sefyll’. Mark sy’n chwarae pob offeryn ar yr albwm hefyd, heblaw am gyfraniad gan Daf Ieuan ar y tamborîn nawr ac yn y man.

Mae modd archebu’r albwm ar-lein, ac mae hefyd ar gael yn y siopau Spillers yng Nghaerdydd, Caban ym Mhontcanna, Palas Print yng Nghaernarfon a Bys a Bawd yn Llanrwst.

Bydd cyfweliad llawn gyda Mark Roberts yn rhifyn nesaf Y Selar, sydd allan fis yma.