Rhyddhau albwm Cyntaf Wigwam

Mae’r grŵp ifanc o Gaerdydd, Wigwam, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf ar label JigCal ar ddydd Gwener 3 Awst.

‘Coelcerth’ ydy enw LP gyntaf Wigwam ac fe’i recordiwyd yn stiwdio Seindon yn y Tyllgoed, Caerdydd gyda Mei Gwynedd yn cynhyrchu.

Mae’r albwm yn un amrywiol, gyda chaneuon roc a rôl ysgafn (fel ‘Swn i’m Balchach’) a thrwm (fel ‘Yn Y Byd’), yn ogystal â chaneuon ysgafnach, arafach (‘Gwranda ar yr Afon’).

Mae’r albwm yn dangos parodrwydd y grŵp ifanc i arbrofi gyda genre, gydag ambell flas o werin, pync a ffync i’w glywed yn y caneuon roc a rôl yn ogystal.

Fel tamaid i aros pryd, rhyddhawyd trydyddydd trac yr albwm, ‘Mynd a Dod’, fel sengl fis diwethaf.

Mae’r gân yn rhannu enw gyda sioe gerdd a gafodd ei pherfformio ddwywaith yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod, yn dilyn comisiwn dderbyniodd Wigwam gan yr Eisteddfod Genedlaethol, Cyngor Celfyddydau Cymru ac Ysgol Plasmawr i gyfansoddi’r gerddoriaeth ar gyfer sioe gerdd newydd.

Mae ‘Mynd a Dod’ ac albwm Coelcerth yn brosiectau partner, gyda nifer o ganeuon o’r sioe yn ymddangos ar yr albwm.

Mae aelodau Wigwam i gyd yn ddisgyblion yn ysgol Plasmawr, a’r rhan fwyaf newydd eistedd eu arholiadau Lefel A.

Maen nhw gyda’i gilydd fel band ers ychydig dros flwyddyn, ac wedi gigio’n gyson dros y cyfnod hwnnw, gan gynnwys cystadlu yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau Maes B a BBC Radio Cymru eleni. Er mai Y Sybs gipiodd deitl Brwydr y Bandiau, gellir dadlau mai Wigwam oedd ffefrynnau’r dorf ar y dydd – yn sicr roedd cefnogaeth gref i’r band yn y Bae.

Rydan ni wedi bod yn cadw golwg fanwl ar Wigwam yma yn Y Selar ers eu darganfon yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd ym Mhen-y-bont ar Ogwr llynedd, ac yn falch iawn i weld datblygiad y band dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae mwy am Wigwam, a bandiau eraill ffeinal Brwydr y Bandiau, yn rhifyn newydd Y Selar sydd allan nawr.

Bu Y Selar yn trafod yr albwm newydd gydag Elis o’r band yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd eleni:

Grêt i weld Wigwam yn Steddfod yr Urdd ddydd Gwener – rili wedi dod mlaen yn dda fel band ers iddyn nhw chwarae yn Steddfod llynedd. Gallwch eu dal nhw’n Gig Nos Ffiliffest nos Sadwrn nesaf – mynd i fod yn un dda!

Posted by Y Selar on Sunday, 3 June 2018